 | Elin Fflur, Frizbee, Bob Waa! Bala, Medi 2005 Gan Leusa Fflur
Lle a phryd Gwyl Waa! Bala - Y Grîn, Bala. 9fed a 10fed o Fedi, 2005
Y bandiau Nos Wener - Elin Fflur yn unig. Nos Sadwrn - Smooth Roscow, Amledd, Bob, ryw fand oedd yn swnio fel Papagini, Frizbee a Celt
Awyrgylch Yn od iawn i feddwl mai yn Bala mae'r ŵyl, mae'r babell wen fawr yn llawn dop, a dim ffermwyr yn unig sydd yma, o naci.... mae pawb yn hapus ac yn nabod ei gilydd ac yn mwynhau'r gerddoriaeth a'r dawnsio.
Trac y noson 'Defaid' gan Bob. Mae hon yn ddiweddar newydd lanio ar Radio Cymru, ac yn cael ei chwarae yn aml - roc a rol gwych gyda cytgan afaelgar "DEFAID, JYST DEFAID!"
Disgrifiwch y perfformiadau
Smooth Roscow: Band cyfyr yn canu clasuron roc a rol Saesneg - cerddorion talentog, ddylsa nhw ystyried sgwennu caneuon eu hunain.Y Band Diarth o Sir Fôn nad ydwi'n Gwybod eu Henw: Waw mi oedd rhein yn dda, a fina yn meddwl yn wyllt pam nad oni wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen! Ryw roc/pop ysgafn gyda ffryntman da, edrych mlaen i'w gweld nhw'n datblygu. Bob: Y band sydd wrthi'n dringo'r grisiau i fod yn un o fandiau roc trwm gorau'r Gymraeg. Caneuon gafaelgar, cerddorion talentog, swn uchel a gitar pinc - be gewch chi well?! Amledd: Band newydd Billy Thompson (ffidlwr Meic Stevens, he he ma hyna'n swnio'n amheus!). Dim dryms, dim ond gitar, ffidil a llais. Fe gymerodd ychydig i ddod i arfer gyda'r steil, a'r llais, ond roedd yn neis cael rhywbeth gwahanol fel hyn. Frizbee: Mor egniol â'r arfer! Pawb wrth eu boddau, ond dim lot o gyfathrebu â'r gynulleidfa, neu ella mai fi oedd ddim yn sbio. Celt: Dydw i ddim yn hoffi'r band yma, ond o ganlyniad i gael fy magu mewn ty lle ma @.com yn cael ei chwarae dragwyddol, dwi'n gwybod y caneuon i gyd. Ac ar ôl lemoned neu ddau yn ormod yn ôl y sôn, mi gafodd y band 'ma fi i ddawnsio ar ben bwrdd picnic o flaen tua 400 o bobol. owff anffodus. (ond os oes rhywun yn holi, dim fi oedd hi). Perfformiad egniol, da. A roedd Celt yn ok hefyd!
Uchafbwynt y noson Sylwi bod y band diarth o Sir Fon yn ofnadwy o dda, a felly bod band gwych arall ar landio ar y Sin Gerddorol Gymraeg.
Y peth gwaethaf am y noson Mai hen stejars fel Celt gafodd eu dewis i hedlainio'r noson, er bod sawl band ifanc, ffresh i'w gael i wneud hynny. Ac wrth gwrs y ffaith bod Sibrydion na Brigyn wedi chwarae yn wahanol i be ddwedodd y poster.
Achlysur Roc a Rôl Gitar pinc Marsli yn y band Bob!
Beth sy'n aros yn y cof Disgyn oddi-ar fwrdd picnic, a pawb yn canu hefo Frizbee
Talent gorau'r noson Billy Thompson yn chwarae'r Ffidl i'r band Amledd, er ei fod o'n dwyn y sioe braidd.
Marciau allan o ddeg 5/10
Un gair am y gig Waaaa! Unrhyw gyngor pellach? 1. Osgowch ffermwyr Bala ar bob cyfrif, yn enwedig y rhai mewn crysau gwyn gyda streips glas. 2. Ffeindiwch allan pwy 'di'r band newydd gwych 'ma o Sir Fôn! 3. Peidiwch a dawnsio ar fyrddau picnic doji. Lincs gwefan: Gwefan Frizbee Gwefan Elin Fflur Gwefan Amledd Gwefan BOB www.rhysmwyn.com (sylwer ei fod yn uniaith Saesneg) Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |