 | Meic Stevens Sarn, Mawrth '06 Dafydd Owen
Lle a phryd? Ty Newydd, Sarn. Nos Wener, 10 Mawrth.
Y bandiau? Meic Stevens, Nishen.
Enw'r adolygydd Dafydd Owen
Awyrgylch? Roedd y lle yn orlawn. Pawb o bob oedran yno, a phob tocyn wedi ei werthu. Llawer wedi dod yna ar gyfer y gerddoriaeth ac nid i gael snog a meddwi, sydd yn beth da ac anrferol mewn gigs Cymraeg. Roedd y ddau far yn Ty Newydd yn llawn, ac roedd hi'n braf gallu gweld gwynebau cyfarwydd ym mhob man.
Trac y noson? Yn bersonnol, roedd Victor Parker gan Meic Stevens yn wych. Cafodd Chocolate Eclair gan Nishen ei chwarae ddwywaith - yr eildro oherwydd dymuniad y gynilleidfa. Ond mae'n anodd dewis un gân allan o ddwy set.
Disgrifiwch y perfformiadau
Nishen Dau lais a gitar, a caneuon eitha syml ond hynod 'catchy'. Fe aeth y merchaid lleol trwy eu set gyda gymaint o hyder, roeddynt wedi rhedeg allan o ganeuon erbyn y diwedd. Perfformiad da ac maent yn amlwg wedi gwella yn ddiweddar, piti na chawsant sylw pob aelod o'r dorf. Meic Stevens Gyda'i fand tu ôl iddo, teimlaf ei fod yn llawer gwell nac ar ei ben ei hun - ac heno roedd y band yno. Fe chwareodd o ganeuon gwych, cân ar ôl cân, ac fel ddywedodd rhywyn oedd yn y gig "Ro ni isho mynd i'r toilet yn ystod ei set a neshi ffindio fy hyn dweud 'Dwi'n mynd i'r toilet ar ôl y gan yma' a methu gadael am oesoedd achos fod pob cân mor wych." Fe wnaeth hynnu ddweud popeth oedd ei angen am ei berfformiad heblaw am un peth allweddol sef y tiwnio a gymerodd chydig rhy hir a wnaeth arafu pethau yng nghanol y set.
Uchafbwynt y noson? Pawb yn cymeradwyo Meic Stevens ar ôl iddo ddweud wrth drigolion y bar am beidio bod mor swnllyd yn ystod ei berfformiad. Mae gormod o fandiau yn y Sin Roc Gymraeg yn derbyn y ffaith nad yw dros hanner y gynilleidfa am gymeryd sylw yn lle ceisio gwneud rhywbeth amdano.
Beth sy'n aros yn y cof? Pa mor glên a modest yr oedd Meic Stevens pan ges i air gydag o.
Y peth gwaethaf am y noson? Roedd yna ddynes feddw yn y ffrynt yn gwylltio Meic Stevens, ei fand a pawb arall. Mae nhw ym mhob gig, ond roedd yn hon yn waeth na'r arfer!
Achlysur roc a rôl? Meic Stevens yn rhoi llond ceg i'r ddynes feddw!!
Talent gorau'r noson? Billy Thompson, aelod o fand Meic Stevens. Roedd ei allu ar y ffidl yn anhygoel.
Marciau allan o ddeg? 8/10 Un gair i ddisgrifio'r gig? Gwych. Unrhyw sylwadau eraill? Cerwch i gigs Ty Newydd. Mae'r bobl leol yn glen iawn, ac mae'r cwrw'n rhad ac yn dda (peth arall sy'n anarferol mewn gigs Cymraeg). Lincs Gwefan gwynfryncymunedol.co.uk Manylion Meic Stevens ar wefan y BBC Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |