BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageSibrydion, Jen Jeniro...
Llanrwst, Rhagfyr 2006
Awen Schiavone


Lle a phryd
Legion, Llanrwst, Rhagfyr 16 2005 (Cyfres gigs 'Chwil')

Y bandiau
Sibrydion, Jen Jeniro a Wyrligigs

Yr adolygydd
Awen Schiavone

Awyrgylch
Disgo ysgol heb y dawnsio

Disgrifiwch y perfformiadau

Wyrligigs:
Yn dechrau'r noson oedd Wyrligigs. Mae'r triawd ifanc yma o Fethesda yn dda iawn chwarae teg. Doeddwn i ddim yn disgwyl perfformiad cystal ganddynt, ond cefais fy mhlesio'n arw. Maent yn amlwg dan ddylanwad pyncwyr a rocwyr megis Ramones a'r Clash. Roedd eu perfformiad yn egniol a thynn, ac ambell i gân yn reit catchy. Dwi'n edrych ymlaen i glywed mwy ganddynt, ac i'w gweld yn datblygu eu swn gwreiddiol eu hunain. Ond, dwi methu peidio a deud eu bod nhw'n ciwt (yn enwedig y basydd pymtheg oed!).

Jen Jeniro:
Yn chwarae ar eu 'home ground' roedd Jen Jeniro wedi denu mwyafrif y gynulleidfa yma heno. Roedd eu perfformiad yn arbenig o dda, a'u caneuon yn wreiddiol ac amrywiol. Mae'r band yn chwarae set o ganeuon o wahanol arddulliau, ac yn llwyddiannus tu hwnt yn eu cyfar o 'Iechyd Da' - Gorky's Zygotic Mynci. Mae'r ffefryn 'Canol y Ffordd' yn gân rap sy'n rhyw fath o gân serch i Bryn Fôn (!!) a'r lyrics yn ddoniol iawn! Mae ganddynt ambell i gân â churiad cryf, a chaneuon eraill â gitario talentog, ac mae clyfrwch geiriol yn un o'u prif nodweddion. Edrych ymlaen at glywed eu recordiad cyntaf yn fuan!

Sibrydion:
Dyma'r tro cyntaf i mi weld y brodyr Gwynedd gyda band llawn, ac ni chefais fy siomi. Dechreuodd eu set gyda 'Disgyn Amdanat ti'. Er na chawsant lawer o wrandawiad, fe chwaraeodd y band ar eu gorau, gan roi popeth mewn i'r perfformiad. Roedd eu perfformiad yn llawn egni, ac roeddent yn amlwg yn mwynhau. Chwaraesant nifer o oreuon eu halbwm 'JigCal' gan gynnwys 'Dafad Ddu' a 'Chiwawas', ac ambell i gân newydd oedd yn cynnal eu safon. Cafwyd caneuon bywiog a hwylus yn ogystal ag ambell i berl harmoniaidd. Roedd eu perfformiad yn broffesiynol iawn a'r holl ganeuon yn wych. Daeth eu set i derfyn gyda'r glasur 'Arthur' gan ddiweddu'r noson yn dda iawn.

Trac y noson
'Cymru, Lloegr a Llanrwst' gan Jen Jeniro - mae'n rhaid cael y glasur hon yn Llanrwst, a'r hogiau'n sicrhau fod eu perfformiad yn adlewyrchu ffresni caneuon Y Cyrff hyd heddiw.

Uchafbwynt y noson
'Cymru, Lloegr a Llanrwst' gan Jen Jeniro.

Y peth gwaethaf am y noson
Y gynulleidfa - y mwyafrif dan oed, a heb unrhyw ddiddordeb yn y gerddoriaeth, ac felly ddim yn cymryd unrhyw sylw o'r perfformiadau gwych ar y llwyfan.

Achlysur Roc a Rôl
Un dihiryn bach yn dawnsio i Sibrydion ar ben ei hun - chwarae teg!

Beth sy'n aros yn y cof?
Un dihiryn bach yn dawnsio i Sibrydion ar ben ei hun - chwarae teg!

Talent gorau'r noson
Methu dewis, Wyrligigs yn drawiadol, potensial mawr yn Jen Jeniro, a Sibrydion yn wych.

Marciau allan o ddeg
9/10 i'r bandiau, a 3/10 am bopeth arall!

Un gair am y gig
Chwil!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Os cewch gyfle, ewch i weld y tri band yma, mae nhw'n bendant werth eu gweld yn fyw! Legion yn venue da i gynnal gigs, ond y gynulleidfa yn anffodus yn wael iawn heno.

Cysylltiadau'r we
Sesiwn Sibrydion i C2
www.jenjeniro.co.uk
Gwallgofiaid

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy