BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageGilespi, Fflur Dafydd
Abertawe, Mai 2005
Alun Rhys Chivers


Lle a phryd
Gig Tyrfe Tawe a Dockrad, Ty Tawe, Abertawe, Mai 6ed 2005

Y bandiau
Gilespi, Fflur Dafydd a'r Barf, Gareth Phillips, DJ Dai Bry

Awyrgylch
Roedd y lle'n ddigon tawel ar ddechrau'r noson ond yn llenwi'n raddol (sy'n nodweddiadol o gigs Cymraeg!). Trefnwyd y noson gan Dockrad a Tyrfe Tawe ar y cyd. Roedd hi'n un o nosweithiau taith Gilespi i lansio'u halbwm 'Methu Chwarae Gitâr' (ar label 'Dockrad', wrth gwrs!). Roedd cymysgedd da o oedrannau yno i fwynhau'r amrywiaeth a gynigiwyd. Naws eitha' ymlaciedig oedd i'r noson cyn i'r criw arferol anelu am y llawr dawnsio! Ychwanegodd y goleuadau isel at yr awyrgylch, gan greu naws agosatoch.

Trac y noson
Heb os, 'Viva' oedd trac y noson, oedd yn swnio hyd yn oed yn well yn fyw nag ar yr albwm! Mae'r cytgan yn sicr yn aros yn y cof (dwi'n methu stopio'i ganu fe - sori i bawb sy' 'di gorfod gwrando!).

Disgrifiwch y perfformiadau
Dechreuodd y noson gyda set DJ unigryw (Caryl Parry Jones yn ychwanegu moment 'hiraethus' i'r noson!). Roedd y cymysgedd o draciau yn ddechrau gwych i'r gig (Ma' Huw Stephens ac Ian Cottrell yn dechrau becso!).

Nesa' i'n diddanu ni oedd y talent newydd, Gareth Phillips o Gaerfyrddin, gyda set o ganeuon gwreiddiol a gyfansoddwyd ganddo fe ei hun. Ma' llwyth o ddeunydd ganddo fe'n barod - chwaraeodd e set o ddeg cân. Ro'n i'n hoffi 'Rhuban Coch, Rhuban Gwyn' ac 'Allwedd yn y Drws' yn arbennig. Os cewch chi gyfle, dylech chi fynd i glywed ei set acwstig e. Gobeithio y gwnawn ni ei weld e yn Abertawe eto'n fuan.

Dychwelodd Fflur Dafydd i Abertawe am y tro cynta' ers Tyrfe Tawe llynedd. Roedd hi'n wych bryd hynny ar nos Wener yr wyl, ac unwaith eto, wnaeth hi ddim ein siomi ni yn y gig 'Tyrfe' hwn. Rhoddodd Fflur Dafydd a'r Barf (Rhys James o 'Mattoidz') berfformiad hyderus gyda llais swynol Fflur a seiniau 'Mattoidz' yn rhai o'r caneuon. O'r set i gyd, mae 'Sgidie Rhad' a 'Mr Freestyle' yn arbennig o gofiadwy. Dwi'n edrych 'mlaen at glywed yr albwm newydd - ma' deunydd ffantastig 'da nhw a dwi'n siwr bod mwy fyth i ddod.

Clywson ni albwm cyfan 'Gilespi' yn ystod eu set lawn jazz, gwerin a phop. Ma' 'na deimlad Celtaidd i un o'm hoff ganeuon ar yr albwm, 'Grwndi', a dwi'n hoff iawn o'r jazz a geir yn 'Viva'. Ma' 'na dalent enfawr yn y band, sydd yn amlwg o'r lleisiau a'r offerynnau (sy', gyda llaw, ddim yn cynnwys gitâr - i'r rheini ohonoch chi sy' heb sylweddoli arwyddocâd enw'r albwm!). Dwi'n siwr bod pawb wrth eu boddau'n dawnsio i'w set nhw! Os wnaethoch chi eu colli nhw yn Abertawe, cewch chi gyfle arall i'w gweld nhw yng Nghlwb y Quins, Caerfyrddin nos Wener, Mai 13eg yn cefnogi Mattoidz sy'n lansio eu halbwm newydd nhw! Fe fydd 'Skep' hefyd yn ymddangos.



Uchafbwynt y noson
1. Fflur Dafydd a'r Barf - perfformiad gwych.

2. Un o 'decks' DJ Dai Bry yn torri!!! (ym marn un o'r gynulleidfa na chaiff ei enwi yma!)

Y peth gwaethaf am y noson
DJ Dai Bry yn llwyddo i drwsio'r 'deck'!!! - ym marn yr un aelod o'r gynulleidfa! (chwarae teg i Dai - fe gymerodd e dipyn o 'stick' gan 'ffrindiau' ond fe wnaeth e'n wych ar ei ymddangosiad cynta' fel DJ - cofiwch yr enw - DJ Dai Bry!).

Achlysur Roc a Rôl
Y 'DJ Dai Bry Experience' - fydd Menter Iaith Abertawe fyth yr un fath eto - sdim ffordd o'i stopio fe nawr!

Beth sy'n aros yn y cof?
Y ffaith nad enillais i'r raffl wedi i fi brynu lot o docynnau i gael llwyth o CDs gwych 'Dockrad'.

Talent gorau'r noson
Gareth Phillips - dyma'r tro cynta' i fi i'w glywed e. Roedd e'n boblogaidd iawn gyda phawb. Dwi'n edrych 'mlaen at glywed mwy ganddo fe.

Marciau allan o ddeg
9

Un gair am y gig
Eclectig

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Cadwch lygad ar ddigwyddiadau yn ystod y misoedd nesaf yn arwain at 'Tyrfe Tawe' ym mis Hydref. Mae'n gyfle rhy dda i'w golli! A pheidiwch anghofio prynu albwm newydd 'Gilespi' (Methu Chwarae Gitâr) - mae'n werth ei chlywed - gwych! Mae'r albwm wedi cyrraedd siartiau C2 yr wythnos hon.

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!

Cysylltiadau Perthnasol
http://www.tyrfe-tawe.com/
http://www.gilespi.co.uk/
http://www.dockrad.com/index.php

Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy