 | Dyfrig Evans, KAFC Caerdydd, Medi 2005 Non Jones
Lle a phryd Gig STONC! Clwb Ifor Bach, Caerdydd, Medi 15fed
Y bandiau Plant Duw, Dyfrig Evans, Kentuky AFC
Awyrgylch Gan mai dyma'r noson STONC gyntaf, doedd y gynulleidfa ddim mor fawr a roeddwn ni'n gobeithio. Ond gyda thymor y colegau ar fin cychwyn a'r gair yn gwasgaru, gobeithio mi gaiff STONC gynulleidfa haeddiannol. Er hyn roedd y gynulleidfa oedd yno wedi mwynhau eu hunain yn fawr gyda dipyn o rocio yn mynd ymlaen.
Trac y noson 'Iasobe?' gan Kentuky AFC. Dyma Kentuky ar eu gorau, maen nhw'n gwybod yn iawn sut i gael pobl are eu traed. Trydanol iawn
Disgrifiwch y perfformiadau Yn dechrau'r noson oedd Plant Duw. Un gair sydd i ddisgrifio'r hogia o Fangor - gwallgo! Ers eu gig yn y Steddfod maent wedi dod i amlygrwydd yn bennaf. Roedd y band wedi aeddfedu a'u nerfau wedi pylu ychydig ers Maes B a safon eu cerddoriaeth roc caled cystal os nad gwell o'r herwydd. Dyma ddeffro'r gynulleidfa gyda safon yn eu gwallgofrwydd. Roeddwn ni'n edrych ymlaen i weld beth oedd gan Dyfrig Evans i'w gynnig. Dyma'r tro cynta i mi ei weld yn unigol heb ei frawd a gweddill 'Topper'. Ers aduniad Topper yn Miri Madog roeddwn ni'n disgwl yr un clasuron yn cael eu chwarae eto ond mi ges i'n siomi ar yr ochr orau. Roedd clywed Dyfrig yn canu caneuon mwy acwstig yn gweddu ei lais ac yn gyferbyniad braf wedi 'hedbangio' gwallgo Plant Duw. Ond mwy o 'hedbangio' oedd i ddod gan Kentuky AFC. Dyma fand sy'n gwybod sut i gael amser da. Mae Kentucky wedi datblygu i fod mor broffesiynol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Maen nhw wedi sefydlu eu hunain fel band egniol gyda chaneuon cyfarwydd fel 'Bodlon' ac 'Unarddeg'. Chwarae teg, roedd yr hogia o Port ar 'top fform'.
Uchafbwynt y noson Yr holl naws o egni a rocio yn y clwb. Pawb yn mwynhau eu hunain ac yn mynd yn wallgo i'r gerddoriaeth
Y peth gwaethaf am y noson Cael fy ngorfodi i adael gan rai o staff (cyfeillgar) Clwb Ifor
Achlysur Roc a Rôl Cân olaf Plant Duw
Beth sy'n aros yn y cof Gwallgofrwydd Plant Duw
Talent gorau'r noson Plant Duw, band roc caled sydd am fynd yn bell gobeithio
Marciau allan o ddeg 9
Un gair am y gig Egniol Unrhyw gyngor pellach? Dewch yn llu i'r STONC nesaf. Chwarae teg, enw da de, STONC. Awe!
|  |