BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageEuros Childs
Caernarfon, Mawrth 2006
Gethin Wyn Jones


Lle a phryd?
Galeri Caernarfon, Dydd Gŵyl Dewi 2006

Y bandiau?
Euros Childs, Gorwel a Fiona Owen ac roedd DJ Huw Stephens yn gyfrifol am y gerddoriaeth rhwng y setiau.

Enw'r adolygydd
Gethin Wyn Jones

Awyrgylch?
Awyrgylch gyfforddus a chlos, gyda phrif theatr y Galeri yn llawn pobl o bob oedran. Roedd y mwyfarif o'r gynulleidfa yn eistedd ar lawr y Galeri, oedd yn rhoi teimlad intimate i'r gig.

Trac y noson?
'Dawnsio Dros y Môr' yn dod â theimlad hapus a hafaidd i calonnau y gynulleidfa a hitha yn noson oer iawn tu allan.

Disgrifiwch y perfformiadau

Gorwel a Fiona Owen - Pedwarawd unigryw Cymraeg/Saesneg. Roedd eu caneuon am obaith mewn steil o gerddoriaeth traddodiadol Gymreig wedi'w gymysgu gyda cherddoriaeth gwlad yn un unigryw iawn. Caneuon araf gyda melodiau syml oedd y mwyafrif yn y set gyda sypreis cover o gân Datblygu - Symud i Ddim.

Euros Childs - Yn ran o fand Euros am y noson oedd Alun Tan Lan, Pete Richardson a dau aelod o Radio Luxemburg. Roedd y set yn cychwyn gyda cân agoriadol yr album 'Chops', er nad oedd llawer o ganeuon adnabyddus gan Y Gorky's yn y set, roedd y caneuon oddi ar yr album Chops yn plesio. Roedd y Mwnci Drwg yn uchafbywnt gydag Euros yn gweiddi ei galon allan drwy neud synau mwnci, roedd y cyffro o ysbryd y mwnci i'w weld o fewn Euros!

Roedd 'First Time I Saw You', 'Donkey Island' a'r hynod o hafaidd 'Dawnsio Dros Y Môr' i gyd yn plesio y gynulleidfa. Roedd y band yn cyd-weithio yn dda gyda phob aelod yn amlwg yn mwynhau eu hunain. Roedd y perfformiad yn dda iawn ac roedd Euros yn cysylltu yn dda gyda'r gynulleidfa. Cychwyn addawol i'r daith Brydeinig.

Beth sy'n aros yn y cof?
Y nerth mewnol oedd gan Euros Childs o gychwyn y set hyd at y diwedd.

Uchafbwynt y noson?
Synau mwnci Euros Childs.

Y peth gwaethaf am y noson?
Un neu ddau o draciau oddi ar Chops yn cael eu gadael allan - 'Costa Rita' a 'Country Girl'.

Achlysur roc a rôl?
Yn ystod y Mwnci Drwg ddaru Euros fynd allan o reolaeth! Roedd y dwr cyfagos yn helpu iddo gael ei wynt a roedd chwerthin gan y gynulleidfa, Alun Tan Lan ac Euros yn creu moment unigryw yn y set.

Talent gorau'r noson?
Euros Childs

Marciau allan o ddeg?
8/10

Lincs Gwefan
euroschilds.com
Sesiwn C2 Euros Childs
Fiona a Gorwel Owen
Galeri

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy