BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageKAFC, Radio Lux, Neb
Yr Wyddgrug, Hyd 2005
Craig Owen Jones


Lle a phryd
Clwb Cyn-Filwyr, Yr Wyddgrug, Nos Wener 28ain o Hydref 2005 - rhan o Daith C2 Bandit.

Y bandiau
Kentucky AFC, Radio Luxembourg, Neb, DJ Fuzzyfelt

Adolygwr y gig
Craig Owen Jones

Awyrgylch
Mae digwyddiadau Cymraeg wedi dod i'r Clwb yn y gorffennol, ond hwn oedd y gig cyntaf i'w rhoi ymlaen yno ers talwm. Efo dim ond tua 60 o bobl yn y gynulleidfa - roedd yna gig David Mysterious yn Wrecsam ar yr un noson - doedd yr awyrgylch ddim yn electrig, ond wnaeth criw o Ysgol Maes Garmon neud swn pan ymddangosodd arwyr lleol Neb ar y llwyfan. Ar y cyfan, roedd y torf yn werthfawrogol.

Disgrifiwch y perfformiadau

Neb: Roedd ateb Cymru i'r Darkness yn ardderchog ar y noson, yn llawn egni a hwyl. Fodd bynnag, cefais i (a chryn tipyn o bobl yn y gynulleidfa efallai) siom pan gyrhaeddon nhw ddiwedd y set heb chwarae dau hen drac, 'Dawnsio Yn Y Glaw' a 'Chwilio Amdanoch Chi'.

Radio Luxembourg: Ar eu hymweliad cyntaf i'r Wyddgrug, ddaru y bedwarawd yma chwarae'n arbennig o dda. Roedd 'na ddylanwad Gorky's Zygotic Mynci amlwg yn eu cerddoriaeth, efo synau Moog i'r blaen, ond serch hynny, roedd hi'n anodd i ddiffinio'u steil cerddorol. Efo'u record cyntaf ar y gweill, dylai perfformiadau fel hyn blesio ffans cerddoriaeth ledled Cymru.

Kentucky AFC: Roedd y set ei hunain yn un dda, ond roedd o'n siomedig i weld cymaint o bobl yn gadael cyn iddo ddod i ben.

Trac y noson
Wnaeth 'Gizmo' gan Kentucky AFC - y trac cyntaf o'u set - adeiladu yn dda iawn.

Uchafbwynt y noson
Cân olaf Neb, 'Y Masycyr' - cân roc a rôl go iawn!

Y peth gwaethaf am y noson
Doedd 'na ddim digon o bobl yn y gynulleidfa. Cafodd y gig ei hyrwyddo yn y papurau lleol ac yn y blaen, ond dydi pobl yn y gogledd-ddwyrain ddim yn disgwyl bandiau Cymraeg i ddod i'r ardal i chwarae ar sail rheolaidd. Tasai 'na noson misol neu ddeu-fisol yn Sir y Fflint (Gwener y Grolsch, efallai), gallom weld torf gwell yn y dyfodol.

Achlysur Roc a Rôl
Rhywbeth roc a rôl? Yn Yr Wyddgrug??

Beth sy'n aros yn y cof?
Gweld basydd Neb yn neidio oddi ar y llwyfan yn ystod eu set; gwylio criw o hogia o'r Maes Garmon yn gwneud y pogo fel nytars.

Talent gorau'r noson
Mae'n anodd i ddeud, ond roedd Radio Luexembourg yn broffesiynol iawn - edrych ymlaen at glywed y sengl!

Marciau allan o ddeg
7/10

Un gair am y gig
Swnllyd

Unrhyw sylwadau eraill?
Mwy o fandiau Cymraeg i'r gogledd-ddwyrain plis!

Lincs gwefan
Taith C2 Bandit
Lluniau'r Gig
Kentucky AFC
Sesiwn Radio Luxembourg

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy