BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageBrwydr y Bandiau
Angen gwybod mwy?

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored (yn unig) i:

  • Grwpiau lle mae rhan fwyaf yr aelodau yn 21 mlwydd oed neu iau.

  • Grwpiau sydd heb rhyddhau albym, sengl neu EP yn fasnachol (ar werth yn y siopau). Mae bandiau sydd ond wedi cyfrannu traciau at CDs amlgyfrannog yn iawn i gystadlu.

  • Grwpiau o unrhyw fath: roc/ hip-hop/ gwerin/ acwstig/ jazz/ pop/ gwlad/ blŵs etc.

  • Grwpiau sydd yn cynnwys unrhyw nifer o aelodau, yn cynnwys deuawdau ac unigolion.

    2. Beth sydd angen gwneud i gystadlu

  • Mae angen i fandiau gysylltu gyda'u Menter Iaith leol. Mae rhestr llawn o Fentrau ar wefan www.mentrau-iaith.com.

  • Mae angen i bob band chwarae 3 cân Gymraeg hollol wreiddiol. Mae angen i'r caneuon fod yn addas i'w darlledu ar y radio (hynny yw, bod y iaith a'r cynnwys yn lân).

    3. Y Rowndiau

  • Rownd 1 (Y Rowndiau Sirol)
    Yn y rowndiau sirol mae bandiau yn perfformio tair cân yn fyw ac yn cystadlu yn erbyn bandiau eraill o'r un sir. Mae dau fand o bob sir yn mynd ymlaen i'r rownd rhanbarthol.

    Os nad oes yna ddigon o fandiau Cymraeg mewn un sir mae'n bosib bydd y Mentrau yn cydweithio. Pan does dim rowndiau sirol, weithiau fe all bandiau fynd ymlaen yn syth i'r rownd rhanbarthol.

    Y Mentrau Iaith sydd yn trefnu'r rowndiau sirol. Mae'r rowndiau sirol yn cael eu cynnal yn ystod mis Ionawr a Chwefror 2006.

  • Rownd 2 (Y Rowndiau Rhanbarthol)
    Yn y rowndiau rhanbarthol mae bandiau yn perfformio tair cân yn fyw ac yn cystadlu yn erbyn bandiau eraill o'r un rhanbarth. Mae'r rowndiau rhanbarthol yn cael eu cynnal yn ystod mis Chwefror a ddechrau mis Mawrth. Mae tri band o bob rhanbarth yn mynd ymlaen i Rownd 3.

    Mae 4 rhanbarth sef:
    Y Gogledd
    Y Canolbarth
    Y De Ddwyrain
    Y De Orllewin

    Mae C2, Radio Cymru yn recordio'r bandiau yn perfformio'n fyw i'w darlledu yn ystod Rownd 3. Mae C2 hefyd yn cymeryd lluniau i'w rhoi ar wefan C2 (bbc.co.uk/c2). Mae'n rhaid i'r holl ganeuon fod yn addas i'w darlledu ar y radio (hynny yw, bod y iaith a'r cynnwys yn weddus).

    Mae system sain (PA) yn cael ei ddarparu. Y Mentrau Iaith sydd yn trefnu'r rowndiau rhanbarthol.

  • Rownd 3
    Mae Rownd 3 yn cael ei darlledu ar raglen C2 ar Radio Cymru ar 14, 15, 16 o Fawrth 2006 (rhwng 8pm a 10pm) lle darlledir caneuon a recordiwyd yn fyw yn ystod y Rowndiau Rhanbarthol. C2 fydd yn dewis pa ganeuon gaiff eu darlledu.

    Mi fydd 2 feirniad yn y stiwdio yn rhoi marciau i bob band ac, ar y noson, bydd cyfle i'r gwrandawyr bleidleisio dros eu hoff grŵp. Mi fydd marciau'r beirnaid yn cael eu adio i ganran pleidlais pob band i gael y 'marc terfynol'.

    Bob nos fe fydd y 2 fand sydd â'r 'marciau terfynol' uchaf yn mynd ymlaen i'r Rownd Derfynol. Bydd y bandiau yma yn cael y cyfle i fynd i stiwdio sain am un diwrnod i recordio cân (sef y gân a ddarlledwyd yn Rownd 3).

    Bydd angen i'r bandiau fynd i'r stiwdio cyn Ebrill 4ydd ar yr hwyraf, felly rydym yn annog bandiau i gadw'r amser rhwng Rownd 3 a Rownd 4 mor rhydd â phosib.

  • Rownd 4 (Y Rownd Derfynol)
    Bydd y Rownd Derfynol yn cael ei darlledu ar raglen C2 ar Radio Cymru am 8pm ar nos Fercher, 5 Ebrill 2006. Yn ystod y rownd yma byddwn yn darlledu'r caneuon gafodd eu recordio gan y 6 band yn y stiwdios.

    Unwaith eto mi fydd 2 feirniad yn y stiwdio yn rhoi marciau i bob band a bydd cyfle i'r gwrandawyr bleidleisio dros eu hoff grŵp ar y noson. Mi fydd marciau'r beirnaid yn cael eu adio i ganran pleidlais pob band i gael y 'marc terfynol.'

    Y grŵp sydd â'r 'marc terfynol' uchaf sydd yn ennill y gystadleuaeth.

    4. Y Gwobrau
    Bydd y grŵp sy'n ennill yn cael:

  • Sesiwn i C2, Radio Cymru
  • Ymddangos ar raglen deledu Bandit ar S4C
  • Rhyddhau CD
  • Perfformio yn Maes B, Eisteddfod Abertawe 2006
  • Chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
  • Perfformio mewn un o ddigwyddiadau mawr Radio Cymru

    Os oes gennych mwy o gwestiynau gallwch gysylltu â'ch Menter Iaith leol os yw'n ymwneud â'r Rowndiau Sirol a Rhanbarthol, neu ebostiwch C2 ynglŷn â Rownd 3 a 4 ar c2@bbc.co.uk.


  • Gwrando Eto

    Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

    Podlediad

    Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

    Gwylia hwn!

    Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



    Amserlen C2:
    Wythnos y Cyflwynwyr

    Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy