BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageOasis, Foo Fighters...
Noise & Confusion 2005
Gethin Wyn Jones


Lle a phryd
Noise and Confusion 2005, Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Sadwrn 10fed o Ragfyr, 2005.

Y bandiau
Oasis, The Foo Fighters, Razorlight, The Coral, The Subways, Nick Armstrong & The Thieves, Yeti.

Enw'r adolygydd
Gethin Wyn Jones

Awyrgylch
Awyrgylch gwych i'r gig gyda 65,000 o bobl o dan do y stadiwm erbyn diwedd y noson. Pobl o bob oedran yno i fwynhau y wledd o gerddoriaeth gan gynnwys fi a fy ffrindiau Sara, Daf a Iwan.

Disgrifiwch y perfformiadau

Yeti: Band ifanc newydd oedd â chaneuon gwledig, swynol, gyda rythm cyflym a chyson ymhob cân. Band agoriadol da.

Nick Armstrong & The Thieves: Eithaf tebyg oedd y band yma i Yeti, gyda chaneuon acwstig a symudiad sydyn iddynt. Prif leisydd egniol iawn a'r band yn llawn hyder gyda chaneuon reit 'catchy' yn aros yn y cof.

The Subways: Gwych! Roedd y band yma yn llawn egni gyda bas-wraig hollol nyts! Dyma oedd eu gig gyntaf mewn stadiwm a hefyd o flaen cynulleidfa fawr. Yn amlwg ddaru nhw fwynhau y cyfle ac roedd ymateb y gynulleidfa iddynt yn un da. Caneuon reit trwm oedd gan y band, ond roedd eraill yn rhai swynol fel eu sengl newydd 'No Goodbyes'.

The Coral: Perfformiad reit dda gan The Coral gyda eu prif caneuon 'Dreaming Of You' a 'In The Morning' yn sefyll allan. Ond roedd llawer o'u traciau yn rhai oddi ar ei albyms a teimlais nad oedd digon o bobl yn adnabod y traciau. Ar y cyfan roedd eu perfformiad yn un da iawn gyda phawb wedi mwynahu eu clywed.

Razorlight: Dyma ble ddaru y noson cicio off yn iawn! Roedd Johnny Borrell yn wych wrth gael y gynulleidfa i gyd-ganu. Roedd 'Golden Touch' a 'Somewhere Else' yn sefyll allan gyda phawb yn canu pob gair ac yn mwynhau eu set. Johnny Borrel amlwg wrth ei fodd wrth neidio dros yr amps ac at y dyrfa yn y tu blaen. Roedd yna uffar o dwrw gan y mwyafrif o enethod yn y stadiwm hefyd pam dynodd ei grys i ffwrdd!!

The Foo Fighters: Dyma ni sŵn! Roedd Dave Grohl yn wych yn gael pawb yn nyts ac yn sgrechian eu penau i ffwrdd! Roedd 'All My Life', 'Best Of You' a 'DOA' i gyd yn cael eu perfformio i safon wych ac roedd Dave Grohl gyda chysylltiad da â thorf mor fawr. Roedd y goleuo yn y set yma yn reit wych a sain ofnadwy o dda am gymaint o dwrw! Hwn oedd y set mwya' roc a rôl o'r noson gyda phawb yn amlwg wedi ei fwynhau.

Oasis: Prif band y noson a bron iawn pawb yn y stadiwm yn ysu i'w gweld! Roedd eu set yn wych gyda chymysgedd o'r clasuron a'r rhai newydd. Roedd pawb wrth eu boddau yn gweld y band yn torri fewn i ganeuon fel 'Morning Glory', 'Wonderwall' a 'Champagne Supernova'. Roedd eu llwyfan wedi'w amgylchynu gan oleuadau gwyn ac roedd yna deimlad bod pob person yn y stadiwm yn medru cysylltu â'r band.

Roedd eu diweddglo yn wych gyda phawb yn canu 'Don't look back in anger' gyda'i gilydd, a'r band yn gorffan gyda 'cover' dda o 'My Generation' gan The Who. Perfformiad gwych gan Noel a'r hogia ac yn cloi noson llwyddiannus iawn o gerddoriaeth.

Trac y noson
'Don't look Back In Anger' gan Oasis. Mae clywed pob llais yn y stadiwm yn canu y gytgan i'r gân yma dros Noel Gallagher yn fythgofiadwy, ac roedd Noel ei hun yn falch o'r ymateb gyda gwen enfawr ar draws ei wyneb ar ddiwedd y gân.

Uchafbwynt y noson
Oasis, Oasis, Oasis! Cael eu clywed yn fyw am y tro cyntaf yn wych!

Y peth gwaethaf am y noson
Ceisio gael tacsi allan o Gaerdydd am hannar nos ar ôl i 65,000 o bobl adael y stadiwm!

Achlysur Roc a Rôl
Dave Grohl o'r Foo Fighters a'i ail gitarydd yn cael math o 'battle' gitars. Un yn ceisio fod yn well na'r llall a'r drymar yn ceisio fod yn well na'r ddau ohona nhw. Uffar o solos a riffs nyts gan y ddau am tua deg munud go dda.

Beth sy'n aros yn y cof?
Y gig i gyd, gymaint o fandiau anhygoel mewn un noson, mewn un lle, a phawb yn canu y geiriau i bob cân oedd yn cael ei chwarae.

Talent gorau'r noson
The Subways rhaid dweud. Potensial mawr iawn gan y band a set o ganeuon gwych.

Marciau allan o ddeg
9/10

Un gair am y gig
Anhygoel!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Mae hi medru mynd yn oer mewn gigs yn y stadiwm, cofiwch lapio i fyny! A cyngor i chi, ewch i weld The Subways, ma nhw'n wych.

Lincs gwefan
www.oasisinet.com
www.foofighters.com
www.razorlight.co.uk
www.thecoral.co.uk
www.thesubways.net
www.noiseandconfusion.co.uk

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy