BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageLive 8
Hyde Park, Gorff 2005
Sarah Stubbs


Diwrnod a phrofiad bythgofiadwy yn Live 8
Gan Sarah Stubbs, gohebydd Radio Cymru

Wrth godi fore Sadwrn a pharatoi i fynd i Lundain, doeddwn i dal methu credu fy mod i'n mynd i fod yn rhan o'r dorf enfawr a fuasai'n dyst i gyngerdd mwya'r mileniwm y p'nawn hwnnw.

Siwrne esmwyth a chyflym ges i a fy nghariad i Lundain - diolch byth ei fod o yna gyda fi, neu fuaswn i byth wedi gallu deall y system tanddaearol! Gyda lwc cyrhaeddom Lancaster Gate yn fuan wedyn, ac wrth adael yr orsaf roedd pobol i'w gweld ym mhob man yn gorchuddio'r strydoedd fel blanced liwgar, a'r heddlu yn ceisio cadw trefn.

Rhaid cyfadde ei bod hi wedi cymryd dipyn o amser i ddod o hyd i Alun Thomas a gohebwyr eraill Radio Cymru, ond rwy'n falch o ddweud y daethpwyd o hyd iddynt reit tu allan i brif fynedfa Hyde Park.

Roedd Esyllt Dafydd ac Alun Chivers yno'n barod, wedi gwneud eu rhan nhw o flaen y camera, felly fy nhro i oedd hi i gael fy nghyfweld gan Alun Thomas.Roedd hyn yn brofiad hollol wych, sefyll reit tu allan i Hyde Park, gyda llawer o bobl yn fy mhasio ac yn sbio i weld beth oedd yn mynd ymlaen.

Wedi i ni orffen ffilmio, roedd yn rhaid i ni gymryd rhan yn rhaglen Kevin Davies ar Radio Cymru, gyda'r tri ohonom yn ateb cwestiynau ynglŷn â'r gig fawr! Wrth i ni wneud hyn roedd hofrenyddion o gwmpas Hyde Park ym mhobman - person enwog arall yn glanio, falle David a Victoria Beckam y tro hyn, neu Brad Pitt ac Angelina Jolie. Roedd 'na gymaint o bobl enwog yna'r diwrnod hwnnw, roedd o'n hollol anghredadwy!

Ar ôl gorffen ein stint gydag Alun Thomas, ymaith a ni i ymuno â chefn y ciw er mwyn mynd mewn i Hyde Park. Lwcus oedden ni i gyrraedd yno jyst mewn pryd er mwyn clywed Bono a Paul McCartney'n agor y cyngerdd gyda Sgt Pepper's Lonely Heart Club.

Fe geisiom fynd mor agos at y blaen a phosib, ond roedd hi fel bod mewn cwt ieir, felly dewisom i fynd nôl ychydig er mwyn medru eistedd ar y glaswellt a gwylio'r cyngerdd ar un o'r sgrinau mawr!

Roedd y cyngerdd yma'n amlwg yn golygu llawer i bobl. Siaradais ag un ddynes oedd wedi bod allan yn clybio ar y nos Wener yn Reading, ac yn lle mynd adre wedi dewis dod i Hyde Park yn orie man y bore er mwyn cysgu tu allan i geisio sicrhau safle da yn y bore pan fo'r gatiau'n agor!

Roedd pawb wrth eu bodd yn gwrando ar enwogion mawr y byd cerddoriaeth megis Elton John, Coldplay, U2, Paul McCartney, Keane a The Killers. Roedd y Cymry'n chwifio baneri'r ddraig goch wrth i'r Stereophonics berfformio.

Ond roedd yn rhaid cofio ein bod ni yno er mwyn codi ymwybyddiaeth o newyn. Un o'r munude fydd yn aros yn y cof i mi oedd pan ddaeth Bob Geldof ymlaen i gyflwyno merch a oedd, 20 mlynedd yn ôl, funude o farw ym mreichia'i thad. Ond nawr, heddiw, gyda help y cyhoedd roedd y ferch yma'n iach, ac newydd orffen ei harholiadau, sy'n profi fod cyngherddau fel hyn yn gweithio.

Wrth i Madonna ddod ar y llwyfan i gwrdd â'r ferch, roedd hi'n crio wrth ei gweld, a sawl un arall wrth i luniau o ddioddefwyr gael eu dangos ar y sgriniau enfawr o amgylch y parc.

Ugain mlynedd yn ôl pan gafodd cyngerdd Live Aid ei gynnal, roeddwn i'n fabi 6 mis oed, ond heddiw rwy'n hynod falch i gael dweud fy mod i wedi bod yn rhan o'r cyngerdd mawreddog yn Hyde Park yn 2005. Gobeithio rwan y bydd yr 8 gwleidydd sy'n cwrdd yn Gleneagles yr wythnos hon yn gwneud y penderfyniad iawn ynghylch tlodi a newyn er mwyn achub y rhai sy'n dioddef.

Diolch o galon i BBC Radio Cymru, ac i raglen C2 yn arbennig am fy newis i fel gohebydd arbennig ar gyfer y diwrnod hanesyddol. Yn sicr mi fydd yr atgofion yn aros yn y cof am byth.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy