BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageFrizbee, Cŵn Poeth
Abertawe, Medi 2005
Alun Rhys Chivers


Lle a phryd
Noson GYTS a Gwener y Grolsch, Tŷ Tawe, Abertawe, Medi 16 2005

Y bandiau
Cŵn Poeth, Frizbee, stand-yp a chyflwynydd y noson a chadeirydd GYTS Gŵyr, Ceri Phillips

Awyrgylch
Roedd y lle'n llawn ymhell cyn dechrau'r gig (sy'n anarferol mewn gig Cymraeg), a phawb yn ysu am gael bod yn rhan o gig gyntaf GYTS Gŵyr (Gwna Ymdrech Trwy Siarad), cynllun i hybu Cymreictod ymhlith pobl ifanc y De a grëwyd gan 6ed dosbarth ysgolion Gŵyr, Strade a Dyffryn Aman. Roedd nifer sylweddol o'r dorf yn dod o'r ysgolion hyn, ynghyd â sawl stiwdant Prifysgol a nifer o gyn-fyfyrwyr, ac roedd yn braf gweld nifer o wynebau newydd hefyd. Roedd yr awyrgylch yn drydanol a phawb yn teimlo'r wefr. Roedd y goleuadau'n isel ar ddechrau'r noson, yn gweddu'n berffaith i set ymlaciedig Cŵn Poeth.

Roedd hi'n amhosib symud ar adegau yn ystod y noson, a phawb yn brwydro i gyrraedd y bar. Roedd yr ystafell mor llawn nes bod ffrind i mi, sydd bob amser angen gweld y bar, yn dechrau teimlo'n anesmwyth! Dwi'n gwybod fod angen i bobl clostroffobig weld y drws, ond beth yw'r enw ar rywun sydd angen gweld y bar? (ie, Jon...tybed!!!)

Newidiodd yr awyrgylch wedi i Frizbee ddod i'r llwyfan. Roedd pawb ar eu traed yn dawnsio rhwng y cadeiriau a'r byrddau. Roedd y llwyfan estynedig hefyd yn golygu llai o le i ddawnsio.

Trac y noson
O bell ffordd, 'Da Ni Nôl' gan Frizbee. Am un peth, dyma fy hoff drac ganddyn nhw - mae'r trac ychydig yn gawslyd ac yn ffefryn gan bawb ar noson fywiog fel hon. Yn ychwanegol, os ydych chi wedi clywed fersiwn fyw o'r gân, byddwch chi'n gwybod fod Ywain Gwynedd (canwr Frizbee) yn hoff o newid yr enw yn y cytgan - y tro hwn, Dai o Fenter Iaith Abertawe (DJ Dai Bry!) oedd targed y canwr. Cafwyd tipyn o hwyl!!!

Disgrifiwch y perfformiadau
Dyma'r tro cyntaf i mi weld Cŵn Poeth yn fyw, ac roedd hi'n gwbl amlwg o'r dechrau y byddwn i'n mwynhau eu set. Sain yr haf i mi yw'r holl ganeuon acwstig sydd wedi bod yn y siartiau, ac roedd rhywbeth tebyg gan y band ifanc hwn o Rydaman, cystadleuwyr rownd derfynol Brwydr y Bandiau 2004, i'w gynnig. Dywedodd aelod o'r gynulleidfa pe byddai James Blunt yn Gymro a bod sawl James Blunt yn fyw, yna Cŵn Poeth fyddai eu henw!!!

Roedd y cymysgedd o leisiau'n creu amrywiaeth sain yn y caneuon heb golli eu hunaniaeth. Roeddynt yn cynnig seiniau gwerinol i roc a phop, ac yn edrych yn gwbl hyderus wrth newid offerynnau trwy gydol eu set. Roedd 'Afon Aman' yn ffefryn gan y dorf, ac mae'n amlwg fod ganddyn nhw griw o gefnogwyr selog yn y cwm. Wedi eu clywed ar C2, ro'n i'n edrych ymlaen at glywed 'D Reg Ford Fiesta', sydd yn drac nad yw'r band yn hoff ohono, mae'n debyg, ond yn un adnabyddus fodd bynnag. Roedd hi'n werth aros amdani!!

"Hanner canllath o dy dŷ di...." Geiriau cyfarwydd i ffans Frizbee, ac arwydd fod y band nôl yn y ddinas unwaith eto. Roedd eu set yn gymysgedd o'r hen ffefrynnau o'r albwm 'Hirnos' yn ogystal ag amrywiaeth o draciau diweddarach, gan gynnwys eu fersiwn unigryw o'r clasur roc a rôl, 'Johnny Be Good'. Roedd hi'n amhosib i'r dorf aros ar eu heistedd o'r dechrau un, ac o fewn eiliadau, roedd y llawr ddawns yn llawn. Er bod nifer sylweddol o bobl wedi gadael ar ddiwedd set Cŵn Poeth, roedd y lle'n dal i fyrlymu, gyda'r dorf yn mynd i hwyl wedi cael sawl diodyn! Yn gorffen y set oedd 'Dora Gusan' a 'Hirnos' yn encore.

Roedd Ceri Phillips nôl ar lwyfan Tŷ Tawe gyda'i gomedi cyn a rhwng setiau'r bandiau. Dyma'i berfformiad gorau hyd yn hyn ac roedd yn gwbl hyderus ynddo'i hun, er y byddwn i wedi hoffi clywed mwy o'i hiwmor. Ei ddawn i arsylwi pynciau cyfoes yw cryfder ei set, gyda'i jôcs wedi eu seilio ar faterion dadleuol gan amlaf.

Uchafbwynt y noson
Frizbee yn cyfaddef mai Tŷ Tawe a'u sefydlodd fel band - tipyn o hwb i'r sin Gymraeg yn y De ac i'r Fenter Iaith.

Y peth gwaethaf am y noson
Diffyg ymateb y dorf i 'Hen Wlad Fy Nhadau', gydag Ywain Gwynedd yn cyfeilio ar y gitâr.

Achlysur Roc a Rôl
Fel yr arfer mewn gigs Abertawe, roedd sawl achlysur sydd yn dod i feddwl!

Bu'n rhaid i Cŵn Poeth ail-berfformio sawl cân yn eu hail set, a Ceri Phillips yn dod i'r llwyfan yn cyhoeddi "Ar ôl yr absoliwt cawlach 'na, ma' Cŵn Poeth mo'yn perfformo 'to!". Does dim angen dweud fod y dorf yn rhuo chwerthin!!! (jôc, wrth gwrs!)

Roedd hi'n amlwg fod Cŵn Poeth yn adnabod rhai o wynebau Gŵyr, ond o rywle hollol wahanol i gig!! - "Nag y'ch chi'n gwisgo'r stiwpid green iwnifforms 'na heno y'ch chi?" - roc a rôl go iawn!

Beth sy'n aros yn y cof?
Frizbee yn canu 'Bing-bong-y-bing-bong-be' - roedd hi'n teimlo fel pe bawn i yn yr ysgol gynradd unwaith eto!

Talent gorau'r noson
Byddai'n hawdd iawn dweud Frizbee, ond am fand ifanc, roedd Cŵn Poeth yn wych - nhw sy'n mynd â hi!

Marciau allan o ddeg
9

Un gair am y gig
Waw!!!

Unrhyw gyngor neu sylwadau eraill?

Ewch i'r bar ar ddechrau'r noson ac arhoswch yno!
Gwyliwch allan am Frizbee yn Tyrfe Tawe ar nos Sadwrn, Hydref 15fed yn yr Inferno, yr Uplands.

Pob hwyl i GYTS - syniad gwych a gobeithio fod y cynllun yn llwyddo!

Cysylltiadau'r we
www.friz-b.co.uk
Sesiwn C2 gan Frizbee
www.menterabertawe.org
www.tyrfe-tawe.com

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy