Yr hanes...
Cyflwyniad
Yn gerbyd i dalent cerddorol a barddonol aruthrol David R. Edwards, caiff Datblygu eu hadnabod yn eang fel y grwp mwyaf arloesol erioed yn y sîn Gymraeg gyda cyfoeth eu curiad electronig yn gyfrwng i'w hymosodiadau damniol ar natur dyn a chymdeithas. Cymru, Eich Sylw Plis.
Cynnwys
Does dim dwywaith fod dylanwad David R. Edwards wedi bod mor gryf ac unrhyw artist ar y sîn Gymraeg. Byddai'r anwybodus yn gweld ei negeseuon yn radical, adain chwith, ac eraill yn eu gweld fel rhai o'r geiriau doethaf, mwyaf treiddgar a glywsant yn eu bywyd, yn deilwng o'r teitl athroniaeth. Gyda T. Wyn Davies dechreuwyd Datblygu pan oeddynt yn ddisgyblion ysgol yn 1982 cyn i Patricia Morgan ymuno yn 1985.
Erbyn hynny roedd pedwar caset wedi eu rhyddhau gan y grwp, Amheuon Corfforol, Trosglwyddo'r Gwirionedd, Fi Du a Caneuon Serch i Bobl Serchog. Yn 1995 sefydlwyd Datblygu yn gadarn i'r sîn gyda dwy gân ar yr albwm amlgyfrannog Cam o'r Tywyllwch ar label Recordiau Anrhefn. Cân am gariad, syml a phur, yw Y Teimlad, yr unig dro i Datblygu daclo'r pwnc hwnnw heb surni neu wawd, a'i grynhoi'n berffaith, yn llawer gwell na byddai grwpiau sydd â 'chariad' yn sylfaen i bob un cân. Cafwyd fersiwn arall ohoni ar Mwng gan y Super Furry Animals. Yn gwbl i'r gwrthwyneb addfwyn hynny yw Nefoedd Putain Prydain, trac sy'n gafael ac ysgwyd a phoeri casineb; 'Chi'n gwisgo yn eich ffasiynau ffug, eich crys ceidwadol yn y disgo, dim ond wrth gopio rhywun arall y'ch chi'n gwybod beth i'w wisgo'. 'Ni gawn ni y sylw ru'n i'n haeddu, gan ein bod yn byw mewn Cymru crymi'. 'Pawb wedi marw o'r gwddf i fyny'.
A hyn oll yn mynd ar diwn troelliog, wyneb i waered, gochelgar. Cafwyd dwy gân aruthrol arall ar Gadael yr Ugeinfed Ganrif, y dilyniant amlgyfrannog, Hollol, Hollol, Hollol a Cyn Symud I Ddim oedd yn parhau a'u harddull blin, bachog i effaith bendigedig. Erbyn eu EP Hwgr Grawth-og yn 1986 roedd Datblygu yn wrando angenrheidiol, Casserole Efeilliaid yn arbennig yn adio ei neges haerllug ffynci i'r catalog anhepgor.
Rhyddhawyd eu halbwm llawn gyntaf yn 1988, ac roedd Wyau yn gyfrwng i ochr barddonol Edwards amlygu ei hun mewn arddull mwy rap ffwrdd a hi, caneuon megis Mynwent ('Mae gyrru lan trwy ganol Cymru fel cerdded yn y nos rownd mynwent, tai llwyd heb oleuadau, maent yn troi i mewn i feddau...sdim rhyfedd fod gyrrwyr yn yfed') a 23, cân bersonol, ffug emosiynol ('Ro'n i'n 23 ddydd llun, ac rwy'n teimlo ac edrych fel Jock Stein... sylweddolais rhy gynnar, mod i'n fastard bach clyfar, nawr rwy'n oer ac aflonnydd ac am wneud menyn o f'ymmennydd') yn enghreifftiau neilltuol.
Dilynwyd Wyau gyda Pyst yn 1990, albwm yn parhau y traddodiad o sylwadau cymdeithasol miniog ('mae cymdeithasu yn farchnad gwartheg') ar diwniau anghyffredin, newydd a diddorol megis Cymryd Mewn Sioe ac Ugain i Un. Rhyddhawyd Blwch Tymer Tymor y flwyddyn ganlynol, myfyrdodau a doethinebau unigryw Datblygu ar wyl y Geni oedd yn cynnwys caneuon megis 3 Tabled Doeth, Santa a Barbara a Ga i fod Sion Corn, ymson sur iawn ar natur y gymdeithas gyfalafol sy'n trin pawb fel cynnyrch. Yn 1992 rhyddawyd y sengl wych, caled Maes E, oedd yn codi cwestiynau am ei hunanoldeb a'i ddiffyg pwer yng ngwyneb camweddau y llywodraeth gartref a thramor, yn ogystal ac albwm o'u sesiynau ar raglen John Peel ar Radio 1, oedd yn ffan mawr ac yn gwneud ei orau i'w hyrwyddo, a diddorol yw cymharu hynny a'u proffil yn y cyfryngau Cymraeg.
Wel, rhaid gochel y bobl rhag negeseuon ymfflamychol fel hyn bid siwr. Roedd y sengl ar yr albwm Libertino a ryddhawyd y flwyddyn ganlynol, uchafbwyntiau yn cynnwys Gazpacho a Cân i Gymry ar albwm hynod effeithiol a thaclus. Ffarweliodd Datblygu a'r sîn mewn steil yn 1995, yr EP Putsch yn cynnwys Alcohol a'r anhygoel Amnesia yn crynhoi eu neges i'r dim ('hoffwn i ddioch i'r merched ar y stryd, am ladd y cwestiynau pam sut a phryd') mewn tiwn gogoneddus, gan ddirwyn i ben dros ddegawd o gynnyrch niferus, digyfaddawd, bendigedig. Athrylith.
Aelodau
David R. Edwards - llais
T. Wyn Davies - Allweddelli, amrywiol
Patricia Morgan - Allweddelli, amrywiol, llais cefn
Al Edwards - Drymiau
Lincs perthnasol
www.ankst.co.uk/dat1.htm
www.ankst.co.uk/web86+87e.htm