BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imagePoppies, Amlder
Abertawe, Ionawr 2005
Alun Rhys Chivers


Lle a phryd
Gwener y Grolsch, Ty Tawe, Abertawe, Ionawr 28ain, 2005

Y bandiau
Poppies, Amlder a set 'stand-yp' gan Ceri Phillips

Awyrgylch
Naws ymlaciedig oedd i'r noson, ond fe aeth hi'n fywiocach wrth fynd ymlaen. Braf oedd gweld cynifer o bobl yno, yn enwedig nifer fawr o fyfyrwyr - roedd y lle'n wirioneddol llawn dop!! Dwi ddim yn cofio gweld cymaint o bobl yno erioed!! Ni siomwyd yr un ohonom!

Trac y noson
Mae'n anodd dewis un yn benodol - roedd set gyfan 'Poppies' yn wych.

Disgrifiwch y perfformiadau
Dechreuwyd y noson gyda set 'Amlder', sydd yn fand ifanc o Landeilo. Roedd dau brif leisydd, oedd hefyd yn chwarae'r gitâr, a drymiwr. Roedd eu set yn gymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg. Maen nhw'n sicr yn gerddorion talentog, ond roedd eu lleisiau'n rhy gryf i'r math o gerddoriaeth roedden nhw'n ei chwarae. Cafwyd addasiad gwreiddiol iawn ganddynt o 'Wonderwall', trac enwog 'Oasis'.

Torrwyd ar y gerddoriaeth gyda set 'stand-yp' gan foi ifanc lleol, Ceri Phillips (sydd yn wyneb cyfarwydd iawn yn Nhy Tawe). Roedd ei berfformiad yn hyderus, a chryfhaodd wrth fynd ymlaen. Mae'n cryfhau gyda phob perfformiad. Roedd tipyn o'i ddeunydd wedi'i seilio ar Dreforys, lle mae'n byw. Roedd ei jôcs yn agos iawn at yr asgwrn ar adegau, ond roedd ei agwedd tafod-yn-ei-foch yn llwyddiannus! Ymatebodd y dorf yn dda iddo drwy'r set. Mae talent ym myd comedi amgen Cymraeg yn brin iawn. Gydag ychydig mwy o gigs, fe allai greu marchnad newydd a gosod sylfaen i gomediwyr ifainc eraill. Gwyliwch mas amdano yn y dyfodol!

Cafwyd agoriad hyderus gan brif atyniad y noson, sef 'Poppies', band ifanc sydd wedi'i leoli yn Aberystwyth, gydag un aelod o'r band, Eifion, yn dychwelyd adre' am y gig. Roedd eu set yn llawn roc weddol drwm. Mae'r band yn parhau i fynd o nerth i nerth, a sylwyd bod eu perfformiad wedi cryfhau unwaith eto ers ymddangos yn 'Tyrfe Tawe'. Maen nhw'n sicr yn fand egnïol a dawnus â ganddyn nhw ddyfodol disglair.



Uchafbwynt y noson
Perfformiad 'Poppies' - gwefreiddiol!

Y peth gwaethaf am y noson
Roedd perfformiad 'Amlder' yn siomedig, ond mae digon o amser am welliant eto.

Achlysur Roc a Rôl
Gweld pa mor hyderus oedd aelodau'r 'Poppies' ar y llwyfan - "We are the Poppies from Aberystwyth!"

Beth sy'n aros yn y cof?
Ceri Phillips - ddim i'r gwangalon!!!

Talent gorau'r noson
Poppies

Marciau allan o ddeg
8

Un gair am y gig
Unigryw!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Dewch yn gynnar i'r 'Gwener y Grolsch' nesaf i osgoi siom - mae'n debygol o fod yn llawn!

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy