 | Oxjam Kentucky AFC, Brigyn Dafydd Owen
Lle a phryd? Clwb Ifor Bach, Caerdydd, Nos Iau Hydref 19
Y Bandiau? Kentucky AFC, Brigyn, Gareth Bonello
Enw'r Adolygydd? Dafydd Owen, CaerdyddAwyrgylch?
Neshi gyrradd y clwb gyda tri ffrind coleg, ac atho ni fewn yn siarad yn uchal ac yn barod am noson dda. Pan gerddon ni mewn, natho ni sylwi nid yn unig faint mor wag oedd y Clwb ond faint mor ddistaw oedd hi 'fyd. Gyda'r lle mor ddistaw roedd hi'n amlwg taw noson eitha' ymlaciol oedd hi am fod. Peth rhyfadd gan taw dod i weld Kentucky AFC natho ni. Erbyn diwadd y noson, erbyn i'r "fosters" gicio mewn, newidiodd hyn gyda lot yn dawnsio i Kentucky AFC. I unrhyw un sydd erioed wedi bod yng Nghlwb Ifor Bach o'r blaen, toedd hyn ddim yn syndod.
Trac y noson? Annodd dewis, oherwydd nath na ddim un trac yn benodol sefyll allan. Gyda Kentucky AFC yn chwara "11" fel eu ail cân yn eu set, y gân sydd fel arfer yn uchafbwynt unrhyw gig Kentucky AFC, roedd y caneuon yn blendio i'w gilydd.
Disgrifiwch y perfformiadau Gareth Bonello: Roedd ei berfformiad yn 'textbook' Gareth Bonello. Os yda chi wedi gweld Gareth yn perfformio o'r blaen, fyddwch yn gwbod am be dwi'n son. I'r rhai ohonoch sydd ddim, ma fo a'i gitar acwstig yn gallu creu synau hyfryd, ac mae ganddo ganeuon da iawn. Mae'n neud y pethau gyda gitar acwstig nad ydy Alun Tan Lan yn ei neud. Mae Gareth yn chwarae caneuon ac alawon fwy gwerinol ac yn mynd i'r ochr fwy traddodiadol Cymreig ac yn ei wneud yn dda iawn hefyd. Brigyn: Gyda'i goleuadau Nadoligaidd wedi eu clymu i'r mic. stands a'r laptop Mac, roedd Brigyn yn cynnig rhywbeth acwstig ychydig yn wahanol i Gareth Bonello. Gyda dau albwm, Brigyn 1 + 2, wedi eu rhyddhau, ac hefyd yn ffefrynnau gan Radio Cymru, roedd hi'n annodd peidio darganfod eich hunain yn hymian neu yn meimio i'r caneuon. Mae'r defnydd o samplers ag electronica yng nghaneuon Brigyn, i mi yn bersonol, yn rhoi rhywbeth bach yn ychwanegol sydd yn eu rhoi ar frig neu yn bendant yn agos iawn i'r brig, o artistiaid acwstig Cymraeg. Mae'r caneuon yn dal i gydiad yn elfennau pop ac yn elfennau 'catchy' Epitaff, sef cyn fand y brodyr Ynyr ac Eurig, ond yn datblygu ar y syniadau hynnu. Ac heno, cafwyd perfformiad arbennig. Gyda lot o siarad gyda'r gynulleidfa, roedd hi'n anodd peidio talu sylw i'w perfformiad. Da oedd y goleuadau Nadoligaidd hefyd. Kentucky AFC: Dyma'r band a gafodd fi mewn i gerddoriaeth Cymraeg, ac dwi wedi bod yn dyst i sawl perfformiad arbennig gan Kentucky AFC, ond roedd heno (sawl mis ers i mi eu gweld diwethaf) yn siom. Er iddynt chware yn eitha da i safonnau perfformio byw Kentucky (nid oedd dim byd gwirioneddol o'i le gyda'r perfformiad a'r caneuon eu hunain), roedd hi jyst 'chydig yn fflat. Am ryw reswm, dodda nhw ddim yn edrach yn "bothered", ond eto, dyma steil bandiau o'r fath. Roedd y "string" ar y bâs yn troi yn anffodus, ond mewn gwir ysbryd Kentucky 'stwffia fo, cario mlaen' oedd eu hagwedd. Er fod Gethin Evans y drymiwr ac Huw Owen y basydd wedi bod yn gwneud prosiectau eraill, roedd yna dal siawns i glywed caneuon newydd. Dwi'n eitha siwr roedd yna ganeuon newydd, gan gofio nad ydwi wedi gweld Kentucky ers misoedd.
Uchafbwynt y noson? Pawb yn dawnsio i Kentucky. Er taw Brigyn oedd y band gora ar y noson, ma'n anodd iawn mynd i gig Kentucky heb gael pawb yn dawnsio, sydd fel arfer wastad yn uchafbwynt y noson.
Y peth gwaethaf am y noson
Dodd na ddim llawer wedi troi fyny. Rwy'n darllen yn aml sylwadau am gerddoriaeth Cymraeg gan llawer o bobl Cymraeg o Gaerdydd, ond tydwi byth yn eu gweld mewn gigs chwaith. Mae'n bryd i gigs yng Nghaerdydd gael cynulleidfa mwy na dim ond myfyrwyr a ffrindiau i'r bandiau.
Achlysur Roc a Rol? Gwaedd gan frawd cariad Gethin (drymiwr Kentucky). 'Gethin, ti'n s**t' , gyda'r ymateb 'Mae o'n gwbod hynny'n barod' yn dod gan Huw, y basydd.
Beth sy'n aros yn y cof? Goleuadau Brigyn. Rhywbeth mor fach ond effeithiol.
Talent gorau'r noson? Yn bersonol, Brigyn. Er taw Kentucky yw un o fy hoff fandiau nid yn unig yn y Gymraeg, ond mewn unrhyw iaith/sîn, heno, Brigyn rhoddodd y perfformiad gorau.
Marciau allan o ddeg? 7/10
Un gair am y gig?
Gwag Gwefannau Defnyddiol: My Space Kentucky AFC My Space Brigyn Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |