Y diweddaraf...
Cyflwyniad
Ym Metws y Coed clywir swn Melys yn atsain drwy y dref. Ar ôl blynyddoedd o greu'r roc gorau i'w glywed yng Nghymru mae Melys yn awr o'r diwedd yn derbyn y bri a'r clod maent yn ei haeddu.
Cynnwys
Ar Ionawr y cyntaf 2002 roedd gan Melys mwy o achos i ddathlu na'r rhan fwyaf ohonom. Wrth wrando ar 50 uchaf y flwyddyn fel y pleidleisiwyd gan wrandawyr rhaglen John Peel ar Radio 1 daethpwyd at rhif un, ac yn sioc llwyr i'r band dyna lle oedd eu sengl, Chinese Whispers.
Eu cân hwy felly oedd y gorau o'r flwyddyn gan y gwrandawyr mwyaf craff a gwybodus ar yr ynysoedd hyn, a darganfuwyd yn fuan fod y 12,000 copi o'r sengl wedi gwerthu allan ers hydoedd. Wrth gwrs, doedd hyn ddim yn sioc o gwbl i'r rhai oedd wedi adnabod gwaith Melys ers blynyddoedd. Yn wir, rhaid mynegi heb fod yn wamal fod Chinese Whispers yn diwn eithaf di-nod ag ystyried rhai o'r caneuon gwych sydd yng nghatalog cefn Melys.
Mi rof fet nad oedd y grwp erioed wedi ystyried hon fel y gân fyddai'n eu taflu i enwogrwydd, gan nad ydi o'n ddim nad ydynt wedi ei wneud o'r blaen. Dechrau araf, melodaidd nodweddiadol, yn tarannu i mewn i gytgan ar wal siarp o swn ewphorig gyda Paul yn llwyddo i gael allbwn aruthrol o'i gitar. Os oeddech yn hoff o Chinese Whispers ewch yn ôl i 1999 a Baby Tornado, sydd fwy neu lai yr un tric wedi ei luosi efo deg gyda twang mor wyllt, pheryg a blin mae'n gwneud i'r Tystion swnio fel Steps. Yn debyg i'r hyn a glywir ar yr albwm Kamikaze, a mae'n anhygoel.
Ar y sengl Baby Tornado hefyd mae ymgais y grwp yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, Elenya, sy'n gwbl y ffordd arall gyda'i felancoli dwys hyfryd, a Penysgafn sy'n cwblhau triawd clodwiw ar y naw. Nodir fod hi'n anodd meddwl am grwp sydd â chatalog mor llawn a chynhwysfawr yn y Gymru ddiweddar â Melys - 16 rhyddhad ers 1996 ac yn cynyddu, gyda nifer fawr o ymddangosiadau ar albwms amlgyfrannog ar ben hynny.
Am enghrefftiau eraill o Melys ar eu mwyaf cythryblus dylid cael gafael ar EP Slagging Off Tourists a'r gân agoriadol bendigedig Disco Pig, yn adio elfen electronica i'r fformiwla arferol gan arwain at gytgan a chresendo trawiadol. Heb os hefyd dylid gwrando ar y sengl Un Darllenwr Lwcus, sy'n un storm tanbaid am wenwyn ieithyddol mewn perthynas rhwng merch Gymraeg a dyn di-Gymraeg, a medrir ond gobeithio mai o ddychymyg Andrea a Paul daeth yr ysbrydoliaeth. Ond o le bynnag y daeth, mae'n drac aruthrol a phwerus, yn poeri bwcedi o gynnwrf a thensiwn ar gyflymder anturus, didostur.
Yr uchod yw enghreifftiau gorau o waith cyffrous Melys, ond does dim dwywaith fod cynnyrch y grwp yn llawn o'r tiwniau a'r geiriau mwyaf neis, melodaidd a hyfryd sydd i'w clywed. I daro enghreifftiau allan o ddegau ar ddegau beth am Waiting To Fall a Cân y Gegin oddi ar Kamikaze, Noeth a Let Yourself Scream oddi ar yr arbennig Fragile, eu albwm fer cyntaf nôl yn 96, Mae'n Amser i newid a Porn Myself oddi ar Slagging Off Tourists i enwi ond canran fach. Roedd Melys yn hynod weithgar heb gyrraedd unrhyw fath o enwogrwydd.
Erbyn hyn, mae'r grwp wedi tyfu mewn poblogrwydd drwy Gymru ac Ewrop - mae'u sylfaen cefnogaeth yn cynnwys ffans brwd iawn yn yr Iseldiroedd. Daeth yr albym Suikerspin allan yn 2002 a doedd dim angen aros yn hir tan yr albym nesaf, Casting Pearls, gafodd ei ryddhau yn 2003 oedd i gynnwys y gân So Good gafodd ei ryddhau fel sengl yn 2002.
Genre
Roc, electronig.
Aelodau
Andrea Parker - llais
Paul Adams - gitar, llais cefn
Gary Husband - drymiau
Rich Eardley - bas
Lincs perthnasol
Gwefan Melys - www.melys.co.uk