Melys a K AFC
Mawrth2003
Gareth Potter o'r grwp techno Ty Gwydr, a Rhodri Morgan - na nid Prif Weinidog y Cynulliad, ond prif leisydd Cerrig Melys, gafodd wahoddiad i stiwdio C2 i adolygu dau Gryno Ddisg newydd sbon yng nghwmni Huw Stephens.
Y cyntaf oedd albym newydd Melys, Casting Pearls. Gafodd yr albym ei recordio yn Stiwdio Ofn dros Haf llynedd, a mae hi wedi ei rhyddhau ar label y grwp, Sylem. Yr ail oedd sengl newydd Kentucky AFC, Bodlon. Bydd rhai ohonom yn cofio'r grwp pan oedden nhw'n galw eu hunain yn Cacen Wy Experience - ond sut brofiad yw gwrando ar ei stwff diweddara? Dyna ofynon ni i Gareth a Rhodri...
KENTUCKY AFC Bodlon
Ma na dri mix o'r gân Bodlon ar y sengl, sy'n cael ei rhyddhau ar label R-Bennig (am fwy o fanylion ewch i'r safle gwe www.r-bennig.co.uk). Does na ddim dyddiad rhyddhai i'r sengl hyd yma, ond roedd yr ymateb iddi o du ein gwesteion yn ffafriol iawn...
"Ro'n ni'n casau'r gân pan glywes i 'ddi gynta", medde Rhodri. "Ro'n i'n meddwl "Plis! Na! Nid rhywun arall sy'n trio swnio fel Gorky's Zygotic Mynci." Ond wedyn ddoth y gytgan a nath e swyno fi yn llwyr. Es i'n sili am y peth yn gyfan gwbwl. Ac erbyn y diwedd, ro'ni wrth fy modd â hi."
Roedd Gareth hyd yn oed mwy pendant ei ganmoliaeth, "Bril - love it, love it, love it. Ma hi'n gân lyfli. Ma hi mor syml. Ma syniad gennyn nhw a ma nhw wedi cadw hi mor syml. Wedyn ma na harmonies anhygoel - mae'r gân yn hollol bril - a da iawn nhw."
Roedd y mixes gwahanol hefyd yn taro deuddeg gyda'r ddau - yn ôl Rhodri - "Dwi wrth fy modd â mix lleddfol y gân, mae'n anhygoel. Allai ddim ei chanmol ddigon." A'r anfodlon mix oedd yn mynd â brid Gareth. "Dyw'r gytgan ddim ar y mix yma, ond ma na rywbeth electroneg yn digwydd, a ma na organ o'r 60au - mae'n wych. Ma nhw'n dewis colli'r gytgan anhygoel sy yn y gwreiddiol - ond mae'n amlwg bo digon o hyder ganddyn nhw i neud 'ny. Bril."
Marciau allan o 10 Kentucky AFC - Bodlon:
Rhodri - 10.5/10 (!)
Gareth 8.5/10
Melys Casting Pearls
Mae Melys wedi bod wrthi ers blynyddoedd bellach - yn recordio, yn gigio, yn swyno cynulleidfaoedd dros Gymru a thu hwnt ac mae'r ffaith mai dyma 3ydd albym y band yn dyst o'u poblogrwydd. Mae gan y grwp o Fetws y Coed stiwdios eu hun, sy' wedi bod yn gartref cerddorol i rai o fandie mwya newydd cyffrous y flwyddyn ddiwetha' - Gabrielle 25, Kentucky AFC a Derrero yn eu plith.
Ond be am y grwp ei hun? Ydyn nhw'n dal i dynnu dwr o ddannedd eu cynulleidfa - neu ydy pethe di chwerwi ychydig i Melys?
Ffrwyth llafur haf o recordio yw Casting Pearls, ac mae hi'n cynnwys 11 trac newydd sbon, ond ym marn Gareth, doedd yr albym ddim yn cynnig unrhywbeth newydd iddo fe...
"O, cheer up guys..Ma na platitudes sy'n dod mewn i'r caneuon yma - fel yn Beautiful Life. Mae'r geiriau fel "Everyday is precious, it's a beautiful life" - mae'n swnio fel rhywbeth sa ti'n gweld ar lunie o gwn a chathod bach ti'n gweld yn nhy dy fodryb."
"Na, na na na na."
Doedd Rhodri chwaith ddim wedi ei blesio. "Roedd gan Melys botensial i fod yn fand tebyg i Stereolab, rhywbeth arbrofol, ond eto rhywbeth poblogaidd hefyd. Ond dyn nhw ddim wedi gwireddu hynny. Y fy marn i, mae'r cynhwysion yna ond dyn nhw ddim yn gwiredd'r peth dyn nhw ddim yn delifro - siomedig iawn."
Marciau allan o 10 i Melys - Casting Pearls:
Rhodri 3/10
Gareth "Dwi rili ise lico nhw - so 5/10, ond dwi'n siwr y gallen nhw neud yn well..."