 | Brigyn, Pala... Aberystwyth Mawrth 2006 Leusa Fflur
Lle a phryd? Cwps, Aberystwyth. Nos Wener y 31ain o Fawrth.
Y Bandiau? Brigyn, Lowri 'Môn' Jones, Pala
Enw'r adolygydd Leusa Fflur
Awyrgylch? Cwps yn fwy gwag na'r arfer oherwydd bod y mwyafrif o fyfyrwyr wedi mynd adref dros y Pasg. Ond awyrgylch hamddenol neis, a phawb yn talu sylw i bob perfformiad. Y bandiau yn cydweithio hefo'r gynulleidfa fel un sioe anffurfiol enfawr, a siarad rhwng y llwyfan a'r llawr yn gyson. Canwyllau ar y byrddau yn neis hefyd !
Trac y noson? Mae hi rhwng Cariad dros Chwant, sef cân Hefin Huws, mae Brigyn yn gwneud fersiwn acwstig wych ohoni, a Plant y Lloer gan Brigyn - cân wreiddiol anhygoel a gafodd ei chwarae ddwywaith yn ôl galw'r gynulleidfa.
Disgrifiwch y perfformiad Brigyn - Ildiodd y bechgyn eu lle fel hedleinars i'r merchaid (ac Osian drymar Pala!) a cychwyn y noson gyda steil! Set acwstig oedd hi gyda'r brodyr Ynyr ac Eurig hefo gitar a gitar fas. Chwaraewyd y caneuon cyfarwydd i gyd gan gynnwys ffefryn newydd, cyfyr o'r gân Hallelujah gan Lenard Cohen. Lowri Jones - Set solo gyntaf y ferch o Fôn. Mae hi'n aelod o'r band Siriys, a caneuon y band hwnw berfformwyd. Llais hysgi unigryw, a chaneuon Meinir Gwilym-aidd am fechgyn a merchaid ac yn y blaen ! Sioe o berfformiad, a'i charisma yn cario'r set hefo ymateb gwych gan y gynulleidfa. Edrych ymlaen i glywed mwy, a caneuon newydd! Pala - Unwaith eto, perfformiad egniol yn llawn hwyl. Harmoneiddio anhygoel a talent amlwg gan y tri. Y band yn amlwg yn mwynhau chwarae hefo'r band, ac absenoldeb y baswr ar y noson yn amharu dim ar lifiant y set. Chwarae hefo'r gynulleidfa gan i'w tynnu nhw i mewn i'r hwyl drwy daflu jocs a herian o'r llwyfan. Plesio cymaint nes cael eu cymeradwyo yn ôl i'r llwyfan ar ôl y gân olaf i chwarae Plant y Lloer.
Uchafbwynt y noson? Gweld Lowri Môn yn magu digon o hyder i wneud set ar ei phen ei hun, o'r diwedd! Perfformiad hollol wych, 'dw i'n dal mewn sioc!
Beth sy'n aros yn y cof? Cân ddoniol Pala - 'Dim Ots'. Mae'r geiriau yn wirion a'r diwn fel cerddoriaeth cartwn - gwych! Ond yn ôl hogiau Brigyn mae'r gân yn "drewi"!
Y peth gwaethaf am y noson? Y Poteli Seidar yn rhedeg allan, owff am drist! A bod Lowri Evans (artist oedd i fod i chwarae) wedi methu dod i'r gig.
Achlysur roc a rôl? Lowri Jones yn gorfodi pawb siarad ymysg eu gilydd, cyn torri'r set yn gynnar oherwydd ei bod wedi anghofio geiriau'r gân olaf!
Talent gorau'r noson? Mae pob un person oedd yn chwarae heno yn dalentog iawn, ac yn haeddu cael eu cydnabod fel cerddorion. Eto, rhaid sôn am allu anhygoel Osian, drymiwr Pala ac yntau mond 15 oed, waw!
Marciau allan o ddeg? 7
Un gair i ddisgrifio'r gig?
Talentog Unrhyw sylwadau eraill?
Bydd EP gyntaf Pala, 'Meddwl yn ôl' allan yn fuan ar label newydd Sbrigyn Ymborth, prynwch hi! Lincs Gwefan www.brigyn.com Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  Cysylltiadau Perthnasol Pala 
 |