BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imagePlant Duw, Swci...
Ty Newydd, Sarn - 16.12.06
Dafydd Owen


Adolygydd?
Dafydd Owen

Lle a Phryd?
Ty Newydd, Sarn - 16/12/06

Bandiau?
Pwsi Meri Mew, Mr Huw, Swci Boscawen, Plant Duw

Awyrgylch?
Mi roedd Ty Newydd, Sarn yn orlawn o bobl ac efo lot fawr iawn o drigolion Llyn ac Eifionydd yna. Ma'r lle yn dechra troi mewn i un o brif leoliadau gigs Gogledd Cymru, os nad yn unig am y nifer o gigs cyson, ond am y ffaith fod na griw da yn mynd i bob gig.

Trac y noson
Adar y Nefoedd - Swci Boscawen. Odd gweld pawb yn troi at eu gilydd a dweud 'ma hon yn uffar o gân' i gyd yr un pryd yn dangos faint o dda yw'r gân.

Disgrifiwch y perfformiadau
Pwsi Meri Mew
Odd Pwsi Meri Mew yn dda iawn heno, ac er iddynt gyhoeddi nad oedd y drymar, Es Ai, wedi cyffwrdd drym cit ers deu fis gan iddo fod yn Seland Newydd, nath hynnY ddim effeithio dim ar y set. Er nad ydwi wedi gweld Pwsi Meri Mew yn amal iawn, rodd pob un o'u caneuon yn swnio'n gyfarwydd, ac mae'n dalent gallu sgwennu caneuon cofiadwy. Ma nhw'n fand da iawn i agor noson o'r fath, gyda'i naws ffynclyd.
Mr Huw
Gyda'i gitar acwstig, chwarewr MP3, synth a symbal ar stand, mae Mr Huw yn fand-un-dyn da iawn ac heno mi gafodd ymateb da iawn gan y dorf. Mae ei ganeuon bachog dau-funud yn golygu fod eich sylw yn cael ei ddenu ato. Yr unig beth am y perfformiad heno nes i feddwl odd ychydig yn wael oedd wnaetho chwara cân araf pan oedd angen cân gyflym i gadw'r dawnsio i fynd. Ond fel arall, perfformiad da iawn gan y canwr talentog barfog.
Swci Boscawen
Pan wnes i droi rownd i weld Swci Boscawen yn canu ei "hit" Swci gyda Mr Huw efo "backing track", neshi feddwl "lle ma'r band?!". Os yw artist am wneud perfformiad, yna dylai band fod yn chwarae gyda hi. Yn fy marn i, tydi troi fyny i ganu gyda "backing track" ddim yn dangos llawer o barch at y rhai sy' di talu i ddod i'r gig. Dwi'n siwr os y byddai'r gig yma'n cael ei gynnal nos Sadwrn Maes B, byddai band gyda hi. Does gen i ddim byd yn erbyn Swci Boscawen, mae ei cherddoriaeth yn ffantastic, ond os nad wyt ti yn gallu gwneud perfformiad gyda band, ella byddai wedi bod yn syniad canslo a dod nôl pan mae dy fand ar gael. Os y ddigwyddith hynny, dwi'n edrych ymlaen yn barod.
Plant Duw
Pan ddaeth Elidir y basydd trwy'r "chants" 'Sion Corn, Sion Corn!' gan y gynulleidfa o'r ystafell arall, odd genai deimlad y byddai'r band yn gorffan y noson yn dda. Roedd hon yn berfformiad da iawn, a gyda'r siwtiau Nadoligaidd, neshi wenu trwy hynny welishi o'r set. Ma'r band yn llawn haeddu'r sylw mae nhw wedi gael. O'r hyn dwi wedi ei gasglu, mae ganddynt gynnyrch yn dod allan yn 2007 i ychwanegu at eu sengl hynof lwyddiannus.

Uchafbwynt y noson
Cafodd Swci Boscawen ei mobio gan hogia horny Pen Llyn ar ddiwedd ei set wrth iddi ddod oddi ar y llwyfan. Swci druan.

Y peth gwaethaf am y noson
Dim band gan Swci Boscawen/pobl ddim yn dod trwodd i'r gig o'r prif far.

Achlysur Roc a Rol
Mr Huw yn deud wbath tebyg i "dosna neb i edrach ar ôl hein?" wrth gyfeirio at y rhai oedd wedi amgylchynu ei synth yn dawnsio a dwyn ei feicrophone yn ystod ei set.

Beth sy'n aros yn y cof?
A dweud y gwir, yr uchod. A siwtiau Plant Duw. Genius!

Talent gorau'r noson
Pwsi Meri Mew. Mae ei sgiliau cyfansoddi yn dda iawn.

Marciau allan o ddeg
9/10

Un gair am y gig
"Home-coming"

Linciau Defnyddiol
Plant Duw
Sesiwn Plant Duw i C2
Mr Huw
Sesiwn Acwstig Mr Huw i C2
Swci Boscawen
Pwsi Meri Mew
Sesiwn Pwsi Meri Mew i C2

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy