 | Live 8 Hyde Park, Gorff 2005 Esyllt Dafydd
Lle a phryd Live8, Hyde Park, Llundain: 2 Gorffennaf 2005
Y bandiau African Children's Choir Annie Lennox Bob Geldof Coldplay Dido Elton John Joss Stone Keane Killers, The Madonna Mariah Carey Ms. Dynamite Paul McCartney Pink Floyd Razorlight REM Robbie Williams Scissor Sisters Snoop Dogg Snow Patrol Stereophonics Sting Travis U2 UB40 Velvet Revolver The Who
Awyrgylch 200,000 o gynulleidfa ac yn teimlo'n hollol orlawn. Y cyffro'n medru cael ei deimlo ymysg y dorf a phawb yn ymateb yn dda i'r perfformwyr. Wedi ein hamgylchynu gan goed, doedd y lleoliad ddim yn teimlo fel canol Llundain.
Trac y diwrnod Richard Ashcroft - Bitter Sweet Symphony
Disgrifiwch y perfformiadau Cymysgedd o artistiaid a chyfryngau felly rhywbeth at ddant pawb. Scissor Sisters, Snoop Dogg a Madonna yn llawn egni, Annie Lennox, REM a Sting yn gosod y diwrnod yn ei gyd-destun.
Uchafbwynt y noson Methu Robbie Williams (ro'n i'n ciwio am fyrgyr ar y pryd)
Y peth gwaethaf am y diwrnod Perfformiad gwan a sigledig Dido...eto
Achlysur Roc a Rôl Ricky Gervais yn dweud: "It's alright, I've just come off a conference call with George Bush and Tony Blair and they've just agreed to quadruple aid so we can all go home!...not really, they haven't agreed to quadruple aid so we can all stay!"...na'th llawer o bobl ddim deall y joc!
Beth sy'n aros yn y cof? Ymddangosiad Kofi Anan a iaith Snoop Dogg
Talent gorau'r noson Killers - dyma'r grwp o'n i ysu am gael gweld, a ches i ddim o'n siomi.
Marciau allan o ddeg Fel gig: 9/10 Fel teclyn gwleidyddol: 2/10. Braidd yn amheus o'r hyn fedrith cyngerdd o'r fath gyflawni ar lefel wleidyddol.
Un gair am y gig Amrywiol Lincs gwefan www.live8live.com www.makepovertyhistory.org Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |