 | Brigyn a Mattoidz Caerdydd, Hydref 2005 Lois Dafydd
Lle a phryd Callaghans, Caerdydd - 28ain Hydref 2005
Y bandiau Brigyn a Mattoidz
Awyrgylch Awyrgylch hollol hamddenol yng nghwmni ffrindiau a cherddoriaeth dda. Rhai wedi dod yn benodol i weld y gig ac eraill yna er mwyn cymdeithasu, ond pawb yn ymateb yn dda i'r ddau fand, a'r lle'n orlawn erbyn y diwedd. Lleoliad da am gig acwstig, ond braidd yn fyglyd!
Trac y noson Cassandra gan Mattoidz sy'n aros yn y cof - perfformiad byw gan Gareth, ac yn enghraifft o'r acwstig yn cwrdd â'r roc!
Disgrifiwch y perfformiadau
Mattoidz: Heb weld Mattoidz yn gwneud set acwstig o'r blaen, felly ro'n ni'n eithaf chwilfrydig - a fyddai'r caneuon yn gweddu i noson o'r fath? Oedden! Dwi ddim yn credu y gallech chi alw'r set yn un acwstig, fel y cyfryw, ond ro'dd fersiynau 'tawelach' y caneuon yn gweithio'n dda. Y Sos Coch swnllyd (er, nid mor swnllyd ag arfer) yn cloi perfformiad egniol arall, a'n amlwg eu bod nhw, a rhai aelodau o'r gynulleidfa, yn dal nôl! Brigyn: Ro'dd mwy o bobl wedi cyrraedd erbyn set Brigyn, ac felly ro'dd yr ymateb yn fwy, yn ogystal â'r siarad cefndirol. Ond na'th hynny ddim amharu ar y mwynhad. Cyfle i glywed caneuon oddi ar yr albwm newydd - hoff iawn o Diwrnod Marchnad - a chaneuon oddi ar yr albwm cyntaf. Braf clywed ambell un o ganeuon Epitaff hefyd, felly set yn llawn cymysgedd. Perfformiad hamddenol ond cadarn iawn. Cydbwysedd dda ac iach rhwng perfformiadau'r ddau fand.
Uchafbwynt y noson Fod hon yn gig Cymraeg mewn tafarn/clwb sydd ddim yn un Cymraeg/Cymreig, felly'n gyfle i bobl na fydde'n ystyried mynd i noson o'r fath glywed dau o dalentau mawr cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Y peth gwaethaf am y noson Y mwg!
Achlysur Roc a Rôl Hefin Mattoidz yn canu'r Ketchup Song yng nghanol eu cân (well) nhw, Sos Coch, ac yn canu'r rhannau sydd fel arfer yn cael eu creu gan chwarae celfydd Rhys ar y gitâr, gan ei fod e'n absennol - wedi ymuno â'r fyddin yn Sandhurst, yn ôl y band! Hefyd, Donut Ashokan yn gofyn am 'Rebal Weekend' a chaneuon McFly yn ystod set Mattoidz, ond yn ofer!
Beth sy'n aros yn y cof? Dawnsio rhyfedd gan rai o selogion Callaghans!!
Talent gorau'r noson Mattoidz - yn dangos eu gallu i addasu eu perfformiad.
Marciau allan o ddeg 9 - perfformiadau gwych eto
Un gair am y gig Cymysg Cysylltiadau'r we: Sesiwn C2 gan Brigyn Sesiwn C2 gan Mattoidz Newyddion am Brigyn
|  |