 | Drymbago, Saizmundo Bangor, Rhagfyr 2005
Dafydd Owen
Lle a phryd Clwb y Rheilffordd, Bangor - 10/12/05
Enw'r Adolygydd Dafydd Owen
Y bandiau Drymbago, Genod Droog, Saizmundo a Derwyddon Dr Gonzo
Awyrgylch Er fod Lynsey Anne ar y drws yn dweud 154 oedd yn cael dod mewn, maen anodd coelio mai dim ond hynnu oedd yno ar ddiwedd y noson. Roedd yn lle yn orlawn, ac o'r cychwyn cynta, roedd dawnsio i'w weld i'r Derwyddon Dr Gonzo. Aeth y naws ychydig fwy difrifol wrth i Saizmundo ddod ymlaen, ond fe ddaeth y parti i rym pan ddoth Genod Droog ymlaen wedyn, ac fe aeth y lle yn un parti mawr. Lleoliad da ar gyfer y gig, heblaw am y bar, oedd yn araf drwy'r nos.
Disgrifiwch y perfformiadau
Derwyddon Dr Gonzo - Band sydd yn hynod synhwyrys yn ei naws ffyncaidd. Maen anghenrheidiol gwrando arnynt yn fyw. Band sydd yn defnyddio ei cerddoriaeth "affro-beat" a ffync i ddenu'r traed, ac yn wir i ddyfynnu teitl albym, "Miwsig i'ch traed a Miwsig i'ch Meddwl". Heno, roeddynt cafwyd set llawn hyder, ac yn wir roedd yr hyder yno yn treuddio trwodd. Saizmundo - Lladdodd y naws, ond nid ei fai o. Mae ei gerddoriaeth yn darlledu negeseuon cryf, ac maent yn trafod pynciau dwys, ond heno dewisodd llawer beidio gwrando ar set oedd yn un reit dda yn canu caneuon oddi ar ei albym diweddara "Malwod a Morgryg" ac oddi ar yr albym cynta "Blaen Troedar". Dyn blin ar y naw, sydd gan rhywbeth i'w ddweud, yn wahanol i rhan fwyaf o gerddorion Cymraeg. Genod Droog - Cychwyn yn offerynnol, ond fe ddaeth y set yn un â wnaeth yrru'r dorf i ddawnsio. Band gorau'r noson i rhan fwyaf o'r dorf, ac er eu bod nhw yn debyg iawn i Pep Le Pew ar adegau ond gyda Dyl Mei (aelod o Pep Le Pew) yn band, tydy hynnu ddim yn syndod. Gyda'i cerddoriaeth hip-hop-aidd, ond gyda ychydig mwy o hapusrywdd iddynt, rwyn siwr fydd y dyfydol yn un da i Dyl Mei o Pep Le Pew a Gethin Ev o'r band Kentucky AFC. Drymbago - Band i bobl feddw cael dawnsio/band i ffans cerddoriaeth o'r fath. Dyna yw'r casgliad rwyf wedi cael ar gyfer Drymbago yn bersonnol, ac teimlaf nad oes trawsdorriad, fel lot o fandiau'r SRG. Ddim fod hyn yn beth drwg o'r heidrwydd, ond i fi doeddynt yn cynnig dim yn y canol. Ond, ar wahan i fy marn personnol i, mae ganddynt llawer o ddilynwyr, ac rwyf wedi gweld pobl yn dawnsio ac yn mwynhau iddynt yn aml, felly ni allaf anghytuno gyda eu barn nhw. Heno, cafwyd set i lawnsio eu albym cyntaf, Dyddiau Da, sydd allan nawr ar gyfer y Nadolig.
Trac y noson Yn bersonnol, y gan oedd yn mynd rhywbeth tebyg i "Pwy sy'n ddrwg? Genod, Genod Droog" oedd y trac arhosodd yn fy mhen y bora wedyn.
Uchafbwynt y noson Siwtiau Genod Droog oedd y prif uchafbwynt. Ac hefyd, maint y dorf i gig Gymraeg.
Y peth gwaethaf am y noson Y chwd yn sinciau toiledau'r dynion.
Achlysur Roc a Rôl Doedd y bandiau yno ddim yn fandiau roc a rôl iawn, felly bach yn sych am straeon o rock stars yn creu hafoc genai ofn. Dwi am fynd am; Aelod o fand y SRG yn trio mynd efo cariad un o'i ffrindiau.
Beth sy'n aros yn y cof? Fod gigs Cymraeg yn gallu cicio tin. Dwi heb fod i gig Cymraeg felma ers oes.
Talent gorau'r noson Genod Droog am greu'r noson yn barti.
Marciau allan o ddeg 9
Un gair am y gig Droog
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Gwyliwch bownsars Bangor. Ma nhw'n flin, ond eto yn wybodus iawn am amseroedd agor "Chinese takeaways". Lincs gwefan
www.derwyddon.piczo.comwww.slacyr.co.ukwww.completecontrolmusic.comNid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |