 | Sibrydion, Jen Jeniro... Aberystwyth, Tach 2005 Leusa Llewelyn
Lle a phryd Y Cŵps, Aberystwyth - Nos Wener y 4ydd o Dachwedd, 2005
Y bandiau Baban Sgwiral, Jen Jeniro, Sibrydion
Awyrgylch Y dafarn yn llawn i'r ymylon - a wynebau newydd i'w gweld oherwydd ei bod yn benwythnos Rhyng-gol yn Aberystwyth! Pawb yn gyfeillgar ac i'w gweld yn falch o gyfarfod hen ffrindiau eto - felly lot o siarad ac ambell i gân dawel yn cael ei cholli oherwydd hyn. Ond erbyn y diwedd mwy o sylw yn cael ei roi i'r gerddoriaeth - a llawer yn dawnsio (iep, fi eto).
Trac y noson 'Canol y Ffordd' gan Jen Jeniro - cân am Bryn Fôn. Mae'r geiriau ar ffurf rap, ac mae hi'n andros o ddoniol. Cân sy'n fy nghael i yn fy nyblau bob tro!
Disgrifiwch y perfformiadau
Baban Sgwiral: Band gweddol ffresh i'r sin, neis gweld talent newydd ar lwyfan y Cŵps. Caneuon popi bywiog, hwylus. Neis gweld merch yn arwain y sioe, a Mari yn gneud job dda ohoni er gwaetha'r holl siarad dros y caneuon tawel.
Jen Jeniro: Wedi gwirioni efo rhein ers eu gweld ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Bangor. Sawl cân hefo steils gwahanol sy'n llwyddo i hoelio sylw'r gynulleidfa. Set andros o ddiddorol, sy'n beth od i ddweud am fand! Caneuon doniol [gweler trac y noson!]
Sibrydion: Wedi llwyddo i gael set fyw arbennig at ei gilydd - pob cân yn wych, ac yn llwyddo i gael y Cŵps i ddawnsio ar y seti! Uchafbwynt y set - y gân Arthur a gloiodd y noson yn wych.
Uchafbwynt y noson Dawnsio i'r Sibrydion! A cân 'Canol y Ffordd'.
Y peth gwaethaf am y noson Yr holl siarad dros ganeuon Baban Sgwiral - mae'n cymryd lot o hyder i berfformio yn unigol hefo gitar, ac mae'n anoddach hefo sŵn.
Achlysur Roc a Rol Doedd dim roc a rôl yn y Cŵps heno yn anffodus, hefo steils lot mwy pop.
Beth sy'n aros yn y cof? Pob dim, diolch yn fawr!
Talent gorau'r noson Pob aelod o Baban Sgwiral - pawb yn gallu chwarae eu hofferynnau yn dda iawn - ac mae'n neud gwahaniaeth pendant yn y sŵn.
Marciau allan o ddeg 6/10
Un gair am y gig Gwahanol Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Ewch i weld Baban Sgwiral neu Jen Jeniro os ydyn nhw'n gigio'n agos - gwerth gweld y llwyth o fands newydd sydd newydd landio ar y sîn. Lincs gwefan Blog Baban Sgwiral Sesiwn ac Adolygiad Sibrydion Rasal
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |