BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageMattoidz, Cowbois...
Clwb Ifor, Medi 06
Sian Alwen


Lle a phryd?
Clwb Ifor Bach, Caerdydd, Medi 28, 2006

Y bandiau?
Cowbois Rhos Botwnnog, Tangwystl a Mattoidz

Enw'r adolygydd?
Sian Alwen, Llangernyw.

Awyrgylch?
Dechreuodd y noson bron i awr yn hwyr gyda'r lle yn weddol wag i gychwyn. Ond roedd digon o gefnogwyr i bob band oedd yn bywiogi'r noson. Erbyn diwedd y noson roedd y lle'n llawn gyda pobl wedi cael digon i yfed ac yn barod i ddawnsio i Mattoidz oedd yn gwneud yr awyrylch yn hwyliog a chefnogol.

Trac y noson?
'Sos Coch'-Mattoidz. Mae'r gan yma wedi tyfu i fod yn dipyn o anthem ac unwaith i Rhys James gychwyn chwarae'r gitar aeth pawb at y ffrynt i ddawnsio. Mae'r geiriau yn weddol hawdd i'w cofio felly da oedd gweld y gynulleidfa yn canu i'r gân hefyd.

Disgrifiwch y perfformiadau.
Cowbois Rhos Botwnnog - I feddwl fod y band yma yn weddol newydd roeddent yn edrych yn brofesiynnol iawn ar y llwyfan. Roedd eu caneuon yn amrywiol ac ysgafn ac yn hawdd i wrando arnynt. Roedd yr darn offerynnol ar ddiwedd y set wedi gadael argraff ar y gynulleidfa ac hefyd wnaeth yr unawd drwm fywiogi'r gynulleidfa. Roedd yn amlwg fod ganddynt gefnogaeth dda gyda llawer o ferched wedi gwisgo fyny fel cowbois ac yn dawnsio yn y blaen ac yn canu'r geiriau i gyd.

Tangwystl - Roedd yn amlwg fod yna ambel i ffan Tanwystl yna gyda 3 person yn enwedig yn dawnsio drwy'r holl set yn egniol iawn! Mae pob amser yn dda gweld cello a saxophone yn cael ei chwarae gan fand a hynny'n effeithiol. Dyma fand mwyaf swnllyd y noson. 'Coffi Cymraeg' a 'Saith Pechod Marwol' oedd uchafbwyniau eu set gyda llawer o'r dorf yn gwybod y geiriau ac yn ymuno yn y dawnsio a'r neidio oedd yn mynd ymlaen gyda grwpis y band yn y blaen.

Mattoidz - Roedd yn amlwg gweld pam roedd y band wedi ennill cystadleuaeth band y flwyddyn yn 2005. Roedd y ffrynt yn lawn o bobl yn neidio i fyny ag i lawr i'w cerddoriaeth hen a newydd. Wnaeth y gân - 'Edrych Yn Well o Bell' gael y gynulleida i gyd i ganu a roedd eu rhestr canu yn effeithiol gan eu bod yn cymysgu yr albwm neywdd a'r rhai cynt felly os nad oedd rhywyn wedi clywed yr albwm newydd doedd dim amser i fod yn ddiflas gan fod caneuon o'r hen ep's yn dilyn.


Uchafbwynt y noson?
Pawb yn neidio i fyny ag i lawr yn y blaen pan chwaraeodd Mattoidz 'Sos Coch.'

Beth sy'n aros yn y côf?
Unawd drwm Cowbois Rhos Botwnnog.

Gair am y gig?
Egniol.

Talent mwya'r noson?
Cowbois Rhos Botwnnog. Mwynhais pob un o'u caneuon. Roeddent yn fywiog ac yn fand cyffrous iawn.

Marciau allan o 10?
7 allan o 10. - Noson dda ar y cyfan - bechod nad oedd yna gymaint o dorf ar y dechrau a wnaeth yr awyrgylch braidd yn fflat ar gychwyn y noson.

Lincs Gwefan
www.mattoidz.com
www.myspace.com/cowboisrhosbotwnnog

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy