BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageFrizbee, Gilespi...
Tyrfe Tawe 2005
Alun Rhys Chivers


Lle a phryd
Gŵyl Tyrfe Tawe, Hydref 13-16 mewn lleoliadau ar hyd a lled Abertawe.

Y bandiau
Dan Morris
Marc Weinzweig
Mari Lwyd
Merched Becca
Chouchen
Neil Rosser
Tangwystl
Gilespi
Fflur Dafydd a'r Barf
Mattoidz
Frizbee
Gareth Phillips
Lisa Pedrick

Awyrgylch a pherfformiadau

Nos Iau
Roedd Gwesty'r Queen's yn byrlymu ar noson gyntaf yr ŵyl, a phawb yn ysu am gael blas o Tyrfe Tawe 2005. Roedd ystod o oedrannau yno, a chymysgedd o gefnogwyr selog digwyddiadau Abertawe a rhai pobl leol y dafarn. Roedd hi'n noson o ymlacio tan bod y clasuron yn cael eu chwarae.

Dyma noson o gerddoriaeth werin o'r safon uchaf gyda Dan Morris a Marc Weinzweig yn ddau o gerddorion gwerin amlycaf Cymru. Roedd 'Y Brawd Houdini', a ganwyd gan Huw Dylan Owen o Mari Lwyd, yn ffefryn gan bawb! Hefyd, braf gweld hen bobl leol yn codi ar eu traed ar gyfer yr anthem ar ddiwedd y noson! Pa mor aml fydd hyn yn digwydd mewn tafarn yn Abertawe ar nos Iau?!

Nos Wener
Amser cynyddu'r tempo. Unwaith eto roedd yr Adam and Eve dan ei sang am noson o jazz a roc ysgafn. Roedd y dorf yn edrych ymlaen at weld Merched Becca yn dychwelyd adref am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, ac ugain mlynedd ers iddynt ffurfio yma yn y ddinas.

Roedd hi'n ymddangos fod pawb yn mwynhau, ac roedd pawb yn cyd-ganu'r clasuron ac yn mwynhau gwledd o gerddoriaeth (ac roedd sawl un yn mynnu dawnsio hefyd!). Roedd Chouchen yn sicr yn plesio wrth ddychwelyd i'r sîn wedi cyfnod o dawelwch. Roedden nhw ar eu gorau nos Wener yn sicr! Hollol wych!

Roedd hi'n braf gweld Neil Rosser yn Tyrfe Tawe unwaith eto, y tro hwn yn brif artist y noson. Roedd ei set o ganeuon am ei ardal a'i fagwraeth yma'n sicr at ddant pawb. Roedd yr offerynnau pres yn atseinio i bob twll a chornel o'r dafarn.

Nos Sadwrn
Noson fawr y bobl ifanc oedd hon yn yr Inferno, gyda chyfoeth o'r bandiau mwyaf poblogaidd ar y sîn. Roedd y lle'n orlawn yn gynnar iawn, gyda phawb yn barod i ddawnsio. Roedd y neuadd yn edrych yn fawr wrth gerdded i mewn, ond buan yr oedd y gwagle'n brin iawn!

Roedd yr awyrgylch yn newid yn gyson drwy'r noson, gyda'r dorf yn ymateb yn wahanol i fathau gwahanol o gerddoriaeth. Roedd y mwyafrif ar eu ffordd mewn wrth i Tangwystl berfformio, a'r awydd i ddawnsio'n hollol amlwg.

Dechreuodd y dawnsio o ddifri yn seiniau Gilespi gyda'u cymysgedd eclectig o jazz a chaneuon pop a gwerin. Roedd hi'n gymysgedd o fyfyrio tawel a dawnsio gwyllt yng nghwmni Fflur Dafydd a'r Barf, a phawb yn mwynhau'r amrywiaeth oedd ganddi i'w gynnig. Roedd pawb yn gwybod y geiriau ac yn mwynhau ei set.

Roedd Mattoidz ar lwyfan yn Abertawe unwaith eto, ychydig yn drymach na'r arfer, gyda set o ganeuon roc trwm. Roedd eu cymysgedd o hen ganeuon a chaneuon newydd yn wych. Gorffennwyd eu set gyda 'Tan y Tro Nesa' gan ddychwelyd at y dyddiau cynnar (ac yn ffefryn gen i).

Uchafbwynt y noson oedd Frizbee yn dychwelyd i'w 'hail gartref'. Roedd eu set yn gyfuniad o glasuron a chaneuon newydd, ac roedd hi'n gwbl amlwg pa mor bell maen nhw wedi dod ers Tyrfe Tawe 2004. Mae hi bob amser yn bleser eu croesawu i Abertawe, a siomwyd neb ganddynt unwaith eto.

Prynhawn Sul
Wedi penwythnos o barti, roedd hi'n amser ymlacio yn yr Adelphi erbyn prynhawn Sul, gyda setiau acwstig gan Gareth Phillips a Lisa Pedrick. Mae Gareth Phillips wedi dangos addewid ers ymddangos am y tro cyntaf yn y flwyddyn diwethaf. Mae ei set yn llawn cyfansoddiadau ffres a'i lais yn addas ar gyfer prynhawn o eistedd nôl a rhoi eich traed lan.

Roedd hi'n braf gweld Lisa Pedrick yn Tyrfe Tawe am yr ail flwyddyn. Roedd caneuon y gantores o Gwm Tawe yn gweddu'n berffaith i'r achlysur ac yn ffordd hollol wych o gloi'r ŵyl am flwyddyn arall.

Trac y penwythnos
'Da Ni Nôl' gan Frizbee. Roedd y band nôl yn Abertawe, roedd y Tyrfe nôl yn y ddinas ac fe fydd y Tyrfe nôl yn y ddinas unwaith eto yn 2006!!!

Uchafbwynt y penwythnos
Gweld yr holl waith paratoi yn dwyn ffrwyth a gweld wynebau'n llawn cyffro a mwynhad. O safbwynt y gerddoriaeth, clywed datganiad Ywain Gwynedd o Frizbee mai Abertawe yw eu hail gartref erbyn hyn - ro'n i'n llawn balchder!!!

Y peth gwaethaf am y penwythnos
Byddwn i wedi hoffi gweld mwy o rai o'r bandiau gan fod eu setiau braidd yn fyr - Tangwystl oedd un ohonyn nhw. Neu ai fi oedd yn gweld yr amser yn hedfan gan 'mod i'n mwynhau cymaint?!

Achlysur Roc a Rôl
Frizbee yn cerdded oddi ar y llwyfan wedi ychydig o drafferthion sain, ond Ywain Gwynedd yn dychwelyd i'r llwyfan a chanu 'Mi Welais Jac y Do' i ddiddanu'r dorf wrth aros. Dyma hwyl yr ŵyl yn hollol amlwg!!!

Beth sy'n aros yn y cof?
Yr holl sylwadau cadarnhaol a gafwyd drwy'r penwythnos, sydd yn dyst i waith caled y pwyllgor drwy'r flwyddyn. A'r anfarwol Chris Reynolds wrth gwrs!!! (Mari Lwyd a seren maes-e.com)

Talent gorau'r penwythnos
Na, sori Chris Reynolds, nid ti y tro hwn :-(

Yn hytrach, y ffidlwyr a chwaraeodd gyda Mari Lwyd ar nos Iau sydd ar y brig - Dan Morris a Marc Weinzweig. Hollol wefreiddiol a'r dechrau gorau posib i Tyrfe Tawe 2005.

Marciau allan o ddeg
10 (ddywedais i llynedd y byddai hi'n 10/10 eleni - dwi ddim yn oedi wrth ddweud hyn o gwbl)

Un gair am y gig
Tyrfe-tastig (sori am or-ddefnyddio'r gair a fathwyd gan y gadeiryddes Catrin Rowlands llynedd). Alla i ddim meddwl am air arall sydd yn dod yn agos at ddisgrifio'r penwythnos!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Roedd gŵyl orau Cymru'n rhad ac am ddim!

Edrychwch am wybodaeth am Tyrfe Tawe 2006 - mae'r dyddiad yn y dyddiadur eisoes! Hydref 12-15.

Cysylltiadau'r we
www.tyrfe-tawe.com
Frizbee
Mattoidz
Sesiwn Fflur Dafydd a'r Barf
Gwefan Fflur Dafydd a'r Barf
Sesiwn Gilespi

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy