 | Ian Rowlands, Mattoidz Brynrodyn, Hydref 2005 Einion Dafydd
Lle a phryd Parc Hamdden Brynrodyn, Nos Wener, 14 Hydref 2005
Y bandiau Ian Rowlands a Mattoidz
Awyrgylch Pan rych chi'n dod i ddeall mai i barc carafannau y'ch chi'n mynd i weld gig chi'n dechrau poeni, ond doedd dim angen! Roedd yr awyrgylch yn hyfryd o gartrefol gyda'r ddwy act yn chwarae setiau acwstig mewn tafarn agored, di-fwg. Pawb yn eistedd yn hamddenol-gyfforddus yn mwynhau'r bandiau. Ymateb gwych gan y myfyrwyr ac roedd y rhai oedd yn aros yno ar eu gwyliau yn ymddangos fel eu bod nhw'n mwynhau hefyd. Y gwrthwyneb yn llwyr i'r hyn sy'n dod i'r meddwl pan mae rhywun yn sôn am gig mewn parc carafannau!
Trac y noson 'Tan y Tro Nesa' gan Mattoidz yn bendant yn aros yn y cof - hon yn datblygu i fod yn un o anthemau'r sîn ar gyfer y ffyddloniaid. 'Y Dyn Telesales' yn gofiadwy hefyd - yn fwy na dim oherwydd y cyflwyniad.
Disgrifiwch y perfformiadau Noson acwstig oedd hon wedi cael ei threfnu gan fenter 'Cardicwstig' dan yr enw 'Borthcwstig'. Ian Rowlands: Perfformiad arbennig yn llawn caneuon gwerinol eu naws a chaneuon yn sôn am nosweithiau meddwol. Y math o ganeuon y gallwch chi wrando arnyn nhw drwy'r dydd (a'r nos). Doeddwn i ddim wedi ei glywed yn chwarae'n fyw cyn y gig ond byddai'n werth bod wedi mynd i'r gig i'w weld e'n chwarae ar ei ben ei hun. Mattoidz: Doeddwn i ddim yn siwr iawn beth i ddisgwyl gan Mattoidz am mai band gitars trydan ydyn nhw fel arfer. Doedd addasu i'r noson acwstig ddim wedi amharu ar eu cerddoriaeth o gwbl chwarae teg iddyn nhw - i ddweud y gwir os na fyddech chi wedi eu clywed nhw'n chwarae gyda gitars trydan o'r blaen fyddech chi ddim wedi sylwi bod unrhyw beth 'ar goll'. Roedd yr egni arferol sydd tu ôl i'w perfformiadau i'w weld unwaith yn rhagor a digon o hiwmor rhwng y caneuon i ddiddori'r dorf. Cafon nhw ymateb gwych gan y merched ac roedd y ceisiadau am y caneuon nesa'n llifo i mewn. Roedd y ffordd chwaraeodd Mattoidz yn berffaith ar gyfer y dorf a'r awyrgylch gyda nifer yn dawnsio yn eu seddau erbyn canol eu set.
Uchafbwynt y noson Cyflwyniad Delve i'r gân 'Y Dyn Telesales': ''Nag ydych chi'n casau pobl sy'n ffonio'n syth ar ôl i chi ddod adre o'r gwaith yn trio gwerthu pethe i chi ... llwyddodd rhywun i werthu 'timeshare' yn Rhyl i Rhys unwaith...!''
Y peth gwaethaf am y noson Mynd ar goll ar y ffordd yna (mynd i'r parc carafannau anghywir - mae tua phump ohonyn nhw yn Borth!) a doedd dim gymaint a hynny o bobl yna
Achlysur Roc a Rôl Hon oedd y noson lleiaf roc a rôl yn hanes roc a rôl (yn y ffordd orau posib!) ac mae'n rhaid cyfadde mai un o'r unig achlysuron oedd yn dod yn agos at roc a rôl oedd Hefin Mattoidz yn taro mewn i gytgan 'Sôs Coch' ar ôl noson o gerddoriaeth dawel.
Beth sy'n aros yn y cof? Y ffaith fod noson o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg lwyddiannus wedi cael ei threfnu mewn parc carafannau yn Borth!
Talent gorau'r noson Ian Rowlands a'i ganeuon melodaidd (er y byddai ffans brwd Mattoidz yn siwr o anghytuno).
Marciau allan o ddeg 8 (ond os ydych chi'n ffan anferth o Mattoidz: 10)
Un gair am y gig Neis - be ydych chi'n ddisgwyl gyda noson acwstig a 90% o'r gynulleidfa'n ferched?! Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?: Mae chwarae un o ganeuon y band dros y PA cyn iddyn nhw chwarae yn gallu bod 'chydig yn embarassing. Peidiwch byth undersetimatio Borth! Does dim rhaid i gig fod yn un swnllyd a chwyslyd er mwyn i bawb allu mwynhau. Cysylltiadau'r we Sesiwn Mattoidz i C2 Adolygiad Mattoidz - Edrych yn Well o Bell www.mattoidz.com Mwy am Cardicwstig Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |