BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageFrizbee, Nathan Wms...
Caerdydd, Chwefror 2006
Esyllt Williams


Lle a phryd?
Clwb Ifor Bach, Caerdydd 16/02/06

Y Bandiau?
Frizbee, Nathan Williams a'r Band, Rebownder

Enw'r Adolygydd
Esyllt Williams

Awyrgylch?
Bar gwaelod Clwb ar nos Iau gyda pawb yn eistedd ar soffas ac yn llochesu'n hapus yn y tywyllwch. I ddechrau, roedd pethau bach yn araf ond erbyn yr ail fand roedd y lle'n dechrau llenwi a mwy o ganmol a gweiddi rhwng y caneuon. Roedd y lle wedi ei lenwi y rhan fwyaf gyda myfyrwyr a phobl ifanc a roedd lot o floeddio wrth i Frizbee dedicato cân i'r "joscyns"!

Trac y Noson?
Bienvenue - Frizbee. Mi nath hon gael lot o ferched lan yn dawnsio ag yn canu.

Disgrifiwch y Perfformiadau?

Rebownder - Band o'n i heb weld o'r blaen. Eitha tebyg i nifer o pyb singers eraill a llais y canwr ychydig fel un Kelly o'r Stereophonics ar adegau. Ddim math fi o beth ond weithiau oedd e'n gweithio - weithiau ddim! Oeddan nhw'n edrych yn eitha nerfus a daeth hwnna drostodd yn y perfformiad.

Nathan Williams a'r Band - Yn ystod eu perfformiad, roedd na adegau gwych - fflachiau bach o'r "Magic Numbers" yn disgleirio trwyddo -ysbrydoledig! Melodïau da a llais Nathan yn felys i gyd. Ddim yn fand sy'n barod i headlino eto ond yn dda yn cefnogi. Yn bendant fe naethon nhw godi awyrgylch y lle. O'n i'n hoffi'r ffordd aethon nhw'n syth o un gân i'r nesaf ar adegau, fel gyda 'Deud Dim Byd' a 'Rwbath Amdani'. Bydde diddordeb da fi mewn gweld nhw eto yn sicr.

Frizbee - Perfformiad hyderus fel arfer. Naetho nhw eu holl 'hits' a roedd popeth yn eithaf slic. Serch hyn i gyd o'n i'n teimlo bod yr holl beth yn colli rhywfath o sparc, doedd dim byd o'i le ar y perfformiad, popeth mewn tiwn, y band yn mwynhau ei hun ond o'n i'n cael y teimlad bod y band ddim yn ymroddi'n llwyr i'r peth, taw noson arferol, heb yr angen iddyn nhw drio gormod, heb unrhywbeth arbennig iddyn nhw oedd e a naeth hwnna adael fi'n teimlo ychydig yn siomedig.

Beth sy'n Aros yn y Cof?
Merched yn dawnsio ac yn canu'r geiriau i gyd - anarferol mewn gigs Caerdydd!

Uchafbwynt y Noson?
Gweld Nathan Williams a'r Band am fod yna rhannau o'u set nhw naeth syfrdanu a sbarduno diddordeb.

Y Peth Gwaethaf am y Noson?
Dim byd wael iawn - jyst fel doedd na ddim byd arbennig iawn.

Achlysur Roc a Rol?
Dylan o Radio Luxembourg yn neidio ar y llwyfan a lluchio gitâr i ffwrdd gan weiddi... na dim rili! Dim byd roc a rôl.

Talent gorau'r noson?
Anodd gweud. Oedd e felse neb yn rhoi cant y cant i'r peth.

Un gair am y gig
Dawnsio

Marciau allan o ddeg?
6

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?


Lincs Gwefan?
www.friz-b.co.uk
Sesiwn C2 Frizbee
Rebownder
Clwb Ifor Bach

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy