BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageKentucky AFC, Poppies...
Caernarfon, Ebrill 2006
Gethin Wyn Jones


Lle a phryd?
Galeri, Caernarfon. Nos Sadwrn, 1 Ebrill.

Y bandiau?
Derwyddon Dr Gonzo, Anubis, Poppies a Kentucky AFC

Enw'r adolygydd
Gethin Wyn Jones

Awyrgylch?
Awyrgylch gwych i'r noson, Roedd y Galeri yn llawn cyn i'r gig gychwyn am 8, gyda phawb yno i fwynhau eu hunain. Da oedd gweld gymaint o bobl ifanc yno i fwynhau y wledd o gerddoriaeth oedd ar gael a gyda ticedi jysd yn £6 roedd y noson yn fargen!

Trac y noson?
Sex Sells gan y Poppies - pawb yn canu ac yn dawnsio i'r gan, hyfryd, cwl, gwych, ffynci yma.

Disgrifiwch y perfformiadau

Derwyddon Dr Gonzo Dydi'r Derwyddon byth yn siomi i gael llwythi o ferched a bechgyn i'r tu blaen i ddawnsio i'w caneuon ffynci, affro-beat! Cychwyn da i'r noson, gan ddenu traed pawb o'r bar i'r prif theatr i ddawnsio ac i ddod a elfen o ffync i'r noson! Pawb wedi mwynhau eu set ac yn wir os nad ydych wedi gweld nhw, ceisiwch neud! Band sydd yn chwarae'n wych yn fyw.

Anubis Band roc trwm o ardal Dyffryn Nantlle yw Anubis sydd yn symud o nerth i nerth yn y SRG. Roedd eu set yn un bwerus gyda phob aelod o'r band yn hyderus yn eu maes cerddorol, gyda synau gitar wedi'w chymysgu a'r defnydd o 'sctraching' ar y droell-byrddau. Roedd swn proffesiynnol iawn i'r set gyda chaneuon megis 'Troi a mynd yn ôl' ac 'Amen' yn sefyll allan. Perfformiad llawn hyder a cherddoriaeth trwm iawn.

The Poppies Roedd llawer o'r gynulleidfa yn ysu i weld y Poppies ac ni chawsant eu siomi! Roedd y brif theatr yn llawn yn ystod eu set gyda phawb yn dawnsio ac yn mwynhau eu caneuon. Roedd eu set yn cynnwys y traciau oddi ar eu sengl Dau Bys a rhai traciau newydd, ond can orau y set oedd yr hynod anthemig Sex Sells! Roedd y band yn amlwg mwynhau eu hunain ar y llwyfan ac roedd y gynulleidfa wrth eu bodd gyda'r band, yn enwedig y merchaid ddaru neidio ar y cyfle i gael cwrdd, sgwrsio a chael llofnod y band - roc a rol iawn! Band gwych, set gwych, pawb wedi eu mwynhau!

Kentucky AFC Roedd gan y Kentucky's lot o waith i guro perfformiad y Poppies. Roedd eu set yn dda a'r band yn chwarae'n dda, gan chwarae yr holl ganeuon sydd erbyn hyn yn adnabyddus i bawb, 'Unarddeg' oedd uchafbwynt eu set ac roedd yr holl draciau yn cael eu berfformio o safon uchel. Un peth oedd yn amlwg yn set Kentucky oedd bod yna lai o bobl yn y Theatr erbyn hyn, ac felly nid oedd yna gymaint o gynnwrf ymysg y gynulleidfa, ond roedd eu set yn wych ac yn cloi noson o gerddoriaeth gwych ar nodyn roc a rol!

Uchafbwynt y noson?
Bod yna gymaint o bobl ifanc yno i fwynhau cerddoriaeth cymraeg ac eu bod wedi mwynhau cymdeithasu yno; da yw gweld bod gan y Sin Roc Gymraeg gymaint o ddilyniant. Roedd yr holl ddawnsio, cerddoriaeth ac yfed yn creu noson perffaith i bawb ac roedd gweld pedair band gwych mewn un lle yn uchafbwynt i bawb.

Beth sy'n aros yn y cof?
Y noson i gyd, gymaint o gerddoriaeth cymraeg gwych mewn un noson!

Y peth gwaethaf am y noson?
Prisiau bar y Galeri chydig yn ddrud ond roedd pawb yn barod i wario, fel arall doedd na dim drwg am y noson.

Achlysur roc a rôl?
Sex Sells gan the Poppies a'r gynulleidfa yn canu y rhan "waaaa-ha-haaaaow-waaaaaraaaaa wwwow"! (2:06 fewn i'r gan, y rhan yna!) Pawb yn mwynhau y gan - ardderchog!

Talent gorau'r noson?
The Poppies! Does na dim byd drwg am y band yma, hollol gwych.

Marciau allan o ddeg?
9/10

Un gair i ddisgrifio'r gig?
Hyfryd.

Unrhyw sylwadau eraill?
Ewch i weld yr holl bandiau yma, mae nhw gyd yn dda ac yn werth eu gweld yn fyw. Mae'r Galeri yn leoliad da am gig's, heblaw doedd na unman i cadw jackets yno! Noson wych o gerddoriaeth am bris isel, diolch pobl hyfryd y Galeri!

Lincs Gwefan
www.derwyddon.piczo.com
www.anubisband.tk
www.geocities.com/poppiespoppiespoppies
www.kentuckyafc.com
www.galericaernarfon.com

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy