Magi a Glyn
Ionawr 13, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
13.01.07 - Wythnos o fyw ym Mhrifddinas Cymru!
Ar ôl rhaglen dydd Sadwrn es i'n syth i'r dre' mewn tacsi ar gyfer recordio cyfweliadau ar gyfer Celebrity Big Brother's Little Brother. Ddim yn gwybod os nathoch chi weld y cyfweliadau, ond mi wnaethon nhw ddangos fi'n cerdded mewn i ddrws gwydr! (doniol iawn i bawb arall!!) Mi oedd fy nheulu i gyd wedi teithio lawr bore Sadwrn i fy helpu i symud fewn i fy fflat newydd. Mae'r fflat yn fwy na plesio - dwi wrth fy modd ag o, edrych mlaen i setlo fewn go iawn rwan. Nos Sadwrn es i allan i'r bae am fwyd efo Mam, Dad a fy nwy chwaer.
Mi wnaeth y 5 ohono ni aros yn fy fflat i nos Sadwrn, cyn teithio'n nôl fyny'r A470 dydd Sul er mwyn i fi gael nôl mwy o ddillad a nôl fy raced tenis a raced badminton. Tra yn Blaena' ges i gyfle i restio cyn meddwl am deithio nol lawr i'r de eto.
Dydd Llun, ges i dacsi o Blaenau holl ffordd lawr i Llanelli, gan fy mod i'n westai arbennig ar Wedi 7. Heledd Cynwal oedd yn fy holi. Ges i gyfle i roi plyg da i C2, a mi oeddwn i'n trafod Celebrity Big Brother 'fyd. Nos Lun oedd fy noson gyntaf yn fy fflat ar ben fy hun.
"Penblwydd Hapus i fi, penblwydd hapus i fi!" Dydd Mawrth mi oeddwn i'n dathlu fy mhenblwydd yn 19 oed. Mi wnes i dreulio 8 awr o fy niwrnod mewn stiwdio yn darllen sgript oddi ar auto cue ar gyfer 'Welsh in a Week'. Gyda'r nos es i allan am fwyd efo Mark Flannagan, sy'n chwarae rhan Jinx ym Mhobol y Cwm, Dyfrig Evans a Rhodri Meilir (y boi na sy'n actio yn My Family) Noson fawr ar y sambucas ac adre!
Mwy o ffilmio i CBBLB bore Mercher cyn mynd draw i swyddfa C2 erbyn 6. Heno o ni'n cyd gyflwyno efo Daf Du, a mi oedd hi'n noson y cwis pop, fy hen ysgol i Dyffryn Conwy, Llanrwst yn erbyn David Hughes Porthaethwy. Yn anffodus Ysgol David Hughes wnaeth ennill, ond chwarae teg mi oedden nhw'n haeddu dod yn gyntaf!
Es i chwarae badminton bore Iau. Doeddwn ni heb chwarae ers amser hir, a mae fy mhen ôl i'n brifo braidd! Ma' na bwll nofio a gampfa yn y bloc o fflatiau lle dwi'n byw, felly nes i dreulio lot o'r diwrnod yn fano. Gyda'r nos mi gefais i wahoddiad am fwyd gan y bobl sy'n byw drws nesaf i fi. Pobl neis iawn, a mi wnaethon nhw goginio fy hoff bryd bwyd, sef cig oen (mae'n amlwg eu bod nhw wedi bod yn gwylio Big Brother!)
Bore Gwener mi aeth Chris (sy'n chwarae badminton efo fi) a fi draw i 'Erddi Sophia i wylio Pencampwriaeth Badminton Cymru.
Gyda'r nos mi ddaeth fy chwaer Annette i aros efo fi a'i chariad Mattias sy'n wreiddiol o Awstria. Mi wnes i goginio bwyd iddyn nhw, fy 'speciality' ar hyn o bryd ydi tatws trwy' crwyn, efo menyn caws a beans! Wedyn mi aethon ni allan i'r bae am y noson.
Newydd gyrraedd fewn i swyddfa C2, gorfod mynd yn syth ar ôl y rhaglen heddiw i ffilmio eto ar gyfer CBBLB! Edrych ymlaen i fynd i stiwdio rwan.
Hwyl
Glyn
x

13.01.07 - Sâl fel ci ac yn dlawd fel llygoden eglwys....
Nes i ddeffro bore Llun gyda gwddwg tost. Y math o wddwg tost sy'n golygu un peth yn unig... ma' annwyd ar y ffordd. Penderfynu bo hynny'n ddigon o reswm i beidio mynd i'r gym heddi' eto. Nai deffo mynd wythnos nesa'. Dim esgusodion. Serch fy salwch - edrych mlaen at gael mynd i'r gwaith 'cos ma Daf Du nol ar C2 yr wythnos yma felly sdim rhaid i fi boeni am gyflwyno'r Sioe Siartiau. Nice one Cyril...
Ma gen i £2.37 i bara fi tan bo fi'n cae fy nhalu ar ddydd Llun so allai ddim neud unrhywbeth tan hynny. Does gen i felly ddim byd o bwys i rannu 'da chi achos fi di gorfod aros mewn a gwrando ar C2 a gwylio rhaglenni realaeth drwy'r wythnos... (Yr hyn dwi wedi ddysgu o orfod gneud hyn: ( Ma Anthony Cotton deffo mynd i ennill Soap Star Superstar a ma Daf lot gwell cyflwynydd na fi...)
Nes i wirioneddol fwynhau raglen bore Sadwrn. Nes i a Glyn cwerthin nes bo ni'n crio. Ymateb ar y testun ac ar y ffon yn anhygoel unwaith eto. Ma Glyn 'di gofyn i griw C2 draw i'r fflat nos Fercher - mae e di addo coginio swper i ni gyd. Felly os ryn ni gyd yn diodde' o salomella ddydd Iau - chi'n gwbod pwy sy ar fai....
Magi
xxx
Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise