BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageEpitaff
Angel

Unwaith eto ar C2 gafodd Huw Stephens gwmni dau adolygwr gonest, cas ond teg - y canwr Brychan Llyr (gynt o'r grwp Jess) a Gareth Potter o'r grwp Ty Gwydr! Y CD cyntaf ar stereo y ddau oedd albym newydd Epitaff - 'Angel', a dyma beth oedd gan y ddau i'w ddweud....

Epitaff - 'Angel'
Ers ffurfio 5 mlynedd, mae dilyniant y grwp Epitaff o Gaernarfon wedi tyfu a thyfu wrth iddyn nhw rhyddhau un EP (Geiriau), un albym (Un Cynnig) a perfformio mewn cannoedd o gigs led-led y wlad. Eleni, mae Epitaff yn dychwelyd gyda albym newydd o'r enw 'Angel'.

Unarddeg trac yn llawn o alawon swynol gyda dylanwadau gwerin, roc a jazz ydy 'Angel' - y traciau i gyd wedi'u cyfansoddi gan y canwr Ynyr Roberts. Yn ôl Brychan Llyr, "Mae wedi tyfu arna'i... mae'n gerddoriaeth naif, a dy' nhw ddim yn esgus bod yn rhywbeth na 'dyn nhw ddim a mae rhywbeth neis am byti hynna. Mae'n gerddorol, mae 'na alawon yna felly mae'n bosib gwrando arno fe a gadael gyda'r alawon yn mynd rownd yn eich pen."

Doedd Gareth ddim mor hoff ohoni: "Dwi'n ffeindio Epitaff yn grwp eitha 'depressing' a does dim lot o "joie de vivre", hwyl bywyd, ynddo fe...... Mae nhw'n gerddorion da, ond wi just yn ffendio fe'n 'depressing', a mae'n anodd gwrando ar mwy na 3 trac heb droi e off. Dwi'n cytuno 'da Brychan, ond eto dwi ddim yn licio fe... dyw e ddim y math o gerddoriaeth dwi'n licio beth bynnag."

Mae'r albym yn cynnwys deuawd gyda'r gantores Meinir Gwilym - 'Curiad', a roedd Brychan yn hoff iawn o lais y canwr Ynyr Roberts. "Mae rhywbeth am byti llais y canwr, sydd yn swnio fel bod rhywbeth wedi digwydd yn ei fywyd e sydd wedi bod yn galed, a mae hyn yn hala i fi uniaethu gydag e. Mae e'n drwm hefyd - does dim lot o stwff 'uplifting' arno fe, ond os galle nhw whare'r stwff yma'n fyw, yna galle nhw gael dipyn o lwyddiant."

Doedd yr albym ddim yn taro deuddeg i Gareth - "Mae grwpiau fel Radiohead yn gallu bod yn rili depressing ond eto yn hyfryd ar yr un pryd, ond does dim lot o brydferthwch yn y gerddoriaeth yma.... Swn i'n licio 1 neu 2 o ganeuon byddai'n codi o'r 'primeval sludge' sydd ynddo fe."

Mae Epitaff yn enwog am greu cloriau gwahanol i'w recordiau ac yng nghlawr y CD Angel mae 'na gyfres o gardiau post gyda lluniau o aelodau'r grwp a geiriau'r caneuon wedi'i printio ar bob un. Mae'r albym ar gael yn y siopau ar hyn o bryd, ac yn cael ei ryddhau ar label Gwynfryn Cymunedol.

Marciau Epitaff Angel
Brychan: 6.5/10 ("marciau ychwanegol i'r clawr gwahanol")
Gareth 5/10 ("Mae'n cael ei chwarae'n dda, ond dim byd grêt amdano fe")

Dewch yn ôl wythnos nesaf, i ddarllen adolygiad o 'Amheuthun', sef CD newydd y grwp jazz/ffync Ummh!

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy