 | BOB, Poppies Porthmadog, Chwef 2005 Leusa Fflur
Lle a phryd Clwb Rygbi Port, 25ain o Chwefror 2005.
Y bandiau : Bob, Bechdan Jam, Poppies a'r Gogz.
Awyrgylch : cynhyrfus - y lle'n llawn, a pawb yn neud ymdrech i ymuno yn y mosho oedd yn digwydd bron o gychwyn y noson !
Trac y noson : Sex Sells gan y Poppies, sef un o'r caneuon sydd wedi dod yn gyfarwydd i bawb ers i'r band gwych yma o Aberystwyth ddod i amlygrwydd. Ma'r rhythms ffync a'r riffs gitars roc yn gwthio'r perfformiad i fod yn uchafbwynt!
Disgrifiwch y perfformiadau : Bob - eto, band sydd wedi llwyddo i ddod i amlygrwydd dros y flwyddyn ddwethaf gyda gigio cyson a'r cysylltiadau ar maes-e.com ;-). Roc trwm, hefo'r tiwns yn dod i'r amlwg yn gliriach gyda pob perfformiad. Cerddorwyr talentog a set dyn iawn.Bechdan Jam - Dim byd sbeshal. Y gynulleidfa'n ymateb yn dda i'r hogia lleol, ond er gwaetha'r melodis gafaelgar sy'n trio gwthio drwodd, a'r talent eithaf amlwg eto yn y defnydd o offerynau- mae'r diffyg gigio yn gadael ei ôl ar y band. Mae'n amser i'r band ryddhau rhywbeth neu rhoi eu gitars yn y to. Poppies - Mae hi'n noson llawn cerddorwyr talentog, a mae Poppies eto'n cadw'r safon gyda Sam y frontman yn llwyddo i hoelio sylw'r dorf. Caneuon pynci ffynci roc, sydd mor dyn a twll tin cwningen. [dim sensoriaeth os gwelwch yn dda BBC, rydw i wedi bod yn meddwl am y gymhariaeth hon ers tro]. Ambell gân gyfarwydd yn achosi i'r dorf gynhyrfu'n walltgo, a dawnsio fel na welwyd dawnsio erioed o'r blaen. Gyda mwy a mwy o ganeuon gwych y band ifanc hwn yn cael eu clywed ar y radio, tebyg yw y bydd eu gigs yn y dyfodol yn beryg o fywiog! Gogz - A'r sôn mawr bod y Gogz wedi cael cytundeb recordio mawr yn Lloegr, mae'n neis gweld yr hogia'n ôl adref. Mae sawl cân anghyfarwydd newydd i'w clywed, ynghyd a'r perlau oddi-ar yr EP ddiweddar Arferiad Drwg [crai], sy'n cael ymateb croesawgar iawn gan bawb. Ar ôl i'r Gogz orffen eu set, maent yn dod yn ôl i'r llwyfan ac yn jamio am dros chwarter awr. Mae nhw'n chwarae'r hen glasuron roc Saesneg sy'n gyfarwydd i bawb, a mae'r Clwb Rygbi'n mynd yn wyllt! Mae'r ddau ffryntman yn cymeryd lle'r drymar, tra bod y lead-guitarist yn arwain y jamio, a mae'r drymar yn cuddio'n rhywle'n cefn yr adeilad! Diwedd gwyllt i gig wyllt ac egniol!
Uchafbwynt y noson : Pawb yn mosho'n wirion bost i'r Gogz yn jamio fel nytars!
Y peth gwaethaf am y noson : Ei bod hi'n gorffen mor gyflym. Mae pawb allan o'r Clwb erbyn 12, a mae'r amser wedi hedfan.
Achlysur Roc a Rôl : Rhys Mwyn yn eistedd yn ei gadair yn y gornel yn bwyta Crunchie tra'n glafoerio dros seshwn jamio'r Gogz !
Beth sy'n aros yn y cof: Gwalltiau enfawr mae pob aelod o'r Gogz wedi ei tyfu ers symud i fyw dros y ffin, digon i ennill chant o 'gwallt! gwallt! gwallt!' gan y gynulleidfa tra'n chwarae! Ydio'n wir bod barbwrs Lloegr yn codi cymaint felly tybed...?
Talent gorau'r noson : Sam, y Poppies am ei allu anhygoel i gyfansoddi caneuon mor wych o afaelgar ac yntau dal mor ifanc. Hefyd am ei lwyddiant ysgubol gyda'i ail fand, a hynny mor gyflym wedi i Mozz ddod i ben. Ac wrth gwrs am ei allu i berfformio'r set gyda arddeliad!
Marciau allan o ddeg: 8
Un gair am y gig : Gwaaaaallt!
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? : Cyngor rhif 1 :Gwyliwch allan am y Poppies, mae nhw am fod yn enfawr flwyddyn nesa. Mae potensial enfawr gan Bob hefyd . Rhybudd rhif 2 : Peidiwch a torri eich gwallt byth eto os am fod yn cwl. Rhybudd rhif 3 : Peidiwch derbyn crunchies gan ddynion diarth.
|  |