 | Meic Stevens, Estella Caernarfon, Meh 2005 Iwan Roberts
Adolygwr Iwan RobertsLle a phryd Gig "Roc Y Cofi" - Cofi Roc - Nos Wener 4ydd o Fehefin, 2005
Yr Artistiaid Meic Stevens, Estella, Gwilym Morus
Awyrgylch Gwych, er bod yna ormod o gyfryngis a pseudo-gyfryngis yna! Er bod yna dros 500 o bobl wedi mynd i'r gig erbyn y diwedd, fel pob gig Cymraeg, gwael oedd y niferoedd ar ddechrau'r noson gan fod cynulleidfaoedd Cymraeg yn rhy brysur yn ei "lysho hi" mewn tafarndai eraill! Ond rhaid dweud bod ymateb y gynulleidfa yn dda iawn ar y cyfan, yn enwedig yn ystod perfformiad Meic.
Trac y noson Dim Ond Cysgodion - perfformiad byr rybudd gan Estella a Meic Stevens o glasur Mr Stevens. Pethau byr rybudd, newydd sy'n gwneud nosweithiau fel hyn yn rhai arbennig.
Disgrifiwch y perfformiadau Piti bod Gwilym Morus heb gael y gynulleidfa oedd o yn ei haeddu, er fod ei ganeuon, ar y cyfan, yn ymdebygu i gerddoriaeth cefndirol beth bynnag. Er hyn, rhaid deud ei fod yn berfformiwr dawnus iawn, ond ddim digon "o fynd" ynddo i ddenu gynulleidfa Caernarfon mor gynnar yn y noson heb gweddill y band tu ôl iddo.
Uchafbwynt y noson Meic Stevens - hen ddyn y Sin Roc Gymraeg, yn wefreiddiol, fel yr arfer.
Y peth gwaethaf am y noson Meic Stevens yn gorfod gadael y llwyfan yn gynnar, yn ôl y sôn, gan ei fod wedi bod yn sâl yn ystod yr wythnos.
Achlysur Roc a Rôl Meic Stevens yn gadael y llwyfan yn gynnar, efo hanner botel o win yn ei law. ("Medicinal Purposes" yn unig dwi'n siwr!) Beth sy'n aros yn y cof? Perfformiadau gwych, cwrw oer, a merched del.
Talent gorau'r noson Prif Gitarydd band Meic Stevens, "Old Bean", yn camu i'r adwy mewn steil ar ôl i Meic adael y llwyfan, efo perfformiadau anhygoel o glasuron Hendrix a unrhyw gân "Air Gitâr" allwch feddwl amdanynt!
Marciau allan o ddeg 8/10 - Perfformiadau da iawn, noson llawn hwyl. (Tynnu marciau am ddiffyg gynulleidfa ar ddechrau'r noson) Un gair am y gig Cnau
Unrhyw sylwadau eraill? Mae Cofi Roc yn awyddus i wneud nosweithiau bandiau Cymraeg yn beth rheolaidd, gyda'r gig nesaf ar yr 2ail o Orffennaf gyda Huw Chiswell, Elin Fflur ac Acoustique - os oes unrhyw fand yn awyddus i berfformio yno yn y dyfodol gyrrwch e-bost i rasal@sain.wales.com gyda'ch manylion cyswllt - does ddim ots pa steil gerddorol - mae angen amrywiaeth i gynnal y gynulleidfa!
Lincs gwefan cofiroc.com estella.org.uk Newyddion Meic Stevens ar C2 Newyddion Estella ar C2 Gigs Cymru Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |