Magi a Glyn
Ionawr 06, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
06.01.07 - Symud o Blaenau i Gaerdydd!
Blwyddyn Newydd Dda. Dyma fi yn sgwennu fy e gyfnod cyntaf o'r flwyddyn ar gyfer C2. Nes i ddechrau'r wythnos, neu yn hytrach dechrau'r flwyddyn yn Llanrwst efo fy ffrindiau. Braf iawn oedd cael treulio amser yn y gogledd, heb fod yno llawer ers dod allan o Big Brother.
Dydd Mercher es i draw i weld fy chwaer a'i theulu sy'n byw tu allan i Fangor. Nes i rili fwynhau treulio amser gyda fy nai naw mis oed Dylan. Rhanfwyaf o'r amser mae Dylan yn hogyn da yn enwedig pan oedd ei fam yn yr ystafell, os oedd Alison yn gadael yr ystafell, a dim ond fi a Dylan oedd ar ôl yna mi fyddai'n dechrau crio!
Ar ôl cael swper yn nhy fy chwaer, nes i ddal y tren o Fangor i Gaerdydd. Pump awr o daith, a dwi'n casau pob munud ohoni, yn enwedig pan mae pobl newydd yn dod ar y tren, ac yn syllu arnai!
Ar ôl cyrraedd y brifddinas, es i'n syth i'r gwesty i gael gwely cynnar a gwylio Celebrity Big Brother, gweithio'n gynnar bore fory - felly rhaid i fi gael fy 'beauty sleep'!
Codi bore Iau a syth i ganolfan siopa yng nghanol Caerdydd. Heddiw mi oeddwn i hefo criw camera 'Celebrity Big Brother's Little Brother' yn holi pobl oedd yn siopa am eu hoff gymeriadau nhw o'r gyfres eleni. Nes i rili mwynhau, er fod y cyfarwyddwr yn dweud bo fi'n holi gormod o ferched!! Nôl a fi ar y tren am 5 awr arall i'r gogledd (o leia dyma'r tro olaf i fi wneud y daith afiach yma am sbel!!)
Amser cinio dydd Gwener ges i fy mhigo fyny i fynd draw i stiwdio's Barcud ar gyfer bod yn westai ar raglen Uned 5. O ni ar y rhaglen i sôn am Big Brother a hefyd i plygio fy mod i ar C2 bore fory efo Magi Dodd. Cyn y rhaglen nes i gael gem o Wii efo Ows Goch o Frizbee, oedd o'n 'mega cool', edrych mlaen i brynu un fy hun rwan! Ar ôl y rhaglen nôl a fi i Gaerdydd.
Codi'n fuan bore Sadwrn, a mi oedd Magi, Siân a fi yn swyddfa C2 erbyn 9 o'r gloch. Mi wnaethon ni ymarfer rhai o'r lincs a recordio ychydig o bethau ar gyfer y rhaglen. Erbyn tua 11, mi oeddwn i'n teimlo'n nerfus iawn. Mi nes i fwynhau'r rhaglen, mi wnaeth yna lwyth o bobl gysylltu â ni ar e bost a text, a mi wnaeth yr awr hedfan! Edrych ymlaen i nos Fercher rwan ar gyfer cyd - gyflwyno efo Daf Du! Off a fi rwan lawr i'r dre i recordio ar gyfer CBBLB! Welai chi wythnos nesaf!
Hwyl
Glyn
x

06.01.07 - Wythnos o baratoi yn sedd Daf Du!
Dydd Mawrth, 2il o Ionawr. Nol yn y gwaith. Mingin'. Ar ôl Nadolig gwych yn neud dim ond bwyta, yfed, cysgu a gwylio hen ffilmiau ar y teledu (Superman a Chitty Chitty Bang Bang oedd y goreuon yn fy marn i.. Child Catcher? Moooor scary... ) - roedd meddwl am fynd nol i gwaith mor depressing. Odd e just fel o fi'n teimlo pan odd gwyliau ysgol yn dod i ben - grim. Roedd y ffaith bo fi'n cadw sedd Daf yn gynnes am wythnos yn neud pethe'n waeth fyth. Sioe Siartie gynta'r flwyddyn oedd yn disgwyl amdana fi - oh fabulous! Y Sioe Siartie yw'r rhaglen fwya cymleth ar C2 - a ma Daf yn wych ar y ddesg radio - tra bo fi, ar y llaw arall - ddim. Dechre postif iawn i 2007 felly! Gyda'r sioe siartiau di mynd yn iawn nos Fawrth (Mim Twm yn rhif 1 - Llongyfarchiadau mawr Gai!) o fi'n teimlo lot gwell erbyn dydd Mercher ac yn edrych mlaen at gael croesawi Nia Medi ac Iwan England mewn i adolygu Cd's. Es i i'r un ysgol ag Iwan - odd e'n iau na fi - ond lot mwy brainy. Fi'n cofio athrawes Gymraeg yn dweud wrthai y dylswn i ddilyn esiampl Iwan a chanolbwyntio mewn gwersi achos gath e 100% mewn prawf Mabinogi - a ges i 15%. Ond serch hynny - ni'n dod mlaen yn dda ac odd cal Iwan a Nia mewn yn y stiwdio da fi yn ace.
Roedd yr hyfryd Ian Cotrell mewn 'da fi nos Iau yn datgleu'r newyddion diweddara am y sîn gerddorol yng Nghymru. Ma' Ian yn ace. A ma da fe ddillad rili neis hefyd. Yn anffodus doedd e ddim yn fodlon cadarnhau neu wadu'r sîon ei fod e wedi cael ei daflu mas o dafarn yng Nghaerdydd dros y flwyddyn newydd. Yn bersonol - sa i'n credu'r peth. Mae e lawer rhy barchus - ma daps Ian wastad yn lan iawn - arwydd da yn fy marn i.
Nos Wener nes i ddim cysgu winc. Am 2.30 y bore o fi'n gwylio siannel siopa Americanaidd. O ni mor agos â hyn at archebu The Magic Flab-Busting Water Bed. Peryglus. Dath 7.30 bore Sadwrn lot rhy sydyn ac erbyn i fi gael 85 paned o goffi, (allai ddim hyd agor fy llygaid yn y bore heb gael tunnell o gaffin yn fy ngwaed. Fi'n ystyried cael drip wrth fy ngwely, felly all y caffin fynd yn syth mewn i fy ngwythiennau bob bore,) roedd Sian Alaw a Glyn tu fas y ty yn aros amdanai.
Ar ôl cyrraedd y swyddfa nethon i gymryd hanner awr yn edmygu lluniau Glyn yn y Western Mail cyn dechrau ymbaratoi yn feddyliol ac yn gorfforol am y rhaglen - chydig bach o Yoga ac odd Glyn a fi'n barod i rocio'r genedl!
Odd y ddau ohonon ni yn nerfus ar ddechre'r rhaglen ond erbyn hanner ola'r rhaglen roedd Glyn a fi 'di dechre joio. Nath yr awr hedfan a chyn i ni droi rownd roedd y rhaglen gynta' ar ben. Odd Glyn yn fab - mor naturiol a llawn egni. Ma'r ddau ohono ni'n edrych mlaen at wythnos nesa a'r wythnosau i ddod - ma pethe'n mynd i wella a gwella.
Ath Siân, Mair, Robin a fi mas am ginio i ddathlu'r rhaglen gyntaf b'nawn Sadwrn. Yn anffodus roedd yn rhaid i Glyn fynd i'r dre i recordio vox-pops ar gyfer Celebrity Big Brother, ond nethon ni godi gwydr iddo fe yn ei absenoldeb. Nath Ian Cottrell ymuno yn y dathlu hefyd. Roedd e'n gwisgo daps gwyn glan. Lyfli.
Magi
xxx
Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise