BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageMC Mabon
Y stori....

Cyflwyniad
MC Mabon, neu Gruffydd Meredith i roddi ei enw iawn. Rap a hip hop ffyrnig a threiddgar gan un o sefydlwyr Y Tystion. A mae ganddo lais gwych ar ben hynny.

Cynnwys
Roedd nifer yn drist wrth glywed am ymadawiad Gruff Meredith o'r Tystion, gan fod ei ddylanwad yn amlwg yn drwm ar eu miwsig, a rhai yn darogan gwae. Heb os, fe wnaeth y Tystion barhau yn llwyddianus iawn wedi ei ymadawiad, cyn chwalu yn 2002. Ond does dim dwywaith fod MC Mabon wedi gwneud enw iddo'i hun fel un o'r artistiaid mwyaf blaenllaw yng Nghymru, ei waith yn wrando hanfodol.

Pan ddaeth Mr Blaidd allan yn 2000 cafodd ei adnabod fel un o'r gweithiau pwysicaf ers blynyddoedd, yn gwthio ffiniau cerddoriaeth, nid yn unig yn y Gymraeg, i diroedd newydd. Fe gadarnhawyd hefyd safle Ankstmusik fel y label sefydledig mwyaf beiddgar (neu bleiddgar!) yng Nghymru. Roedd yn ymdrech sylweddol, yn 15 o ganeuon hynod amrywiol yn ffitio'n llac iawn i mewn i'r teitl 'hip hop'.

Dechreua gyda Barclod y Gawres, yn eiriau barddonol, proffwydol 'Poni welwch' dros linynnau dwys, araf, y tawelwch cyn y storm, cyn i Ffyrnig ffrwydro arnom gyda'i floeddio yn eich gwyneb cynhyrfus. Yna daw'r ffantastig Aros am Bysus a Trenau, sy'n brofiad aml i Gruff yn amlwg, cyn y rant wych XR3i, sydd wedi ei gyfeirio at ryw unigolyn penodedig anffodus, megis Dr Dre, Tupak Shakur a ffraeo'r rapwyr west ac east coast, gan edliw a chymharu ei sefyllfa ei hun mewn bywyd. Daw mwy o hynny yn Helynt y Dannodd Annodd (sic), lle mae'n sôn yn ddigri am ei boen aruthrol wrth fethu cael deintydd fyddai'n ei drin a gyrru'n ddi-glem rownd Gogledd Cymru wrth drio datrys y broblem.

Dylid nodi'n ogystal caneuon megis yr apocalyptaidd, didostur Water Wars, y cythryblus, pynci Anifail Gwyllt, a bowns dyrnodedig Neith y Byd i'm Para'm Byth. Albwm hollol arbennig, a ganlynodd mewn sesiwn i raglen John Peel. Ym Mehefin 2001 daeth y sengl People Are so Stupid/ Route allan, oedd yn flas o'r albwm ddisgwyliedig The Hunt For Meaning, oedd allan mewn ychydig wythnosau wedyn. Eto roedd yn arddull anodd i'w gategoreiddio, gydag elfen hip hop wedi ei gymysgu a phob math o steils a churiadau.

Mae The Ballad of MC Barley Crusher er enghraifft yn araf, melodig a Thseiniaidd gyda newid sydyn ar ôl 3 munud i roc trwm Americanaidd. Albwm 'concept' yw hi, hynny yw albwm sydd â stori drwy'r caneuon, yn dilyn hanes Iago Prydderch wrth iddo geisio darganfod ei reswm am fodoli a chwestiynau hawdd felly. 'Play their game but don't you ever be tamed' yw'r cyngor ar y gyntaf ffynci, Get It Out Yo System, ac yna mae siwrnai Iago i ddarganfod y goleuni ar gychwyn. Ond a yw Iago yn llwyddo? Dweud fyddai hynny. Cawn wybod drwy gyfrwng dyrnu trwm Spirit Level, rap ska Cilboy Emcees, roc newydd F*** U if U Think You're Cool, arafwch hudolus a rap sgows Fire Within, a diweddglo syfrdanol The Hunt ymysg eraill. Albwm arall hynod glodwiw, a sylfaen gwych i'r albym nesaf, hynod fachog, Nia Non daeth allan yn 2002.

Un o'r albyms 16-trac byraf erioed, yn ddim ond 32 munud o hyd ac yn llawn o glasuron fel 'Cariad Du', 'Pan Ti'n Cyredd y Stesion' a'r arbennig 'Tymheredd yn y Gwres' - un o anthemau'r flwyddyn. Yn fuan wedyn yn 2003 fe aeth MC Mabon draw at label Boobytrap o Gaerdydd i ryddhau'r albym 'Pryna hwn rwan cyn i'r boi sgrynshio clustie ddod rownd. ***t'. Albym dwyieithog gyda thema pornographic ar y clawr.

O fewn chwe mis daeth MC Mabon, oedd yn prysur profi yn un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol Cymru, ag albym newydd allan eto - ond y tro ar label recordiau RASP (is-label Fflach). Albym amrwd, gyda'r caneuon i gyd yn swnio'n fyw iawn - o'r enw 'Cleishie'.

Disgograffi:
Mr Blaidd (2000) - ankstmusik
Go Iawn Wir Yr/ Western Avenue (2000) - Boobytrap
People are Stupid/Route (2001) - ankstmusik
The Hunt for Meaning (2001) - ankstmusik
Nia Non (2002) - ankstmusik
Pryna hwn rwan cyn i'r boi sgrynshio clustie ddod rownd. ***t (2003) - Boobytrap
Cleishie (2003) - RASP

Genre
Roc ac arbrofol, trefol.

Lincs perthnasol
www.mcmabon.co.uk
www.ankst.co.uk



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy