 | Fflur Dafydd a'r Barf Caerdydd, Medi 2005 Iwan England
Lle a phryd Gwesty'r Riverbank, Riverside, Caerdydd Medi 1, 2005
Y bandiau Fflur Dafydd a'r Barf - noson lansio'r albwm 'Coch Am Weddill Fy Oes'.
Awyrgylch 'Hamddenol' yw'r gair sy'n crisialu naws y bar selar dywyll - y lleoliad delfrydol ar gyfer cabaret myglyd neu jazz swynol. Roedd y band yn amlwg wedi gwneud ymdrech fawr ar gyfer noson lansio eu halbwm gynta, gan addurno'r llwyfan gyda phlanhigion egsotig, llwythi o ddefnydd coch a stribedi o oleuadau bychain, ac roedd y lle'n llawn dop gyda theulu, ffrindiau, a glitterati diwylliannol a cherddorol y brifddinas. Cynulleidfa eclectig ar gyfer noson cerddorol anarferol.Roedd mwyafrif y gynulleidfa wedi dod i wrando'n astud ar y caneuon, ac roedd y gerddoriaeth bregus a swynol yn gofyn am fwy o ganolbwyntiad nag yn eich gig chwyslyd arferol.
Trac y noson Byth Mynd i Newid / Y Gwir am Gelwydd. Dyma ddau o draciau mwyaf cyhyrog a chadarn y noson, oedd yn dangos geiriau clyfar Fflur a thalentau'r band ar eu gorau.
Disgrifiwch y perfformiadau Cafwyd set acwstig i gychwyn, oedd yn datgelu ochr mwy bregus rhai o'r caneuon. Roedd yr alawon a'r trefniant syml yn atgoffa rhywun o ganeuon torcalonus Aimee Mann pan mae hi ar ei mwya synfyfyriol, er fod tipyn mwy o hiwmor yng nghaneuon Fflur. Fel y byddech chi'n ddisgwyl gan rywun sydd wedi ennill torreth o wobrau llenyddol, mae geiriau Fflur yn fwy diddorol na'r hyn gewch chi gan fandiau arferol, ac roedd y set cyntaf yn cyfleu hyn yn berffaith. Yn ail hanner y noson cafwyd set gyda'r band llawn, a dyma ddangos ochr mwy cyhyrog i gerddoriaeth Fflur. Roedd naws jazz cryf ar gychwyn y set yma, a thua'r diwedd ychwanegwyd mwy o elfennau ffync bywiog. Roedd y perfformiad tynn hefyd yn dangos y llu o dalentau cerddorol sydd yn y band, a'r ffordd mae'n nhw'n clymu'n berffaith wrth ddehongli caneuon Fflur. Y prif wendid efallai oedd fod steils cerddorol y noson yn pwyntio at sawl cyfeiriad gwahanol. Roedd yr acwstig synfyfyriol, jazz hamddenol Norah Jonesaidd, a'r ffync mwy cyhyrog yn awgrymu cerddor sy'n dilyn nifer fawr o ddylanwadau gwahanol i gyd ar yr un pryd. Serch hynny, roedd Fflur a'r band yn llwyddo i newid gêr cerddorol heb unrhyw drafferth ar hyd y noson, gan arwain y gynulleidfa gyda nhw bob cam o'r ffordd.
Uchafbwynt y noson Y gymeradwyaeth wresog ar ddiwedd y noson oedd yn dangos yn glir faint oedd y gynulleidfa wedi mwynhau.
Y peth gwaethaf am y noson Y criw bychan o bobl yng nghefn y bar oedd yn siarad trwy gydol caneuon mwyaf tawel a synfyfyriol y noson.
Achlysur Roc a Rol Fflur yn dweud wrth y bobl hyn i gario mlaen â'u siarad ar ôl i drefnwyr y noson ofyn iddyn nhw gau eu cegau.
Beth sy'n aros yn y cof? Sgidiau bach coch Fflur, sydd hefyd yn ymddangos ar glawr yr albwm.
Marciau allan o ddeg 8/10
Un (neu ddau!) air am y gig Hamddenol a Hyfryd
Unrhyw sylwadau eraill Prynwch yr albwm. Cysylltiadau perthnasol: 1. Gwefan Fflur Dafydd a'r Barf 2. Sesiwn C2 gan Fflur Dafydd a'r Barf
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |