BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageAcid Casuals, Ffyrc...
Amser, Hydref '06
Gethin Wyn Jones


Lle a phryd?
Clwb Amser, Bangor, 5ed o Hydref 2006

Y bandiau?
Acid Casuals, Y Ffyrc, Calansho, Screaming Citizens a Valleum

Enw'r adolygydd?
Gethin Wyn Jones, Groeslon

Awyrgylch?
Awyrgylch iawn oedd i'r gig, ella bod clwb Amser ddim yn y lle gora' i gynnal gig felma, er bod y sain yn dda iawn doedd na'm teimlad gig i'r lle ond roedd pawb yna yn barod i gael amser da ac i fwynhau y gerddoriaeth er nad oedd y lle yn llawn a bod gan y rhan helaeth o fyfyrwyr ym Mangor ddarlithoedd y bore wedyn neu bod nhw ddim eisiau talu £7 i ddod i fewn - chydig yn ddrud efallai!

Trac y noson?
Yn bersonol trac Y Ffyrc, 'Mae Na' Le' oedd y trac gora i mi, cân hyfryd!

Disgrifiwch y perfformiadau.
Valleum Band roc trwm yw Valleum, a'n bersonol doeddwn i ddim yn gweld sut yr oeddant yn ffitio mewn i noson reit 'chilled', ond roedd aelodau y band yn chware'n dda ac roeddent llawn hyder am fand gyntaf y noson.

Screaming Citizens- Ar ol roc trwm trwm Valleum death y Screaming Citizens ar y llwyfan, band lleol o ardal Bangor ydy nhw a rhaid deud ddaru fi joio eu set. Mae'r prif leisydd yn chwarae'r ffliwt ac mae yma gymysgedd o Jazz/ffync/rock yn eu caneuon sydd yn 'upbeat' ac yn ffynci, band da i ddawnsio dwin credu!

Calansho - Mae Calansho yn fand gall unrhyw berson hoffi. Mae'r aelodau ag elfen 'cool 'iawn tuag at eu perfformiad ac mae eu set yn un sydd ag amrywiaeth gerddorol, dim roc trwm yn unig am hanner awr! Ddaru fi a sawl arall joio set Calansho sydd yn gweithio yn galed ar hyn o bryd yn gigio o amgylch y wlad gyda rhai gig's yn Lloegr hefyd. Mae gan y band botensial mawr iawn gyda'r caneuon 'Cadair Ddu' a 'Downtown Man' yn sefyll allan yn eu set.

Y Ffyrc - Daeth Y Ffyrc ymlaen i'r llwyfan yr un mor cwl ac erioed, fel dyddia Y Cyrff a Catatonia, gyda Paul a Mark o'r band yn cychwn eu set gyda'u caneuon newydd oddi ar eu albym 'Oes'. Uchafbwynt y set oedd 'Ma na' Le' ond roedd pob can ganddynt yn cael eu chware i'r safon uchaf gyda 'Heb Eithriad' a 'Godinebwraig' yn sefyll allan. Da oedd gweld sawl wyneb cyfarwydd o deledu Cymraeg yn y gynulleidfa yn gwylio aelodau un o fandiau pwysicaf cerddoriaeth Cymru., Set gwych gan fand gwych!

Acid Casuals- Roedd hi wedi un yn y bore pan ddaru'r Acid Casuals gychwyn felly roedd rhan helaeth o'r gynulleidfa yn cychwyn gadael pan ddaru nhw gychwyn ond roedd DJ's yr Acid Casuals yn rhoi set o 'beats' cwl a thraciau 'chilled' yn gymysg hefo rhai samplau oddi are eu albym 'Omni' sydd yn ddarn o waith gwych yn fy marn i!



Uchafbwynt y noson?
Cael gweld y Ffyrc yn chware'n fyw a samplo talent bandiau newydd fel Calansho a'r Screaming Citizens.

Beth sy'n aros yn y côf?
Heblaw am y 'cocktails' hyfryd o'r bar roedd set Y Ffyrc yn wych. Cerddorion proffesiynol!

Gair an y gig?
Drud!

Talent mwya'r noson?
Calansho rhaid deud, am fand reit newydd roedd gan y band set o ganeuon da a'r agwedd iawn am fand.

Marciau allan o 10?
6 allan o 10 - Er bod y bandiau wedi bod yn wych doedd na ddim teimlad gig yno ac roedd £7 ychydig yn ddrud dwi'n credu a dyna pam doedd hi ddim yn llawn yno.

Lincs gwefan
www.screamingcitizens.co.uk
www.yffyrc.co.ukwww.acidcasuals.comwww.calansho.com

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy