 | Nar, Mattoidz Sarn, Ebrill 2006 Dafydd Owen
Lle a phryd? Ty Newydd, Sarn. Nos Sadwrn, 22ain o Ebrill.
Y Bandiau? NAR, Mattoidz a Radio Flyers
Enw'r adolygydd Dafydd Owen
Awyrgylch? Ar ôl perfformiad da gan Mattoidz yn acwstig y noson cynt, yn chwarae cwpl o ganeuon newydd, yn bersonol roedddwn yn edrych ymlaen. Roedd y gêm gwpan F.A. ymlaen cyn y gig, ac gan bod Lerpwl wedi ennill, roedd gan y lle naws eitha hapus iddo. Ond cefais fy'n rhoi ar y drws pan oedd y bandiau ymlaen, felly roedd rhaid i mi ond clywed y caneuon gan y bandiau, ac nid eu gweld.
Trac y noson? Rhaid i mi ddweud "Popeth i'r Chwith" gan Radio Flyers. Cân wych, ac roedd yn berfformiad da ohono hefyd.
Disgrifiwch y perfformiad
Radio Flyers - Fe wnaeth y band lleol agor y noson yn dda iawn gyda'i caneuon catchy pynciadd, ac mae eu caneuon yn ganeuon byw da iawn, ac fe wnaethynt ddangos i'r rhai di-Gymraeg yn y gynulleidfa fod hi'n bosib chwarae cerddoriaeth da yn y Gymraeg. Am fand mor newydd, sydd heb eto ddarganfod eu traed yn iawn yn y Sin Roc Gymraeg, roeddynt yn llawn hyder yn chwarae eu caneuon, ac yn wir, maent yn fand teimlaf gallai fynd yn bell. Mattoidz - Ma nhw'n fand byw da iawn, ar ôl gigo trylwyr dros Gymru, ac yn well yn eu ffurf byw nac acwstig. Caneuon newydd da ganddynt, ac perfformiad hyderus iawn, ac rwyn hoffi'r gân newydd sef 'Edrych yn Well, o Bell'. Heno, dangosodd y band â ennillwyd gwobr Band Gorau'r Flwyddyn yn y Gwobrau RAP eu talent cyfansoddi a perfformio. Nar - Y band lleol a "heroes" bandiau Pen Llŷn ac heno fe gafwyd tecsbwc Nar. Ma nhw'n gallu rhoi eu penau lawr a jest chwara, dim o'r ffansi dansi jympio o gwmpas y llwyfan. Mae'r ffaith fod Dylan y gitarydd yn gwisgo crys-t Manowar jest yn crynhoi faint o cwl am fod yn un-cool ydy nhw a jest gneud petha fel ma nhw isho. Mae eu caneuon rocaidd yn hynod catchy, ac gyda'i casgliadau CD yn mynd yn ôl yn bell, mae ganddynt ddigon o ganeuon i greu setiau byw gwych.
Uchafbwynt y Noson Dawnsio Siôn o'r grwp BOB i Radio Flyers.
Isafbwynt y Noson Roedd pawb yn ofn camerau Bandit, felly ni wnaeth neb ond Siôn BOB fentro mynd i ddawnsio.
Achlysur Roc a Rôl Dwnim be sy'n roc a rôl dyddia yma, gan fod llawer yn galw Pete Doherty yn roc a rôl. Felly os mai pobl ar gyffuriau ydi pobl roc a rôl, aiff y wobr yma i criw hogia Nefyn.
Beth sy'n aros yn y Côf Boi o Nefyn yn gofyn pryd yr oedd y bandiau yn cychwyn, ac yn deud "Be, di nw'm yn cychwyn tan hannar awr arall?". Roedd ei wyneb gutted yn bictiwr, gan ei fod yn edrych ymlaen i weld y bandiau.
Talent Gorau'r Noson Mattoidz, am eu proffesiynoldeb.
Marciau allan o 10 8 Un gair am y gig?
Pen-llynaidd Lincs gwefan www.myspace.com/goradioflyers www.myspace.com/mattoidz Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |