BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageMC Saizmundo
Blaen Troedar
Chwefror 2004

Nos Fercher y 4ydd o Chwefror, nath Huw Stephens estyn croeso i stiwdio C2 i Rhodri Morgan, prif leisydd Cerrig Melys, a Curig Huws, y gwr sy'n rhoi y Lo Cut yn Lo Cut a Sleifar. Nath Huw ofyn am eu barn ar y CD Yn Cyflwyno Blaentroedar gan MC Saizmundo.

Casgliad o waith MC Saizmundo (Deian ap Rhisiart) rhwng 2001-2003 yw Blaen Troedaer a mae'n cynnwys Dafydd Bach ar Mynach, Siberia Cymareg a'r anfarwol Terry a Huw.

Fel rocker go iawn, cyfaddefodd Rhodri, nad oedd yn rhy gyafrwydd â'r sîn hip hop,
"Nid fi yw'r arbenigwr penna ar hip hop, ond y teimlad cynta ges i oedd bod yr albym yn undonog iawn. Nawr, dwi ddim yn gwbod pam nes i deimlo ei fod mor undonog, gan fod yma gymysgedd o arddullie cerddorol ac o byncie, ma na ffieidd-dra, hiwmor, ma na rhai caneuon reit deimladwy hefyd - ond doedd dim y killer cytgan yna. Yr hooks sy'n rhoi amrywiaeth i'r caneuon."

Doedd Curig, sy'n real hip-hopper, ddim yn cytuno,
"Fi'n angytuno gyda Rhodri - sai'n gweld yr albym yn undonog o gwbwl. Nes i rili fwynhau e. Fi'n meddwl bo hip hop yn gweithio ar lefel lle ti'n gwrando i ddechre ar y beats a wedyn y miwsic, ond yma hefyd ma 'na ddyfnder masif. Fi di gwrando ar yr albym 6 neu 7 gwaith nawr, ond fi'n teimlo bo fi ond wedi crafu'r wyneb."

Cytunodd Rhodri, fod gan Saizmundo ddigon i'w ddweud,
"Mae'n hynod o ddifyr yn yr ystyr ei fod yn herio'r gwrandawyr. Mae'n foi blin iawn. Mae'n cymryd lein lled-eithafol, Cymuned, math o beth o ran materion ieithyddol, a wedyn y funud nesa mae'n gwneud hwyl am ben ffermwyr cefn gwlad - a'r honiad eu bod nhw'n cam-ymddwyn gyda'u defaid!

Dyl Mei o Pep Le Pew gynhyrchodd yr albym - rhywbeth blesiodd Curig,
"Ma Dyl Mei di neud job gret o gynhyrchu'r albym. Mae di cyfuno rhyw fath o Eminem production a Dave R. Edwards gyda bach mwy o rhythm. Ma' Dyl a Saizmundo yn gweddu'n dda - ma Dyl di deall be sy' angen ar Saizmundo. Fi'n cytuno falle bo angen mwy o poppy choruses, ond fi ddim yn meddwl bo nhw di trio neud hwna.

Mae MC Saizmuno yn Cyflwyno Blaen Troedar ar gyfer yn eich siopau nawr ar label Dockrad.

Marciau allan o 10:
Rhodri: 8/10
Curig: 8.5/10 - Troed blinder!



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy