 | Euros Childs Caerdydd, Tach 2005 Awen Schiavone
Lle a phryd Buffalo Bar, Caerdydd, Tachwedd 29 2005
Y bandiau Euros Childs ac Alun Tan Lan. Enw'r adolygydd
Adolygiad gan Awen Schiavone.
Awyrgylch Cynhyrfus ond ymlaciol - y lle'n llawn reit o'r cychwyn, a pawb yno i werthfawrogi'r gerddoriaeth - awyrgylch perffaith.
Trac y Noson 'Dawnsio dros y mor' gan Euros Childs - y dyn aml-dalentog yn dangos ei ddawnau anhygoel yn eithriadol o dda!
Disgrifiwch y perfformiadau
Alun Tan Lan - dyn dawnus tu hwnt sydd wedi dod i amlygrwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf trwy gigio'n gyson ledled Cymru. Mae'n amlwg fod Alun ychydig yn nerfus, ond mae'n cynnal y disgwyliadau, ac yn perfformio set o hanner awr agos-atoch ac o'r galon. Perfformiodd y set heb ei fand, gan ddefnyddio tua phedwar gitar gwahanol! Mae'r set yn dechrau'n ddistaw a theimladwy, ac yn datblygu'n bwerus iawn. Mae'n perfformio caneuon o'i ddwy albwm, ambell i gân newydd a chyfar o gân Meic Stevens, ac yn amlwg yn plesio'r dorf yn ofnadwy. Euros Childs - mae Euros, prif leisydd Gorky's Zygotic Mynci, yn llawn haeddu cael ei alw yn rywbeth agos at genius, a dwi ddim yn mynd yn rhy bell! Mae'n perfformio set o ryw awr gyda'i fand Peter Richardson ac Alun Tan Lan. Mae'r set yn hollol wefreiddiol o'r dechrau i'w diwedd, ac yn sicr yn dal sylw'r gynulleidfa drwy ei chydol. Mae Euros yn dechrau ei berfformiad gyda chân weddol ddistaw country-westernaidd, ac mae'r set yn datblygu'n gyflym i berfformiad llawn egni. Mae'r ail gân 'Dawnsio dros y môr' yn weddol debyg i sdwff y Gorky's, ond yn amlwg yn ddatblygiad pellach. Mae'n perfformio fersiwn unigryw o 'Pentref wrth y môr' - Gorky's, ac yn amlwg yn mwynhau ei hun. Mae caneuon Euros yn bendant yn chwa o awyr iach, ac yn sicr mae'r gynulleidfa wrth eu bodd. Does dim ond lle i fwynhau'r perfformiad, gyda bwriad Euros wrth greu ei albwm newydd gan ddod "mor agos a phosibl at gerddoriaeth parti" yn dod a'i ddychymyg yn agos at ddychymyg plentyn. Mae 'Y Mwnci Drwg', ac 'Ar Lan y Môr' yn amlwg yn blentynaidd eu naws, maent yn annisgwyl ac yn arbrofol, ac yn llawn doniolwch geirfaol a pherfformiadol. Mae'r noson yn profi fod dychymyg anhygoel gan Euros, a gellir ddim ond cwyno nad oedd y set yn para am byth! Yn sicr, roedd pawb yn y gynulleidfa yno i werthfawrogi'r gerddoriaeth, a phawb yn bendant wedi eu plesio a'u hudo gan dalent unigryw ac anhygoel Euros Childs.
Uchafbwynt y noson 'Y Mwnci Drwg' gan Euros Childs, sef b-side ei sengl cyntaf 'Donkey Island'. Cân am fwnci drygionus lle mae Euros yn defnyddio'i ddawn anhygoel i gynhyrchu synau o fwnci yn effeithiol iawn, ac ar yr un pryd yn hollol ddoniol!
Y peth gwaethaf am y noson Nad oedd y noson yn para'n hirach - roedd pawb yn eiddgar am gael clywed Euros yn dod nôl i'r llwyfan, ond ni ddaeth.
Beth sy'n aros yn y cof? Synau unigryw yn dod allan o geg Euros. A hefyd straeon Euros am fynd i'r sgip!
Talent gorau'r noson Euros Childs yn bendant, does gennyf ddim gair drwg i ddweud am ei berfformiad perffaith!
Marciau allan o ddeg 10 yn bendant!
Un gair am y gig Athrylith!
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Cyngor: Ewch i weld Euros Childs - mae'n wych! Rhybudd: Y Buffalo Bar ddim y feniw gorau i gynnal gig, dwi'n siwr nad oedd y rhai yng nghefn yr ystafell yn gweld llawer! Cysylltiadau'r we euroschilds.com Newyddion Euros Childs Sesiynau Alun Tan Lan i C2
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |