BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageGenod Droog, Plant...
Clwb Ifor, Rhag 2006
Dafydd Owen


Enw'r Adolygydd?
Dafydd Owen

Lle?
Clwb Ifor Bach, Caerdydd - 1 Rhagfyr 2006

Y Bandiau?
Plant Duw, Derwyddon Dr Gonzo a Genod Droog.

Awyrgylch?
Roedd Clwb Ifor yn llawn a rodd y ffaith fod y bandiau ymlaen yn hwyrach yn golygu fod mwy wedi gweld Plant Duw nag os fysa'r gig yn cychwyn am 9.30 fel yr arfer yno, sydd yn beth da iawn yn bersonol.

Trac y Noson?
Nerth dy Draed gan Plant Duw.

Disgrifiwch y Perfformiadau
Plant Duw
Nhw oedd y band cynta ymlaen ac fe wnaethon nhw agor y noson yn dda iawn. Gyda'i sengl newydd yn barod yn llwyddiant, roedd na chydig o ddisgwyliadau ar y band ac yn bersonol natho nhw lwyddo i fy mhleshio i a lot o'r gynulleidfa. Roedd y 'On the first day of Christmas, my true love gave to me...' cyn pob cân yn gyffyrddiad neis iawn. Ma nhw wedi gwella gymaint yn fyw yn yr ychydig fisoedd dwetha, ac wedi tynhau. Mae dal lle i dynhau, ond mae'n bosib dweud hynny am rhan fwyaf o fandiau.

Derwyddon Dr Gonzo
Mae'r Derwyddon yn un o'r bandiau yna sy'n gweithio yn arbennig yn fyw, ac yn llwyddo i gael pawb i ddawnsio - tebyg iawn i Drumbago. Heno oedd y tro cynta' i mi eu gweld nhw gyda allweddellwr a natho nhw ddim siomi. Roedd y siwtiau doctor a'r siwt gofod ar Ifan Jams yn cwl. Mae'r Derwyddon wastad yn tueddu i roi ymdrech mewn i'w perfformiad a nid dim ond y caneuon sydd yn bleser i'w gweld mewn band. Er nad ydwi wedi gweld y band ers y band yn fyw ers yr Eisteddfod (lle wnaethon nhw hefyd bleshio), dwi'n eitha sicr roedd yna ganeuon newydd yn set heno, ac maent wedi sticio i'w gwreiddiau affro-beat yn y rheini.

Genod Droog
Ar ôl eu perfformiad gwych yn y Rhyng Gol, o ni yn edrach mlaen i weld y Genod Droog, ac neshi rili mwynhau heno 'fyd. Ma nhw wedi gweithio allan be' mae cynulleidfa Cymraeg isho, sef hwyl a nhw ydi'r meistri! Roedd y "silly string" allan unwaith eto, wnaeth gyfrannu at yr elfen o hwyl i'r noson. Roedd P.A. ffantastig Clwb Ifor Bach yn gweithio yn dda i'r band, ac er fod nhw ymlaen yn eitha hwyr am gig Cymraeg, roeddynt dal yn llawn egni, yn enwedig eu 'ffryntmen' Nei ac Ed. Roedd "Criminal Records" yn wych o gân i orffen y set.

Uchafbwynt y Noson?
Roedd y lle yn llawn hyd yn oed cyn i'r band cynta gychwyn!

Y peth gwaethaf am y noson
Oedd o'n un o'r nosweithiau 'na lle oedd o drosodd lot rhy gyflym.

Achlysur Roc a Rôl?
Neshim sylwi ar ddim byd ond mi rodd y "drooping cigarette" o geg Dyl Mei yn fy atgoffa o Slash, Guns N' Roses!

Beth sy'n aros yn y cof?
Gweld lot o drigolion Caerdydd nad o'ni di gweld ers amser maith.

Talent Gorau'r Noson?
Yn bersonol, Plant Duw.

Marciau allan o Ddeg?
9/10

Un Gair am y gig?
Poeth

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Roedd cael gigs ymlaen yn hwyr yn Clwb yn gweithio'n dda.

Lincs gwefan?

Cysylltiadau'r we
Plant Duw
Sesiwn Plant Duw i C2
Derwyddon Dr Gonzo
Sesiwn Derwyddon Dr Gonzo i C2
Genod Droog

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy