 | Llwybr Llaethog, Sleifar Caerdydd, Mehefin 2005 Gan Rhys Teifi
Lle a phryd Y Toucan, Caerdydd. 02/06/05
Y bandiau Llwybr Llaethog, Sleifar a'r teulu, Fflur Dafydd a'r barf a Gwyneth Glyn.
Awyrgylch Gweddol llawn, ond llawn o gyfryngis a myfyrwyr. Mae'r Toucan mewn siâp od, nid oes bosib gweld y llwyfan o'r bar ac felly roedd nifer o'r gynulleidfa wedi'u cuddied.
Disgrifiwch y perfformiadau
Gwyneth Glyn: Llais swynol iawn a chaneuon prydferth, ond teimlaf efallai nad oedd digon o bwer yn y caneuon ar gyfer perfformiad byw.Fflur Dafydd: Unwaith eto, llais da, a gyda'r band roedd yn cynnal y gynulleidfa yn haws mewn awyrgylch weddol swnllyd. Sleifar a'r teulu: Sleifar, Chef, Cynan Llwyd, Aneirin Karadog a Llwybr Llaethog. Roedd y rapio o safon dda, ac mae gan Sleifar ddawn ar y llwyfan i gadw sylw y gynulleidfa. Llwybr Llaethog: Yn union beth y fuasech yn ei ddisgwyl gan Llwybr Llaethog. Yn anffodus, nid oedd y gynulleidfa yn cymryd rhyw lawer o sylw, efallai bod pawb wedi cael ychydig yn ormod i yfed erbyn diwedd y noson!
Uchafbwynt y noson Aneirin Karadog yn ymuno â Sleifar a rapio yn gyntaf yn Ffrangeg, ac yna yn Sbaeneg. Roedd Aneirin wedi ei gadeirio yn Brifardd yr Urdd 2005 yn gynharach yn y diwrnod.
Y peth gwaethaf am y noson Bod pobl ddim yn cymeryd rhyw lawer o sylw o'r perfformiadau.
Talent gorau'r noson Gwyneth Glyn. Buasai yn neis ei gweld yn gwneud ychydig o draciau mwy bywiog. Teimlaf bod beth y gwnaeth hi chwarae heno yn dangos pwy oedd wedi ei ysbrydoli, sef yn fy marn i Cassidy a Dylan.
Marciau allan o ddeg 8
Un gair am y gig Amrywiol
|  |