BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageGenod Droog, Di Prav...
Ty Newydd, Sarn. Ebrill '06
Dafydd Owen


Lle a phryd?
Ty Newydd, Sarn. Nos Sadwrn, 15fed o Ebrill.

Y Bandiau?
Genod Droog, Di Pravinho a Cowbois Rhos Botwnnog

Enw'r adolygydd
Dafydd Owen

Awyrgylch?
Cyrhaeddais wrth glywed y Genod Droog yr holl ffordd lawr yng ngwaelod Sarn, wrth iddynt "soundcheck-io". Eshi i wrando ar chydig o'r "soundcheck", ac odd y sain yn anhygoel. Roedd hi'n argoeli i fod yn noson dda, yn enwedig gyda gymaint yno. Doedd y lle ddim yn orlawn, ond odd na lot yno.

Trac y noson?
"Pressez" gan Cowbois Rhos Botwnnog. Trac gyda pob gair yn Ffrangeg, gyda pawb yn canu gydag Iwan, prif leisydd y band. Styning.

Disgrifiwch y perfformiadau:

Cowbois Rhos Botwnnog - Yn fy marn personol i, dyma un o'r bandiau byw gorau sydd i'w gael yng y Sin Roc Gymraeg ar y funud. Peth mawr i'w ddweud am fand eitha newydd, ond mae eu cerddoriaeth yn eich annog i sefyll fyny, gwrando a dawnsio. Gyda'u cerddoriaeth blwsaidd/gwerinol, a'u geiriau "quriky", maent yn sicr o lwyddo yng Nghymru unwaith wnaiff pobl gymeryd sylw maent yn eu llawn haeddu.

Di Pravinho - Band ifanc o Borthmadog a'r ardal, sydd yn chwarae cerddoriaeth ska, sydd newydd adio aelod i'w band, sef y sacsoffonydd. Yn anffodus i Di Pravinho, er fod nhw wedi bod yn mynd ers eitha' hir, does yna neb wirioneddol wedi cymeryd sylw ohonynt o ra rhyddhau cynnyrch. Sy'n eitha piti, gan fod ganddynt ganeuon eitha catchy, ac heno roeddynt yn gweddu yn dda gyda'r naws yr oedd CRB (Cowbois Rhos Botwnnog) wedi ei adael. Dwi'n hoff iawn o'r gân "Plentyn y Chwyldro".

Genod Droog - Band hollol newydd sydd wedi rhywsut darganfod eu hunain yn "headlinio" gigs ac yn siwr o fod yn chwarae ym mhobman dros yr haf, ac ar ôl perfformiad heno, maent yn llawn haeddu hynny. Maent yn fand byw anhygoel, ac er mor dda yr oedd y "soundcheck" yn swnio, pan aethynt ymlaen, ni oedd y P.A. methu eu handlo mor dda. Ond fe wnaethynt chwara set dda, er fod nhw wedi chwarae eu caneuon gorau tuag at cychwyn y set. Ro' ni yn y ffrynt yn gwrando yn eitha meddw a bodlon, pan wnes i ddigwydd troi rownd a sylwi fod yr ystafell yn wag bron. Dwnim pam, gan fod band byw gwych yn chwarae am ddim ond £2 ac roedd hon yn berfformiad da arall gan y band.

Uchafbwynt y noson?
Set Cowbois Rhos Botwnnog. Ma' nw jest yn wych.

Isafbwynt y noson?
Fod y dorf yn mynd o un bar i'r llall yn Ty Newydd. Problem annodd i'w atal.

Achlysur Roc a Rôl?
Percussion jam ar ddiwedd y gig. Tua 8 person rownd kit drymiau, gydag Ed Holden yn gwneud "beat boxing" anhygoel.

Beth sy'n aros yn y cof?
Goleadau a "smoke machine" Genod Droog.

Talent gorau'r noson?
Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog ai' sgiliau dawnsio anhygoel, a'u allu cyfansoddi.

Marciau allan o ddeg?
9/10

Un gair am y gig?
"Amezing!"

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Dim lot arall i'w ddweud heblaw am fod rhaid cymeradwyo Hefin Jones am drefnu yr holl gigs yn Nhy Newydd. Mae'n cynnal y Sin Roc Gymraeg ym Mhen Llyn.

Lincs gwefan
Gwefan Genod Droog
Gwefan Di Pravinho
Gwefan Cowbois Rhos Botwnnog

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy