 | Poppies, Coda Abertawe, Tach 2005 Alun Rhys Chivers
Lle a phryd Gig Gwener y Grolsch a GYTS, Tŷ Tawe, Abertawe ar Dachwedd 25ain, 2005.
Y bandiau Poppies, Coda. Enw'r adolygydd Adolygiad gan Alun Rhys Chivers.
Awyrgylch Roedd y lle'n eithaf llawn o ddechrau'r noson ymlaen, er gwaetha'r tywydd, ac roedd pawb yn edrych ymlaen yn fawr at glywed Coda, ac wrth gwrs, at groesawu Poppies yn ôl i Abertawe unwaith eto. Braf eu gweld nhw yma, yn dilyn eu gig lwyddiannus yn 'Roc Tawe' yn y Brifysgol ddechrau mis Hydref. Noson o roc a rôl oedd hi nos Wener gyda phawb yn mwynhau dawnsio (gan gynnwys aelodau'r band Coda eu hunain). Roedd y goleuadau isel yn adlewyrchu naws y noson, gan greu cyffro ar y llawr dawnsio.
Disgrifiwch y perfformiadau
Coda: Cafwyd roc a rôl pur gan 'Coda', sydd yn fand ifanc â phedwar aelod o Aberteifi. Roedd eu set yn cynnwys caneuon ar y gitâr roc ac allweddellau - rhai ohonynt yn ganeuon ffres a'r gweddill yn gyfuniad o ganeuon roc cynnar - Trwynau Coch, Edward H. Dafis, a.y.b. Roedd eu fersiwn Cymraeg o 'Teenage Kicks' gan yr 'Undertones' a'r clasur 'C'mon Everybody' gan Eddie Cochran yn hollol unigryw. Roedd pob math o ganeuon yn y set, yn amrywio o'r ysgafn i'r gymharol drwm. Roedd yn amlwg eu bod yn ymwybodol o'u cynulleidfa, wrth i'r canwr annog clapio a stompio, a chamu oddi ar y llwyfan ar un adeg i fod yn agosach at y llawr ddawnsio. Band i blesio eu torf yw 'Coda' yn sicr. Roedd y drymiau'n parhau rhwng y caneuon, gan gynnal yr awyrgylch drwy'r set gyfan.
Poppies: Beth sydd i'w ddweud am Poppies na ddywedwyd o'r blaen? Maen nhw, heb amheuaeth, yn un o'r bandiau Cymraeg modern gorau. Adlewyrchwyd hyn gan y ffaith bod tair o'u caneuon wedi ymddangos yn siart 100 Mawredd Mawr Radio Cymru. Roedd perfformiad y band sefydlog hwn yn un hyderus. Roedd eu caneuon yn adnabyddus i bawb, ac roedden nhw'n benderfynol o ddiddanu'r dorf. Sain unigryw sydd gan y band erbyn hyn, ac roedd pawb yn dawnsio i'r traciau o'r nodyn cyntaf hyd y diwedd. 'Cam' a 'Sex Sells' sydd yn sefyll allan o blith eu set, ac roedd hi'n braf eu gweld nhw'n glynu wrth eu gwreiddiau Cymraeg drwy'r set, rhywbeth nad ydyn nhw bob amser wedi llwyddo i'w wneud. Perfformiad campus!
Trac y noson Byddai rhai'n dadlau mai 'Sex Sells' yw prif drac Poppies, ond ar y noson, 'Cam' oedd fy ffefryn i. Roedd yr angerdd i'w glywed yn y trac, ac roedd pawb yn galw am fwy ar ddiwedd y gân.
Uchafbwynt y noson Gweld band ifanc fel 'Coda' yn cynnal yr SRG (Sîn Roc Gymraeg) - mae'n ddyfodol addawol os bydd bandiau fel hyn gyda ni am flynyddoedd i ddod. Doeddwn i heb glywed eu deunydd o'r blaen (heblaw am 'Ar Noson Fel Hon' yng Nghân i Gymru 2004). Mae'r band wedi bod gyda'i gilydd ers ychydig flynyddoedd, ond dim ond ers mis Medi yn eu ffurf bresennol, gyda delwedd a gwneuthuriad newydd i'r band.
Y peth gwaethaf am y noson Roedd hi'n anodd clywed y siarad rhwng y traciau pan fu'r ddau fand yn cyflwyno'r traciau - byddai hyn wedi bod o fantais i'r dorf, yn enwedig o safbwynt 'Coda' gan nad yw'r caneuon yn adnabyddus eto.
Achlysur Roc a Rôl Canwr 'Coda' yn ymddwyn fel arweinydd côr rhwng y darnau lleisiol yn y caneuon - delwedd hollol ddoniol ar gyfer band roc a rôl!
Beth sy'n aros yn y cof? Gweld canwr 'Coda' yn cymysgu gyda'r dorf yn ystod eu set. Roedd hyn yn adlewyrchu naws y noson i'r dim. Roedd 'Noson Fel Hon', trac a berfformiwyd gan aelod o 'Coda' ar gyfer Cân i Gymru 2004, yn dod ag ias i'r cefn hefyd.
Talent gorau'r noson Mae'n anodd penderfynu rhwng y ddau fand - roedd 'Poppies' ar eu gorau unwaith eto, ond fe ddangosodd 'Coda' eu bod nhw'n gyfforddus iawn ar yr SRG.
Marciau allan o ddeg 9/10
Un gair am y gig Rocio! Unrhyw sylwadau eraill?
Cofiwch yr enw 'Coda'! Byddan nhw'n chwarae mewn gig gyda Tangwystl ar Ragfyr 29ain yn Llanbedr (Cymdeithas yr Iaith) ac yna gyda Fflur Dafydd a'r Barf ar Chwefror 10fed 2006 yn Llandysul - dylai'r rhain fod yn wych!!! Lincs gwefan www.ybandcoda.co.uk www.poppies.tv Sesiwn ac Adolygiad Poppies www.menterabertawe.org
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |