BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageGwilym Morus, Winabego
Aberystwyth, Mawrth 2005
Leusa Fflur


Lle a phryd :
Cwps Aberystwyth, 4ydd o Fawrth, 2005. Gig Naws.

Y bandiau :
Gwilym Morus, Winabego, Mattoidz

Awyrgylch :
Eitha hamddenol a distaw i ddechra - dim smic i'w glywed yn ystod set Gwilym Morus, pawb yn rhoi sylw teg ac yn gwrando ar y gerddoriaeth. Wedyn wrth i'r bands mwy swnllyd chwarae, mae'r hwyliau'n gwalltgofi - ac yn ôl traddodiad nosweithiau Naws, erbyn y diwedd mae pawb ar eu traed yn mlaen yr ystafell.

Trac y noson :
'Dw i ddim yn siwr o enw'r gân, Sos Coch efallai!? Mattoidz sy'n canu, a mae'r geiriau yn mynd rhywbeth fel hyn..."Ti'n dweud...Tomato. 'Dw i'n dweud...SOS COCH!". A wedyn mae 'na strymio ffwl sbid ar y gitars a mae pawb yn canu "BA BA BA BA BA BAAAAAA". Can wych a pawb yn mynd yn wyllt yn neidio fyny a lawr a gweiddi canu!

Disgrifiwch y perfformiadau :
Gwilym Morus - Dyn sydd wedi dod i'r amlwg dros y flwyddyn nesa am ei rol amlwg fel prif ganwr a cyfansoddwr y band affro bits, Drymbago. Mae hefyd wedi dod i sylw pawb fel canwr unigol, hefo'i felodiau hyfryd a'i lais dwfn slyriol-broffeshynol.

Mae hon yn set fyr iawn, tua 5 can, sy'n siomedig braidd. Mae llawer o'r geiriau yn gyfarwydd iawn, ond mae Gwilym yn penderfynu newid y gerddoriaeth achos "ei fod wedi cael digon ar yr un hen ganeuon" ! Ond mae'r ail-gylchu geiriau dal yn effeithiol, a talent gitar a'r llais anhygoel o unigryw yn llwyddo i gario'r set yn esmwyth. Cerddoriaeth mellow iawn, ond mae rhyfeddod y llais yn rhoi'r gerddoriaeth mewn genre ei hun. Cofiwch bod Albym gynta Gwilym, Traffig, allan rwan hyn ar label Rasal.

Winabego - Band arall sydd wedi gweithio'n galed i ddod i amlygrwydd uchel yn y Sin Gerddorol Gymraeg ers blwyddyn. Gwelwyd hynny pan y rhoddwyd eu EP gyntaf, Hyder Bregus [Rasal], ar y rhestr fer ar gyfer gwobr EP/Sengl orau yn Ngwobrau RAP 2004, eleni. Mae'r holl gigio led-led y wlad wedi talu ar ei ganfed, a roedd y set roc/pop trwm yn broffeshynol. Cafodd y band ymateb da i'r caneuon cyfarwydd rheini oddi-ar Hyder Bregus, a hydnoed mwy o ymateb i'r cyfyrs gwych o Pwdin Wy gan Gruff Rhys, a Ffarout gan Ffa Coffi Pawb. Mi gafodd pob un o'r gitarists dro i ganu, a roedd talent y gitarydd blaen yn amlwg drwy'r swn. Un o'r uchafbwyntiau heblaw'r cyfyrs oedd y gan boblogaidd Unarddeg Dyn i Lawr, sy'n un o ganeuon gorau a ysgrifennwyd flwyddyn dwetha yn fy marn i. Lot o'r gynulleidfa yn sylwi bod y swn yn ymylu ar fod yn debyg i gerddoriaeth y Strokes, a bod y band hydnoed yn dechrau edrych fel nhw hefyd, 'dw i'n deud dim!

Mattoidz - I gloi'r noson o berfformwyr a ddaeth i amlygrwydd dros y flwyddyn dwetha y mae Mattoidz. Band o'r De sydd hefo presenoldeb enfawr i sythu'r glorian rhwng y gogs a'r hwntws yn y cwps! Mae sawl cân yn y set yn anghyfarwydd, ond sydd yn ragflas gwych i'r Albym sydd wrthi'n cael ei recordio rwan - bydd hi allan yn mis Mai gobeithio, a rydw i wedi cynhyrfu'n lan yn meddwl am y peth yn barod! Dyma fand sydd hefyd yn dibynu lot ar y gitars i greu miwsig roc/pop. Mae yma eto dalent offerynol amlwg iawn, a mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth. Uchelbwyntiau - y caneuon cyfarwydd, Tan y Tro Nesa, Sos Coch a'r Dyn Telesales; pawb yn canu hefo'r band ac yn dawnsio ffwl sbid. Llwyddiant!

Uchafbwynt y noson :
Union yr un ateb a 'trac y noson' ! Mi oedd y gan Sos Coch yn uchafbwynt i'r noson, a gweld pawb yn mynd yn wyllt efo'r miwsig ac yn neidio fyny a lawr fel gwenoliaid.

Y peth gwaethaf am y noson :
Y sain a'r goleuadau. A bod set Gwilym Morus rhy fyr. Mae y Cwps yn lle da am gig oherwydd ei fod digon bach i bawb fod yn cymryd sylw, a bod o ddigon mawr i hynny sydd isho bod yno fod yno, ac wrth gwrs oherwydd y naws arbennig sydd yno. Ond dydi sain nosweithiau Naws ddim bob amser yn tip top, a mae'n beryg bod lot yn cael ei golli yn y swn mawr sy'n dod allan o'r sbicars. Mae'r diffyg goleuo hefyd yn golygu bod y perfformwyr ar y llwyfan mewn tywyllwch, sy'n anffodus !

Achlysur Roc a Rôl :
Yr hed-bangars oedd yn hed-bangio ar ben eu hunain drwy set Winabego a Mattoids! Gwalltgof!

Beth sy'n aros yn y cof:
Picio lawr staer, a clywed Pwdin Wy gan Gruff Rhys drwy'r to - Winabego'n gwneud cyfyr! Oedd o mor debyg, ac mor wych!

Talent gorau'r noson :
Gwilym Morus ei hun. Llais anhygoel, caneuon gwych, geiriau barddonol, clyfar.

Marciau allan o ddeg:
7

Un gair am y gig :
Tywyll

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? :
Cyrhaeddwch nosweithiau Naws yn gynnar i gael lle - bob nos Prynwch Albym newydd Gwilym Morus, Traffig, sydd ar werth yn eich siopau lleol neu ar Sebon.co.uk!
Prynwch Hyder Bregus gan Winabego, un o'r EP's gorau os nad Yr orau a ryddhawyd flwyddyn dwethaf!

Pediwch a methu gig gan y Mattoidz ar unrhyw gyfri! Mae nhw'n rocio!



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!

Cysylltiadau Perthnasol
http://sebon.co.uk
www.rasal.net

Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy