BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageAshokan, Poppies...
Caerdydd, Meh 2005
Rhys Teifi


Lle a phryd, ac enw'r adolygwr
Y Point, Bae Caerdydd. 03/06/05. Adolygiad gan Rhys Teifi

Y bandiau
Ashokan, Poppies a Radio Luxembourg.

Awyrgylch
Hen eglwys ydy'r Point wedi ei adnewyddu yn leoliad gigiau unigryw. Yn anffodus roedd y gig yn weddol dawel, ond roedd y gynulleidfa a oedd yna oll yn gwerthfawrogi y perfformiadau.

Trac y noson
I mi, cân orau y noson oedd Jac y Diawl gan Ashokan. Roedd Rhys (y prif leisydd newydd ers i Alun adael) yn amlwg wrth ei fodd yn canu hon, ac roedd y perfformiad yn llawn egni.

Disgrifiwch y perfformiadau...

Radio Luxembourg: Cerddoriaeth trwm ac uchel gyda melodiau hyfryd. Perfformiad gwych gan y band ifanc yma. Y prif leisydd yn llawn egni ac efo'r gallu i ddiddanu y gynulleidfa.

Poppies: Rwyf wedi gweld Sam (y prif leisydd) yn gwneud nifer o gigiau ar ben ei hun ac roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr i'w weld â band llawn, ond cefais fy siomi. Er bod y caneuon yn dda, doedd dim digon yn y perfformiad i mi.

Ashokan: Heb os, band byw gorau Cymru ar hyn o bryd. Ma'r bois yma yn gwybod yn iawn sut i'w gwneud hi. Caneuon gwych rhywsut yn well wrth i'r basydd wneud ei orau i ddringo mor uchel ag y medrith tra'n chwarae, a'r band cyfa yn cael hwyl gyda'i gilydd wrth chwarae. Gwych.

Y peth gwaethaf am y noson
Bod dim digon yn y gynulleidfa.

Achlysur Roc a Rol
Basydd Ashokan yn chwarae heb grys ac yn neidio oddi ar wahanol bethau. (Dim bod hyn yn unigryw am y gig hwn!)

Beth sy'n aros yn y cof?
Perfformiad Radio Luxembourg. Band am y dyfodol yn sicr.

Talent gorau'r noson
Radio Luxembourg

Marciau allan o ddeg
9

Un gair am y gig
Tew!

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy