Y diweddaraf...
Cyflwyniad
Swynwyr bachog tu hwnt o Gaerfyrddin sy'n rhai o ddarpar ser gorau sin roc Cymru. Yn arwain y don newydd o grwpiau hynod greadigol a deallus mae'r TRB yn brysur creu argraff ar bawb sy'n eu clywed.
Cynnwys
Esmwyth. Gair sy'n disgrifio Texas Radio Band i'r dim. Ers eu ffurfio yn niwedd y nawdegau maent yn grwp sydd wedi rhagori mewn creu tiwniau diog eu naws yn ddyfn i'r llyfn. Tan yn ddiweddar hynny yw. Nid esmwyth yw'r ansoddair cyntaf ddaw i'r meddwl wrth ddisgrifio'r sengl Love is Informal oedd allan yn fuan yn 2002 fel sengl y mis Boobytrap.
Yn blwmp, ac yn wir, plaen, ni chlywch gân mwy bywiog a bachog na hon y flwyddyn yma. Byddai'n galed ar Anweledig, Abba, Nâr a'r Pogues hefo'u gilydd i greu tiwn mor llon a hapus a Love is Informal, trac sy'n eich ysgwyd o'r cychwyn cyntaf gyda llais a chorws gwefreiddiol a defnydd cywrain o dechnegau i greu wal o swn effeithiol ac ysbrydoledig i fod yn gefndir i'r gitars heipo a'r dôn lleisiol arbennig.
Yn gynnar yn 2004 gafodd eu halbym hir-ddisgwyliedig Baccta' Crackin' ei ryddhau ar label Recordiau Slacyr Records. A dyma gwaith gorau'r TRB hyd yma - clasur o albym yn llawn o berlau o ganeuon - o Fideo Hud a Chwaraeon, caneuon a recordwyd yn wreiddiol fel sesiwn i C2 ar Radio Cymru, i anthemau hudolus fel Rhan o Ni. Dyma'n sicr un o gyfraniadau pwysica 2004 i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Ond yn ôl i ddiwedd y nawdegau a'r demo a recordiwyd cyn ei yrru at Gang Bangor oedd yn cynnwys Stuff U and Rack Off (neu Bobsleigh fel y'i gelwir nawr), Seymoor a Casino, a dderbyniwyd yn wresog. Arweiniodd hynny i recordio'r albwm fer Y Tywysoges ar Rasp, is-label Fflach, ac yn ffodus roedd sgiliau cyfansoddi'r TRB yn llawer gwell na'u treiglo.
Yn enghraifft bendigedig o diwniau melodaidd a hynod esmwyth clywyd y ryddmig Bobsleigh, y coeth Dim Defnydd Heb Chwerthin, y drac deitl caboledig Y Tywysoges a'r Maybe Baby rhyfeddol ac anarferol, ar ben y Casino breuddwydiol ac eraill ar yr albwm fer mwyaf esmwyth i'w glywed ers Handel. Mae Texas Radio Band yn parhau i gigio'n frwd a dylai hyn ddwyn ffrwyth mewn byr amser os oes unrhyw gyfiawnder yn y byd 'ma.
Genre:
Roc/seicedlig
Aelodau
Matthew Williams - llais, gitar
Rhodri Davies - allweddelli
Rhydian Jones - bas
Alex Dingley gitar
Gruff - drymiau
Brychan - offerynau taro
Lincs perthnasol
Gwefan Texas Radio Band - www.texasradio.co.uk
Gwefan Fflach - www.fflach.co.uk
Gwefan Recordiau Slacyr Records www.slacyr.co.uk