 | The Poppies... Toucan, Gorff 06 Hannah Jarman
Lle a phryd? Toucan Club, Caerdydd - Nos Iau 27 Gorffennaf 2006
Y bandiau? The Poppies, Inner City Pirates, Walker, Vinyl Vendettas DJ's.
Enw'r adolygydd? Hanna Jarman, Caerdydd
Awyrgylch? Roedd y Toucan yn orlawn ond roedd hi braidd yn siomedig fod y lleoliad mor fach, oherwydd dim pawb oedd yn gallu mynd lan i'r balconi i weld y bandiau. Roedd llawer o wynebau newydd yn y gig yn ogystal â ffrindiau agos i'r bandiau. Rhan fwyaf o'r gynulleidfa oedd ffans di-Gymraeg, felly dyna pam roedd rhan fwyaf o set The Poppies yn Saesneg. Roedd yr awyrgylch yn un agos iawn a roedd y band yn gyffyrddus yn y lleoliad.
Trac y noson? I Need You gan The Poppies. Un o ganeuon newydd y band a theimlad hollol wahanol i gymharu â rhai o'u caneuon eraill. Bît Samba cyffrous - roedd y gân yma yn dangos datblygiad gwych y band dros y 6 mis diwethaf.
Disgrifiwch y perfformiadau The Poppies - Set llawer fwy cyfforddus na'i set yn y Full Ponty. Llwyddodd y band i ware lot o ganeuon newydd yn ogystal a'r clasuron- "Sex Sells", "Cam" a "Mona Lisa". Heb os, ma The Poppies llawer gwell yn fyw a roedd y set yn llifo yn dda trwy gydol y perfformiad. Roedd sylwadau cheeky Sam rhwng y caneuon hefyd yn mynd lawr yn dda yn y gig, yn enwedig i'r gynulleidfa newydd oedd yno. Doedd dim llawer o gynulleidfa Cymraeg yna felly dim ond un neu ddau cân Gymraeg chwaraeon nhw, ond roedd y caneuon gwych newydd yn neud lan am hynny. Mae'n amlwg bod dylanwadau newydd gan y band pan mae'n dod i ysgrifennu a mae perthynas y band yn amlwg yn gryfach. Mae set The Poppies yn mynd yn well pob tro dwi'n gweld nhw. Gwd won bois! Vinyl Vendettas DJ's (gyda Bethan Elfyn o Radio 1) - Roeddwn ni wrth fy modd gyda'r clasuron roedd y merched yma'n dewis! Roedd y caneuon yn amrywio o 'Blondie'- 'Heart of Glass' i 'Bonnie Tyler'- 'Turn around Bright Eyes'! Diwedd ffantastig i noson ffantastig!
Uchafbwynt y noson? Gweld gymaint o ymateb da i The Poppies! Roedd pobl yn ysu i fynd draw i longyfarch y band ar ôl ei set, yn enwedig y gynulleidfa newydd.
Achlysur Roc a Rôl Wel, ma' gymaint i ddewis ohono mewn pob gig The Poppies, ond yr un sy'n sefyll allan i fi yw pan dywedodd Sam wrth y gynulleidfa- "It's very hot in here isn't it? Would anyone like to take their clothes off?"! Roc a Rôl iawn! Sai'n gwybod sut nes i lwyddo rheoli fy hun!
Beth sy'n aros yn y cof? Gweld prif leisydd y Inner City Pirates yn dawnsio i Bonnie Tyler. Diddorol yw'r gair!
Marciau allan o ddeg 9/10
Lincs Gwefan www.myspace.com/thepoppiesuk neu www.toucan.co.uk
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Bydd The Poppies yn chwarae yng Ngwyl Fawr Caerdydd ym mis Awst-ddim i'w golli!
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |