BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageFflur Dafydd, Diwygiad
Gair am Gân, Ionawr '06
Alun Rhys Chivers


Lle a phryd
Gigwyddiad yr Academi, Gair ar Gân, Gwesty'r Talbot, Tregaron - Ionawr 21ain, 2006.

Y Bandiau
Y Diwygiad, Fflur Dafydd a'r Barf, Gwyneth Glyn, Heather Jones, Tecwyn Ifan.

Enw'r adolygydd
Adolygiad gan Alun Chivers.

Awyrgylch
Ar ôl diwrnod o wrando ar sesiynau siarad a fforwm holi ac ateb am lên a cherdd, pa well ffordd sydd o ymlacio na gig ag iddi amrywiaeth o dalentau gorau cerddoriaeth Gymraeg drwy'r degawdau. Cynhaliwyd y gig mewn ystafell fach yng Ngwesty'r Talbot. Cymharol fach oedd y dorf, ond roedd pawb yn agos at ei gilydd o amgylch byrddau yn y bar.

I rywun fel fi sydd wedi arfer â gigs bywiog y ddinas, roedd hi'n braf cael bod yn llonyddwch cefn gwlad. Bues i yn y Talbot ychydig flynyddoedd yn ôl, ond erioed ar gyfer gig - profiad anhygoel.

Trac y Noson
Alla i ddim penderfynu rhwng 'Adra' gan Gwyneth Glyn ac 'Ar ôl Heddi' gan Fflur Dafydd a'r Barf. Roedd y ddwy gân yn wych a'r ddwy gantores ar eu gorau. Wrth i Gwyneth Glyn berfformio 'Adra', roedd y geiriau 'cau fy llygaid ac agor fy enaid' yn gweddu'n berffaith i'r awyrgylch. Roedd 'Ar ôl Heddi' yn egnïol ac yn ddechrau gwych i set fywiog Fflur.

Disgrifiwch y perfformiadau

Y Diwygiad - Eu gig gyntaf fel band newydd. Roedd rapio Aneirin Karadog ac Ed Holden ychydig yn siomedig, gan nad oeddynt yn asio'n lleisiol ac roedd diffyg hyder yn eu perfformiad. Gan eu bod nhw'n ddau o rapwyr gorau'r sîn, dwi'n siŵr y byddan nhw'n gwella wrth ddod i'r arfer â pherfformio gyda'i gilydd.

Gwyneth Glyn - Set o ganeuon oddi ar ei halbwm diweddaraf. Roedd ei dylanwadau'n amlwg yn yr arlwy o ganeuon a gyflwynwyd ganddi - o Joni Mitchell i John Denver. Bron y gellid ei disgrifio'n Joni Mitchell cerddoriaeth Gymraeg. Roedd hi'n rhyfedd i'w chlywed hi'n canu cân Saesneg ('Lonesome When You Go' gan Bob Dylan), rhywbeth na fydd hi'n ei wneud yn aml, dwi'n gobeithio. Sylweddolais yn ystod y set pa mor rhwydd yw hi i adael i'r meddwl grwydro wrth i'w geiriau ysgogi'r meddwl i weithio.

Fflur Dafydd a'r Barf - Perfformiad hyderus a bywiog arall gan Fflur a'i Band, gydag 'Ar ôl Heddi' yn agoriad trydanol i'w set. Roedd y caneuon yn newid o fod yn drwm i fod yn ysgafn am yn ail, gyda jazz a blŵs yn rhan amlwg o'r rhan fwyaf o'i chaneuon. Set gampus er gwaethaf y 'D stiff' ar yr allweddellau (roedd yn rhaid i chi fod yno i'w werthfawrogi!!) a'r llais braidd yn isel. Dyma un o gantoresau amlycaf y SRG (sîn roc Gymraeg) ar ei gorau.

Heather Jones - Set ymlaciedig a gafwyd ganddi. Braf gweld ei bod hi'n dal i wybod sut mae diddanu dorf ar ôl cymaint o amser ar y sîn. Aeth hi drwy set o'i goreuon ar hyd y blynyddoedd, o 'Cwm Hiraeth' i 'Paid ag Eistedd' (a gyflwynwyd fel teyrnged i Tich Gwilym). Roedd hi'n ddiddorol clywed ei hanes rhwng y caneuon, a thrwy hynny, gallai'r dorf deimlo'n agos ati drwy'r set. Dychwelodd hi i'r llwyfan i ganu 'Lisa Lân' i gloi'r noson (gydag ychydig o anogaeth gan y Prifardd y cyfeirir ato isod!).

Tecwyn Ifan - Gyda'r naws tawel ar ddiwedd diwrnod llawn hwyl a sbri, roedd y set yn gyfle da i bawb gael eistedd yn ôl a mwynhau perfformiad un o'r anfarwolion. Roedd y set yn llawn blŵs a gwerin, gyda llu o'i oreuon drwy'r cyfan (o 'Stesion Strata' i 'Y Dref Wen'). Braf clywed y llais cyfarwydd yn dal i fynd yn gryf.

Uchafbwynt y noson
Daeth y dorf yn fyw wrth i Tecwyn Ifan fynd ar garlam drwy'r clasuron i gyd, yn enwedig 'Y Dref Wen' a oedd yn ffefryn gan bawb. Gellid clywed pawb yn cyd-ganu ar ddiwedd noson o hwyl a mwynhad.

Y peth gwaethaf am y noson
Roedd y PA yn siomedig ar adegau, gan ei bod hi'n anodd clywed y geiriau yn ystod rhai o'r caneuon. Ond â bod yn deg, roedd y sain yn gorfod amrywio oherwydd yr ystod eang o ganeuon a gafwyd ar y noson.

Beth sy'n aros yn y cof?
'Colli Iaith' gan Heather Jones oedd un o fomentau iasol y noson. Canodd hi hon yn ddigyfeiliant, fel yr arfer, ac fe aeth yr ystafell yn hollol dawel.

Talent gorau'r noson
Ar wahân i'r 'Diwygiad' (dwi ddim yn ffan o rap, beth bynnag, rhaid cyfaddef), mae'n anodd dewis rhwng y gweddill am eu bod nhw i gyd yn berfformiadau campus. Braf gweld Gwyneth Glyn a Fflur Dafydd yn cynnal y sîn, Heather Jones yn dal i fod yn boblogaidd bedwar degawd ers ymddangos am y tro cyntaf, a Tecwyn Ifan yn un o'n cantorion oesol ni.

Marciau allan o ddeg
9/10

Un gair am y gig
Gwefreiddiol!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Os na fuoch chi i gig yn y Talbot o'r blaen, dwi'n awgrymu'n gryf y dylech chi fentro draw (a gwnewch yn siŵr bod gennych chi amser i flasu eu bwyd hyfryd!). Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at weld Fflur Dafydd a'r Barf unwaith eto yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe nos Iau yma (Ionawr 26ain).

Cysylltiadau'r we
academi.org
Gwesty'r Talbot
Sesiwn Fflur Dafydd a'r Barf
Sesiwn Gwyneth Glyn

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy