 | Radio Lux, Sibrydion Pontrhyd., Tach 2005
Gwenno Dafydd
Lle a phryd Neuadd Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid, nos Sadwrn, 12 Tachwedd 2005. Noson Cered.
Y bandiau a'r adolygwr Mattoidz, Sibrydion, Radio Luxembourg. Adolygiad gan Gwenno Dafydd.
Awyrgylch Roedd eithaf lot o bobl yn y neuadd erbyn diwedd y noson, a chwarae teg i UMCA am drefnu bws o Aberystwyth. Roedd y gynulleidfa'n gymysgedd o 'selogion' a phobl leol. Efallai nad yw Pontrhydfendigaid yn ddewis amlwg ar gyfer cynnal gig, ond roedd neuadd Pantyfedwen yn lleoliad grêt, ac roedd hi'n edrych fel fod pawb wedi mwynhau mas draw!
Disgrifiwch y perfformiadau
Radio Luxembourg
Dyma'r perfformiad gorau dwi wedi gweld gan y band lleol yma. Cafwyd set llawn egni a phroffesiynol iawn. Llwyddodd y band i ddenu pobl i ddawnsio yn gynnar yn y noson, a phawb yn mwynhau'r perfformaid o sengl newydd y band 'Lisa, Magic a Porfa'. Sibrydion
Perfformiad hwyliog a chyson gan fand gogleddol y noson. Roedd hi'n amlwg fod gan y band nifer o ffans yn y gig, ac fe enillon nhw fwy o gefnogaeth wrth roi crysau-t allan am ddim! Lot o bobl ar eu traed yn dawnsio, ac uchafbwynt y set oedd 'Dafad Ddu', sef y gân sy'n cael ei defnyddio fel cerddoriaeth agoriadol y rhaglen Bandit. Mattoidz
Wel, beth sydd yna i'w ddweud?! Set arbennig arall gan, o bosib, fand byw gorau Cymru. Digon o egni ar y llwyfan, gyda'r band yn rhoi 100% (neu efallai ychydig bach gormod o egni gan i Hefin, y prif leisydd, orfod gorwedd lawr am rai eiliadau yng nghanol y set!). Roedd hi'n amlwg fod gan y band nifer o ddilynwyr yn y gig, ac ambell un yn canu bron pob gair i bron pob cân!
Trac y noson 'Tan y Tro Nesa' gan Mattoidz, heb os nac oni bai! Mae'r gân hon yn glasur yn eu cyngherddau a wastad yn plesio'r ffans.
Uchafbwynt y noson Perfformaid Mattoidz o 'Tan y Tro Nesa', gyda phawb yn neidio a gweiddi canu.
Y peth gwaethaf am y noson Dau beth: 1. 'Neidiwr' anhysbys yn torri ar draws cân olaf Mattoidz 'Sos Coch', gan sefyll ar ymyl y llwyfan am oesoedd yn mynnu fod pobl yn ymgynnull i'w ddal! 2. Y stoc o grysau-t Sibrydion yn rhedeg allan!
Achlysur roc a rôl Sawl peth: 1. Rhys Spikes o Radio Luxembourg yn taflu stôl o'r llwyfan (gath neb eu hanafu!). 2. Ben, drymiwr Radio Lux, yn tynnu ei grys. 3. Hefin Mattoidz yn canu "Paid jwmpo!" yn lle "tomato" yn 'Sos Coch' wrth geisio darbwyllo'r 'neidiwr' i beidio neidio! 4. Cynan Llwyd (Java a Kenavo) yn ymuno â'r 'Toidz yn y gân 'Trani Drws Nesa'.
Beth sy'n aros yn y cof? Y 'neidiwr'... nath e striwo 'Sos Coch' i fi! Bwwww!!
Talent gorau'r noson Mattoidz, ond cafwyd perfformaidau arbennig o dda gan Sibrydion a Radio Lux hefyd.
Marciau allan o ddeg 9/10 - noson wych!
Un gair am y gig Campus! Unrhyw gyngor neu sylwadau eraill?
Os y'ch chi'n gyrru i Bontrhydfendigaid o Aberystwyth, byddwch yn ofalus achos ma'r ffordd yn erchyll! Ac os nad ydych chi wedi gweld Mattoidz yn fyw o'r blaen, chi'n colli mas!!! Cysylltiadau'r we Mattoidz Sibrydion Sesiwn C2 - Radio Luxembourg
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |