BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageSibrydion, Briwsion...
Caerdydd, Hydref 2005
Non Jones


Lle a phryd
Clwb Ifor Bach, nos Iau 13eg Hydref - noson Stonc, diwrnod John Peel a Taith C2 Bandit!

Y bandiau
Sibrydion, Y Briwsion, Pwsi Meri Mew Movement a DJ Ian Cottrell

Awyrgylch
Roedd yr awyrgylch yn arbennig. Digon o fyfyrwyr o bob cornel o Gymru yno chwarae teg. Digon o gefnogaeth o'r gogledd i Pwsi Meri Mew yn enwedig.

Trac y noson
Arallfyd - Pwsi Meri Mew

Disgrifiwch y perfformiadau
Cychwyn gyda Pwsi Meri Mew Movement. Mae'r band yma â swn unigryw, proffesiynol a phrofiadol. Mae'r band yn chwarae cerddoriaeth ffync/indie/reggae, sy'n braf iawn i'w chlywed. Roedd hi'n chwa o awyr iach clywed band newydd gyda swn hollol wahanol i'r bandiau eraill sydd o gwmpas ar y funud.

Roedd Alun Gaffey ar y gitar a'r prifleisydd i weld yn mwynhau ei hun ac yn nabod dipyn oedd yna yn gwrando ar y band. Mi wnaeth Sion Ifan, ar y dryms, rhoi perfformiad egniol iawn. Heb anghofio Matt ar y gitâr blaen oedd wedi ymgolli'n llwyr yn y profiad. Roedd y band i weld yn mwynhau eu hunain ac roedd yna griw go lew yno yn gwrando arnyn nhw yn gynnar yn y noson.

Dyma oedd y tro cyntaf i mi glywed Y Briwsion. Ma nhw yn fand addawol iawn. Cerddoriaeth roc eithaf meddal ganddyn nhw. Cân 'Dwr a Pridd' nes i fwynhau orau dwi'n meddwl. Dwi'n gobeithio gweld mwy o'r band yma yn y dyfodol. Gobeithio fod yna fwy o gigs ar y gweill ganddyn nhw.

Sibrydion i orffan, sydd, ers rhyddhau eu halbym JigCal yn yr haf wedi sefydlu eu hunain fel grŵp o safon. Mae'r grŵp gyda ffordd broffesiynol iawn o chwarae yn fyw wedi'r holl brofiad gyda Big Leaves. Dwi'n hoffi swn Sibrydion, rhyw pop/roc gyda pawb i weld yna yn mwynhau bob cân. Dim un gân wan i'w chlywed yn eu set - o un clasur cyfoes i'r llall. Mi nes i fwynhau set nhw yn fawr iawn, cystal os nad gwell nag erioed dduda i.

Uchafbwynt y noson
Blithdraphlith gan Y Sibrydion oherwydd swwwwn y gân - pawb yn gwybod yr alaw, ddim mor sicr am y geiriau!!

Y peth gwaethaf am y noson
Gan fod pobl yn sobor rodden nhw i weld yn cuddio yn ymylon Clwb Ifor yn lle gadael eu hunain fynd ychydig bach mwy i'r gerddoriaeth. Dim digon o hed-bangio ac ati, sydd o hyd yn arwydd da o gig gret.

Achlysur Roc a Rôl
Siarad gyda aelodau o'r bandiau, teimlo rêl grwpi!

Beth sy'n aros yn y cof?
Cofia atgoffa fi'n hun i wylio allan am Y Briwsion yn y dyfodol gan mod i wedi gael fy mhlesio gyda eu set byw nhw. Enw i'w gadw yn y cof i'r dyfodol agos.

Talent gorau'r noson
Pwsi Meri Mew

Marciau allan o ddeg
10

Un gair am y gig
Clasur

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Mae Stonc yn mynd o nerth i nerth, dewch yn llu!

Cysylltiadau'r we
Taith C2 Bandit
Teyrngedau John Peel
Lluniau o'r gig yn Galeri C2
Sesiwn Briwsion i C2
Sesiwn Sibrydion i C2
Clwb Ifor Bach

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy