BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageTyrfe Tawe '06
Abertawe, Hydref '06
Alun Rhys Chivers


Lle a phryd?
Gŵyl Tyrfe Tawe, Hydref 12-14 2006
12/10/06 - Gwesty'r Queen's, Y Marina
13/10/06 - Adam & Eve, Stryd Fawr / Tŷ Tawe, Stryd Christina
14/10/06 - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Y Marina

Y Bandiau?
Nos Iau - Dan Morris, Marc Weinzweig, Mari Lwyd a gwesteion
Nos Wener - Neil Rosser, Crys, Merched Becca / Andrew Rhys Lewis & Yr Angen
Nos Sadwrn - Sibrydion, Frizbee, Fflur Dafydd, Cowbois Rhos Botwnnog, Gareth Phillips, Y Rei, Merched Mecca, Andrew Rhys Lewis, Huw Dylan

Enw'r Adolygydd?
Alun Rhys Chivers

Awyrgylch a pherfformiadau?
Nos Iau - Dyma noson i ymlacio a mwynhau gwledd o'r caneuon gwerin amlycaf a mwyaf poblogaidd yn Gymraeg. Tafarn fach sidêt ym Marina Abertawe oedd lleoliad y noson, a'r dorf yn gymysgedd o selogion y dafarn a chefnogwyr yr ŵyl. Pobl hŷn oedd yno ar y cyfan, ond roedd hi'n noson i bawb gael eistedd nôl cyn i'r Tyrfe afael yn y ddinas!

Nos Wener - Roedd yr Adam & Eve yn byrlymu yng nghanol y ddinas, gydag ystod eang o gefnogwyr y sîn roc Gymraeg yn ymgasglu am noson o hel atgofion am y dyddiau a fu. Blŵs a gafwyd gan Neil Rosser ar y cyfan, gyda rhai o'r hen ffefrynnau fel 'Nos Sadwrn Abertawe' ac 'Ochor Dreforys o'r Dre' yn boblogaidd gyda thorf y dafarn unwaith eto eleni. Er hyn, byddwn wedi hoffi clywed rhagor o'r clasuron a llai o'r blŵs. Roedd 'Crys' yn boblogaidd, a'r rhan fwyaf yn clywed eu roc am y tro cyntaf yn y ddinas ers blynyddoedd lawer. Dim ond ar Radio Cymru yr ydw i wedi eu clywed nhw, ond gwnes i fwynhau eu set egnïol oedd yn cynnwys clasuron fel 'Pendoncwyr' a 'Dyma'r Band Cymraeg'. Merched Becca agorodd y noson gyda'u roc gwerin unigryw unwaith eto eleni. Roedd eu perfformiad yn llawer mwy tynn a hyderus na'r llynedd, a'r clasuron yn llifo o 'Ynysoedd Môn' i 'Actores'.

Wrth i'r bobl hŷn rocio yn yr Adam & Eve, roedd ieuenctid Abertawe yn mwynhau gig yn Nhŷ Tawe gyda band lleol o Ysgol Gyfun Gŵyr, 'Yr Angen' ac Andrew Rhys Lewis. Os gellir ei farnu o glywed ei set ar y llwyfan acwstig nos Sadwrn, rwy'n siŵr ei fod wedi diddanu'r dorf a'u swyno gyda'i lais melodig a'i ddawn ar y gitâr. Fues i ddim yno gan fy mod i wedi aros yn yr Adam & Eve, ond mae pawb yn trafod y noson mewn ffordd gadarnhaol dros ben. Roedd y band ifanc 'Yr Angen' yn hyderus yn eu perfformiad o wyth o ganeuon gwreiddiol. Clywais fod nifer o wynebau hŷn ymhlith y dorf. Braf clywed fod rhai o'r staff yno'n cefnogi ac yn ail-gydio yn nyddiau eu hieuenctid efallai!!

Nos Sadwrn - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau oedd y lleoliad ar gyfer prif noson y penwythnos. Ystafell wydr oedd y brif ystafell, gyda choridor o weithiau celf yn arwain at y caffi, sef lleoliad y llwyfan acwstig. Roedd hi'n rhyfedd gweld y bar yng nghanol yr holl baentiadau ar y muriau a'r arddangosfeydd niferus. Dyma leoliad llawn steil a roddodd elfen syfrdanol i'r noson. Roedd hi'n cymryd ychydig o amser i lenwi'r ystafelloedd ar ddechrau bob set, ond roedd hi'n braf fod gan y gynulleidfa'r opsiwn o aros mewn un ystafell neu gyfnewid bob yn ail. Fe weithiodd hyn yn effeithiol ar y cyfan. Gan amlaf, byddai'r bobl hŷn yn aros yn y caffi a'r ieuenctid yn rocio ger y prif lwyfan. Roedd tipyn o bob math o gerddoriaeth ar gael ar y noson, yn amrywio o roc gan 'Frizbee', roc a hip-hop gan 'Sibrydion' a chanu gwlad 'Cowbois Rhos Botwnnog'. Roedd nifer o fandiau ifanc ar y prif lwyfan yn ystod y noson, gan gynnwys 'Y Rei' sef band newydd Aron Pep Le Pew, a 'Merched Mecca' sydd yn hen gyfarwydd â pherfformio yn y ddinas.

Roedd y llwyfan acwstig yn gyfle i ymlacio i ffwrdd o'r prif lwyfan, gyda pherfformiadau cadarn gan Andrew Rhys Lewis, Huw Dylan, Gareth Phillips a Fflur Dafydd. Cafwyd set o ganeuon y gellir symud y traed iddynt gan Andrew Rhys Lewis oedd yn perfformio heno heb ei fand newydd, y 'Torpedos'. Roedd ei sgiliau chwarae gitâr yn rhyfeddol. Un o drefnwyr Tyrfe Tawe yw Huw Dylan, gynt o 'Gwerinos', a chafwyd set o ganeuon gwerin ganddo. Llwyddais i daflu ei lais i bob cornel o'r caffi, gan greu awyrgylch iasol. Dychwelodd Gareth Phillips i lwyfan Tyrfe Tawe unwaith eto eleni gyda'i gyfansoddiadau ei hun. Dyma un o dalentau newydd y sîn Gymraeg. Yn cloi'r noson ar y llwyfan acwstig oedd neb llai na Fflur Dafydd a'r 'Barf', Rhys James. Roedd Fflur ar ei gorau, yn llawn egni, bywyd a chyffro, a'r caffi bellach dan ei sang. Roedd hi'n anodd peidio symud i guriadau'r gitâr, a llais swynol Fflur yn taro deuddeg gyda'r fath draciau ag 'Ar Ôl Heddi' a'r e-sengl newydd 'Dala Fe Nôl'.

Trac yr ŵyl?
'Heyla' gan Frizbee. Dyma drobwynt y nos Sadwrn i fi, gyda'r cyffro'n cyrraedd ei anterth. Dyma weld a chlywed y dorf yn yr amgueddfa'n mwynhau'r arlwy o gerddoriaeth oedd ar eu cyfer yn y lleoliad soffistigedig hwn. Braf gweld Frizbee yn dychwelyd i Tyrfe Tawe unwaith eto a chlywed Ywain Gwynedd yn datgan fod yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth.

Uchafbwynt yr ŵyl?
Gweld yr hen a'r ifanc yn cymysgu yn yr amryw leoliadau dros dridiau o'r gerddoriaeth Gymraeg orau yn enw gŵyl fwyaf cyffrous y De.

Y peth gwaethaf am yr ŵyl?
Byddwn wedi hoffi clywed mwy o ganu yn ystod y noson werin, gan ychwanegu hyd yn oed mwy o hwyl i'r noson. Hefyd, ar y nos Sadwrn (o safbwynt rhywun sy'n methu gwneud penderfyniadau!) er bod cael dau lwyfan yn beth da, roeddwn i'n teimlo bod yr amseriad rhwng y llwyfannau yn golygu nad oedd modd clywed pob un o'r caneuon, gan fod rhai o'r setiau'n gorgyffwrdd. Roedd cymaint o setiau da ar y noson, roedd hi'n drueni gorfod colli unrhyw un o'r caneuon.

Achlysur Roc a Rôl?
Gweld staff y bar yn yr amgueddfa'n agor poteli cwrw gydag agorwyr poteli Tyrfe Tawe, neu'r 'soch' fel y'i gelwir.

Beth sy'n aros yn y cof?
Huw Dylan yn canu 'Nos Fawrth yn Abertawe' ar y llwyfan acwstig. Mae'r gân yn anthem answyddogol i'r pwyllgor sydd wedi bod yn cwrdd bob nos Fawrth i drefnu'r ŵyl. Fydda i byth yn anghofio cerdded i mewn i'r amgueddfa am y tro cyntaf ar nos Sadwrn a chael fy synnu gan hyfrydwch y lle a pherffeithrwydd y lleoliad ar gyfer yr ŵyl.

Talent gorau'r noson?
Gyda'r amrywiaeth o gantorion a ymddangosodd ar yr amryw lwyfannau dros y penwythnos, mae'n anodd dewis un perfformiad unigol. Un set sydd yn sefyll allan yw 'Fflur Dafydd a'r Barf' ar y llwyfan acwstig yn yr amgueddfa. Roedd lleoliad Coffee Cesso yn gweddu'n berffaith i'w llais a set llawn egni a brwdfrydedd.

Marciau allan o ddeg ac Un gair am y gig?
9 - penwythnos llwyddiannus a rhywbeth ar gyfer pawb.

Un gair am y gig - Pendonciadwy!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Lincs Gwefan?
Tyrfe Tawe - gŵyl gerddoriaeth Abertawe, yn gosod y safon ar gyfer gwyliau eraill Cymru. Rwy'n clywed y bydd 'Yr Angen' yn chwarae tipyn fwy yn Nhŷ Tawe dros y misoedd nesaf, gydag amryw o ymddangosiadau yn gigs 'Gwener y Grolsch'. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael eu gweld nhw yno!

Gwefan Swyddogol Tyrfe Tawe
Galeri C2 o Tyrfe Tawe

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy